Sut mae rheoliadau coronafeirws yn effeithio ar nanis neu eu cyflogwyr.
Cynnwys
Diogelwch a chadw pellter corfforol yn y cartref teuluol neu weithle arall
Os ydych eisoes yn defnyddio nani, rhaid i chi ystyried eich gofynion o ran gofal plant a’ch amgylchiadau teuluol. Rhaid i chi ddilyn y canllawiau cyfreithiol ynghylch cynnal pellter corfforol yn y gweithle. Rhaid i chi hefyd fod yn ymwybodol o risgiau posibl i unrhywun yn y gweithle hwnnw a allai ddeillio o ddefnyddio nani.
Cyflogi nani
Caiff unrhywun gyflogi nani yn ystod argyfwng y coronafeirws. Dylech ystyried anghenion eich teulu am ofal plant a’ch patrymau gwaith.
Gofal ychwanegol y dylech ei gymryd wrth ofalu am blant yn eu cartrefi
Dylech ddilyn cyngor y Llywodraeth ar y coronafeirws.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- Golchi’ch dwylo yn aml, am o leiaf 20 eiliad (yn enwedig pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith ac yn dychwelyd adref)
- Defnyddio lliain ar wahân i sychu’ch dwylo (peidiwch â rhannu lliain ag aelodau’r teulu na’r plentyn rydych yn gofalu amdano)
- Cynnal pellter corfforol i’r graddau pellaf posibl ag aelodau’r teulu ac eraill nad ydych yn gofalu amdanynt
- Ni ddylech fynd i’r gwaith os oes gennych chi, neu unrhywun yn eich cartref eich hun, symptomau COVID-19, yn hytrach rhaid i chi hunanynysu
Aelwydydd sy’n hunanynysu neu os ydych chi neu rywun ar yr aelwyd yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol
Ni ddylech weithio ar aelwyd sy’n hunanynysu, ond cewch roi gofal plant mewn argyfwng os yw plentyn ifanc yn mynd i gael ei adael heb ofal. Os ydych chi, neu rywun yn y cartref, yn eithriadol o agored i niwed, dylech ystyried ynghyd â’r teulu y risgiau a’r manteision, a dod i gytundeb ynghylch p’un a ddylech barhau i ddarparu gwasanaeth i’r teulu o dan yr amgylchiadau. Os ydych chi a’r teulu’n cytuno y dylech barhau i weithio yn y cartref, rhaid i chi a’r teulu ddilyn cyngor y Llywodraeth ar amddiffyn eich hun ac eraill.
Nanis sy’n byw gyda theulu
Dylech ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ynghylch aros gartref a chadw pellter cymdeithasol.
Cymorth ariannol i nanis os nad ydynt yn gallu gweithio
Gallwch edrych ar gynlluniau cefnogaeth ariannol y Llywodraeth am gymorth, neu siaradwch â’ch awdurdod lleol i gael cyngor.