Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-destun

Yn ddiweddar comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau ddarn o ymchwil drwy Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (IACW): un ar y tirlun arloesi yng Nghymru, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a gynhaliwyd gan dîm o Brifysgol Caerdydd; un ar gymaryddion arloesi rhyngwladol, gan dîm o Amplyfi. Daeth yr ymchwil hon i ben ddiwedd mis Mawrth 2021, ac yna cyflwynodd IACW gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r argymhellion hyn, ynghyd â fersiynau llawn y ddau adroddiad ymchwil, ar gael ar dudalennau gwe'r IACW.

Mae'r Tîm Arloesi yn Llywodraeth Cymru wrthi bellach yn trafod â rhanddeiliaid, i glywed barn ar yr ymchwil, ac i lywio penderfyniadau a strategaethau yn y dyfodol. Bydd cyfanswm o dair sesiwn ffurfiol i drafod â rhanddeiliaid: un wedi'i hanelu'n fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, un ar gyfer y sector cyhoeddus, ac un ar gyfer y sector preifat.

Y digwyddiad

Cynhaliwyd digwyddiad mewnol Llywodraeth Cymru ar 5 Mai, ac roeddem yn cynnwys tua 70 o gydweithwyr o sawl adran wahanol. Cafodd yr holl gyfranogwyr gyfle i ddarllen yr adroddiadau a'r argymhellion cyn y sesiwn.

Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o’r adrannau a ganlyn:

  • Yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol:
    • Busnes a Rhanbarthau
    • Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio
    • Seilwaith yr Economi
    • Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
    • Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru
  • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
    • Y Gyfarwyddiaeth Technoleg a Thrawsnewid
  • Swyddfa’r Prif Weinidog:
    • Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach
    • Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
  • Grŵp yr Ysgrifennydd Parhaol:
    • Y Gyfarwyddiaeth Adfer ac Ailddechrau yn sgil Covid-19

Agenda

  1. Croeso gan y Tîm Arloesi
  2. Cyflwyniad i’r ymchwil gan IACW
  3. Cyflwyniad gan Dîm Prifysgol Caerdydd
  4. Cyflwyniad gan Dîm Amplyfi
  5. Trafodaeth Gyffredinol

Cwestiynau allweddol

Gofynnodd y Tîm Arloesi bum cwestiwn i’r cyfranogwyr ymlaen llaw, i ddechrau’r drafodaeth:

  1. Ydych chi'n teimlo bod yr ymchwil hon yn cyflwyno'r achos dros Strategaeth Arloesi newydd?
  2. Beth yw eich ymateb i'r alwad am un Strategaeth Arloesi unedig gan Lywodraeth Cymru?
  3. Ydych chi'n credu bod angen rhyw fath o Gorff Arloesi Cenedlaethol yng Nghymru?
  4. A oes unrhyw feysydd allweddol y credwch fod yr adroddiadau wedi'u methu?
  5. A oes unrhyw bwyntiau yn yr ymchwil yr ydych yn cytuno/anghytuno'n gryf â hwy?

Themâu allweddol i’w trafod

Dull integredig: Roedd awydd cryf am strategaeth arloesi integredig gan Lywodraeth Cymru, gan groesi ffiniau gwahanol adrannau, a bwydo i mewn i sawl maes polisi. Gobeithio y byddai hyn wedyn yn arwain at weledigaeth gyfunol a chydlynol gan y llywodraeth ar gyfer dyfodol arloesi yng Nghymru.

Ecosystem arloesi: Mae angen i arloesedd, ymchwil a sgiliau ddod yn flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar chwalu seilos, ac ar adeiladu ecosystem arloesi.

Buddsoddiad cymdeithasol: Roedd awydd i gysylltu buddsoddiad mewn arloesi â swyddi a chanlyniadau economaidd – i ddangos yn glir bod system arloesi gref yn arwain at gymdeithas gryfach.

Buddsoddiad cymdeithasol: Roedd awydd i gysylltu buddsoddiad mewn arloesi â swyddi a chanlyniadau economaidd – i ddangos yn glir bod system arloesi gref yn arwain at gymdeithas gryfach.

Caffael: Cododd sawl cyfranogwr bwyntiau ynghylch ysgogi caffael yn y sector cyhoeddus i gefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi. Roedd cwestiynau ynghylch sut i godi ymwybyddiaeth o risg yn hytrach na osgoi risg yn y sector cyhoeddus.
Cymhellion ac ysgrifennu ceisiadau o ansawdd: Cafwyd trafodaeth ynghylch sut i gymell a gwobrwyo arloesedd, a sut i wella ansawdd a chyfradd llwyddiant ysgrifennu ceisiadau a cheisiadau am gyllid.

Arloesi cymdeithasol: Pwysleisiodd darnau ymchwil Caerdydd ac Amplyfi arloesedd cymdeithasol a chynaliadwyedd. Roedd y cyfranogwyr yn falch o weld cyfeiriadau at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac i feithrin cysylltiadau rhwng y rhain a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Adborth

Os oes gennych unrhyw adborth ar yr ymchwil, neu ar ymgysylltu â rhanddeiliaid hyd yma, anfonwch e-bost InnovationStrategy@llyw.cymru i gyfrannu at y drafodaeth.