Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor iechyd y cyhoedd ar gyfer byw gyda coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Byw gyda’r coronafeirws

Rydym wedi dysgu cymaint yn ystod y pandemig. Gwnaeth pob un ohonom newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithio, yn byw ac yn cymdeithasu, a hynny er mwyn amddiffyn ein gilydd a chadw Cymru yn ddiogel. Gellir defnyddio'r newidiadau hyn nid yn unig i'n hamddiffyn rhag tonnau o’r coronafeirws i ddod yn y dyfodol, ond rhag heintiau eraill fel y ffliw a’r norofeirws.

Os gwnawn ni i gyd barhau i ddilyn y patrymau ymddygiad canlynol i’n hamddiffyn, gallwn barhau i gadw’n gilydd a Chymru yn ddiogel:

  • cael ein brechu
  • sicrhau hylendid dwylo da
  • arhoswch gartref os ydym yn sâl ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill
  • gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur dan do neu fannau caeedig, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal
  • cwrdd ag eraill yn yr awyr agored
  • pan fyddwn dan do, cynyddu’r awyru a gadael awyr iach i mewn os yw’n bosibl

Sut mae’r coronafeirws yn cael ei ledaenu

Dyma’r ffyrdd mwyaf cyffredin i’r coronafeirws ledaenu:

  • drwy'r awyr fel aerosol sy'n gallu aros yn yr awyr am gyfnod hir
  • drwy'r awyr fel defnynnau sy'n gallu lledaenu o fewn ardal agos ac i arwynebau
  • cysylltiad uniongyrchol â pherson sydd wedi’i heintio
  • cysylltiad uniongyrchol ag arwyneb sydd wedi’i halogi

Mae hyn yn ein helpu i ddeall pa fath o lefydd a sefyllfaoedd sy’n creu’r risg fwyaf. Bydd llefydd lle down i gysylltiad agos â llawer o bobl eraill yn risg uwch, felly. Yn yr un modd, bydd llefydd nad ydynt wedi’u hawyru’n dda yn golygu nad yw hen awyr yn gallu dianc nac awyr iach yn gallu dod i mewn, sy’n rhoi cyfle i’r coronafeirws gronni. Gall llefydd lle mae pobl yn anadlu'n drymach hefyd fod yn gyfle i’r coronafeirws ledaenu ymhellach. Mae’r llefydd canlynol yn dwyn risg neilltuol, felly:

  • mannau dan do nad ydynt wedi’u hawyru’n dda
  • mannau dan do lle mae pobl, yn enwedig llawer o bobl, gyda’i gilydd am gyfnod hir
  • unrhyw le, yn enwedig dan do, lle mae pobl mewn cysylltiad agos â’i gilydd 
  • unrhyw le, yn enwedig dan do, lle mae pobl yn anadlu’n drwm yn agos at ei gilydd neu am gyfnodau estynedig, ee oherwydd ymarfer corff egnïol, yn canu’n uchel, yn llafarganu, neu’n gweiddi, yn peswch neu’n tisian

Darlunnir y gwahanol ffyrdd y mae’r coronafeirws yn lledaenu yn y diagram isod.

Image
Mae defnynnau llai wedi eu heintio yn teithio ymhellach ac yn para yn yr aer am fwy o amser. Dylech wella awyru i leihau'r risg.

Sut i leihau'r risg

Cael eich brechu

Brechu yw ein hamddiffyniad gorau o hyd yn erbyn COVID-19. Maent wedi achub bywydau ac wedi atal llawer o bobl rhag gorfod cael triniaeth ysbyty.

Dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu. Hyd yn oed os ydych wedi cael COVID-19, mae'n dal yn bwysig eich bod yn cael y pigiad i gynyddu eich amddiffyniad, os ry’ch chi'n gymwys.

Rydyn ni'n annog y rheini sy'n gymwys i gael eu brechu pan fyddan nhw'n cael eu gwahoddiadau.

Hylendid dwylo da

Mae golchi eich dwylo gyda sebon a dŵr, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo yn rheolaidd pan nad oes gennych sebon a dŵr, yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Mae ein dwylo'n cyffwrdd â llawer o arwynebau drwy gydol y dydd, a gall hyn helpu'r feirws i symud o gwmpas. Os oes gennych y feirws ar eich dwylo, gallwch ei drosglwyddo i arwynebau eraill neu i'ch llygaid, eich trwyn neu'ch ceg. Dyma un ffordd y gall feirysau fynd i mewn i'ch corff a'ch heintio. Mae golchi neu ddiheintio eich dwylo yn cael gwared ar feirysau a germau eraill, felly rydych yn llai tebygol o'u lledaenu neu o gael eich heintio.

Arhoswch adref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill os oes gennych symptomau

I leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill dylech aros adref os ydych yn sâl ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill os oes gennych chi symptomau neu os ydych yn cael prawf positif.

Os oes gennych symptomau ac nad ydych yn gallu aros adref, dyma ffyrdd y gallwch leihau’r risg o basio’r feirws i eraill:

  • Gwisgwch orchudd wyneb os oes angen ichi fod o dan do gydag eraill – mae hyn yn amddiffyn eraill rhag dal y feirws
  • Ceisiwch leihau nifer y bobl rydych yn eu gweld ac yn treulio amser gyda nhw. Y lleiaf o bobl y byddwch yn eu gweld, y lleiaf o bobl y byddwch yn eu heintio. Po hiraf yw’r amser y byddwch yn ei dreulio gyda phobl, y mwyaf tebygol ydyw y byddant yn dal y feirws
  • Cadwch bellter corfforol oddi wrth eraill – bydd aros o leiaf 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl nad ydych yn byw gyda nhw yn gallu lleihau’r tebygolrwydd y bydd y feirws yn lledaenu. Mae hefyd yn syniad da i gadw pellter oddi wrth aelodau eraill eich aelwyd cymaint â phosibl, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed.

Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored

Mae cwrdd ag eraill yn yr awyr agored yn fwy diogel na dan do gan fod llai o risg o heintio eraill. Mae’r coronafeirws yn lledaenu drwy ronynnau a gludir drwy’r awyr pan fyddwn yn anadlu ac yn siarad, a hyd yn oed yn fwy wrth chwerthin, gweiddi neu ymarfer corff. Drwy wneud y gweithgareddau hyn yn yr awyr agored, gall yr awyr iach chwythu'r gronynnau i ffwrdd, gan helpu i leihau'r lledaeniad.

Pan fyddwch dan do, cynyddu’r awyru a gadael awyr iach i mewn

Gall agor ffenestri a drysau, os ydych y tu mewn, helpu i leihau nifer y gronynnau heintus sy'n aros o’ch cwmpas. Gall awyr iach helpu i leihau'r lledaeniad. Mae’r coronafeirws yn lledaenu drwy ronynnau a gludir drwy’r awyr pan fyddwn yn anadlu ac yn siarad, a hyd yn oed yn fwy wrth chwerthin, gweiddi neu ymarfer corff. Mae gwneud unrhyw un o'r pethau hyn y tu mewn, lle nad oes awyru effeithiol, yn cynyddu'r risg hyd yn oed yn fwy.