Bydd y cod ymarfer hwn a’i atodiadau’n cael eu hadolygu’n barhaus yn wyneb profiad a datblygiadau’r dyfodol. Hefyd, bydd yn cael ei adolygu gan yr ysgrifenyddiaeth ar ddiwedd pob blwyddyn.

Cyflwyniad

Nid corff cynghori cyhoeddus ffurfiol mo’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru (y Cyngor Cynghori). Does dim gofynion cyfreithiol yn y modd mae’n cynnal ei fusnes.

Fodd bynnag, mae’n bwysig fod y Cyngor Cynghori yn dilyn ei god ymarfer ei hun, fel y gall Llywodraeth Cymru fod yn hyderus o ddidueddrwydd, ansawdd a defnyddioldeb ei gyngor. Felly, mae angen i’r Cyngor weithio’n dryloyw ac yn gywir dros ben. Felly, mae’r cod canlynol wedi’i addasu’n agos o un sy’n cael ei ddefnyddio gan gyrff cynghori cyhoeddus ffurfiol ledled y DU.

Gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus

1. Rhaid i aelodau’r Cyngor bob amser:

  • ddilyn y safonau uchaf o ddidueddrwydd, uniondeb a gwrthrychedd o ran y cynghorion a ddarparant a’u hymwneud â’r Cyngor Cynghori
  • fod yn atebol i Lywodraeth Cymru trwy Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru am ei weithgareddau ac am safon y cyngor y mae’n ei ddarparu
  • gweithredu mewn modd clir ac agored.

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

2. Rhaid i holl aelodau’r Cyngor wneud y canlynol:

  • dilyn 7 egwyddor bywyd cyhoeddus a gyflwynir gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (yn atodiad A)
  • cydymffurfio â’r cod hwn, a sicrhau eu bod nhw’n deall eu dyletswyddau, eu hawliau a’u cyfrifoldebau, a’u bod nhw’n gyfarwydd â rôl a swyddogaeth y corff hwn ac unrhyw ddatganiadau polisi perthnasol
  • peidio â chamddefnyddio gwybodaeth a gawsant fel rhan o waith y Cyngor Cynghori er budd personol neu at ddibenion gwleidyddol, na cheisio defnyddio gwasanaeth y Cyngor Cynghori i hyrwyddo eu buddiannau personol neu rai unigolion, cwmnïau, busnesau cysylltiedig neu sefydliadau eraill
  • hysbysu Cadeirydd y Cyngor Cynghori os ydynt yn dal swydd, neu’n bwriadu derbyn swydd amlwg gydag unrhyw blaid wleidyddol. Wrth gyfrannu at weithgareddau eraill, dylai aelodau’r Cyngor Cynghori gofio am eu safle o fewn y Cyngor a defnyddio eu disgresiwn.

Rôl aelodau’r Cyngor Cynghori

3. Mae gan yr aelodau gyfrifoldeb ar y cyd dros redeg y Cyngor Cynghori. Rhaid iddyn nhw wneud y canlynol:

  • cyfrannu’n llawn at drin a thrafod y materion, gan ystyried amrywiaeth lawn o ffactorau perthnasol, gan gynnwys rhai a godwyd gan Lywodraeth Cymru
  • cytuno ar Adroddiadau’r Cyngor 
  • ymateb yn brydlon i geisiadau am wybodaeth a chwynion, fel bo’r angen, gan gyfeirio at swyddogion Llywodraeth Cymru.

4. Fel arfer, bydd cysylltiadau cyfathrebu ffurfiol rhwng y Cyngor Cynghori a Llywodraeth Cymru yn cael eu gwneud trwy gyfrwng y Cydgadeiryddion, heblaw pan mae’r Cyngor wedi cytuno y dylai’r aelod unigol weithredu ar ei ran.

5. Gall Llywodraeth Cymru dynnu aelodau unigol o’r Cyngor, ar ôl trafod gyda’r Cydgadeiryddion, os na fyddant yn cydymffurfio ag amodau a thelerau’r aelodaeth a nodwyd wrth eu penodi yn y lle cyntaf, neu os nad ydynt yn cyflawni’r dyletswyddau disgwyliedig, fel y nodwyd yn y Cod Ymarfer.

Rolau Cadeirydd ac Isgadeirydd y Cyngor Cynghori

6. Dyletswyddau cyffredinol:

  1. Cadeirio’r Cyngor Cynghori
  2. Cynrychioli barn a safbwyntiau’r Cyngor i Lywodraeth Cymru a rhoi cyngor gwyddonol strategol i Lywodraeth Cymru
  3. Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gynrychioli buddiannau gwyddonol amrywiol Cymru i gynulleidfaoedd allanol
  4. Hyrwyddo’r maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ledled Cymru’n fwy cyffredinol.

7. Amcanion penodol:

  1. Cyfrannu at y broses o benodi aelodau’r Cyngor Cynghori ac, ar y cyd ag Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Cynghori, sicrhau bod yr holl aelodau’n cael digon o wybodaeth am rôl y Cyngor Cynghori ac yn derbyn hyfforddiant priodol i’w hanghenion
  2. Law yn llaw ag aelodau’r Cyngor Cynghori, diffinio a chytuno ar raglen waith y Cyngor CynghoriSicrhau bod y Cyngor Cynghori yn cyfarfod ar adegau rheolaidd, a bod cofnodion y cyfarfodydd ac unrhyw adroddiadau i weinidogion yn adlewyrchiad cywir o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud a, lle bo’n briodol, barn yr aelodau unigol.
  3. Cwrdd â gweinidogion i drafod gwaith y Cyngor Cynghori.

8. Mae rolau penodol dau Gydgadeirydd y Cyngor Cynghori wedi’u hamlinellu yn atodiad B. Rhagwelir y bydd y rolau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

9. Bydd y Cyngor Cynghori yn:

  1. cynghori’r Prif Gynghorydd Gwyddonol a, thrwyddyn nhw, Llywodraeth Cymru, ar amrywiaeth eang o faterion gwyddonol a pholisïau cysylltiedig â gwyddoniaeth a fydd yn helpu i ddatblygu a chynnal economi Cymru a chodi safon bywyd pobl Cymru; mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth wyddonol Cymru ar gyfer y problemau sydd o’i blaen a gwella enw da Cymru fel gwlad sy’n ymgysylltu ac yn gefnogol o wyddoniaeth.
  2. rhoi cyngor i’r Prif Gynghorydd Gwyddonol ar strategaeth, polisi a blaenoriaethau gwyddonol fel bod Llywodraeth Cymru’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyngor, y wybodaeth a’r technegau gwyddonol sydd ar gael er mwyn pennu a gweithredu polisïau i ategu’r holl amcanion gwahanol 
  3. cymryd safbwynt tymor canolig i’r hirdymor, gan ddefnyddio proses sganio’r gorwel, wrth baratoi ei gyngor.
  4. cyfleu barn y Cyngor Cynghori wrth y cyhoedd a’r cyfryngau a chynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfodydd, digwyddiadau a swyddogaethau, fel a phan fo’n briodol.

Gwrthdaro buddiannau

10. Diben y darpariaethau hyn yw osgoi unrhyw berygl i aelodau’r Cyngor Cynghori gael eu dylanwadu, neu’n ymddangos fel pe baen nhw’n cael eu dylanwadu, gan eu buddiannau preifat wrth arfer dyletswyddau’r Cyngor Cynghori.

11. Felly, dylai holl aelodau’r Cyngor Cynghori ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fusnes a allai ddylanwadu ar eu penderfyniad, neu a allai gael ei weld felly (gan aelod rhesymol o’r cyhoedd). Dylai hyn gynnwys y canlynol o leiaf - buddiannau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol, a dylai hefyd gynnwys buddiannau aelodau agos o’r teulu a phobl sy’n byw ar yr un aelwyd.

Bydd y gofrestr buddiannau’n cael ei diweddaru’n rheolaidd ac ar gael i bawb ar dudalennau’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

12. Mae buddiannau ariannol anuniongyrchol yn deillio o gysylltiadau â chyrff sydd â buddiant ariannol uniongyrchol neu o fod yn bartner busnes i, neu gael ei gyflogi gan, rywun â buddiant o’r fath. Mae buddiannau anariannol yn cynnwys rhai sy’n deillio o fod yn aelod o glybiau a sefydliadau eraill. Mae aelodau agos o’r teulu yn cynnwys partneriaid personol, rhieni, plant (hŷn ac iau), brodyr, chwiorydd a phartneriaid personol unrhyw un o’r rhain.

13. Dylid hefyd ddatgan unrhyw fuddiannau yn unrhyw un o gyfarfodydd y Cyngor Cynghori os yw’n ymwneud yn benodol â mater penodol sydd dan ystyriaeth, er mwyn nodi hynny yn y cofnodion.

14. Ni ddylai aelodau o’r Cyngor Cynghori gymryd rhan mewn trafodaeth neu benderfynu ar faterion y mae ganddynt fuddiannau ynddynt, a dylent adael y cyfarfod:

  • os yw’r buddiant yn uniongyrchol ac ariannol, neu
  • os yw’r buddiant dan sylw wedi’i gynnwys mewn canllawiau penodol gan y Cyngor Cynghori sy’n gofyn iddynt beidio cymryd rhan a/neu adael y cyfarfod.

Atodiad A

7 egwyddor bywyd cyhoeddus

  • Anhunanoldeb: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd a hynny'n unig. Ni ddylent weithredu er mwyn cael budd ariannol neu fudd arall iddynt eu hunain, eu teuluoedd na'u cyfeillion.
  • Uniondeb: Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus eu gosod eu hunain o dan unrhyw ymrwymiad ariannol nac ymrwymiad arall i unigolion neu sefydliadau allanol a allai geisio dylanwadu arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.
  • Gwrthrychedd: Wrth gynnal busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrau a buddion, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud dewisiadau ar sail rhinwedd
  • Atebolrwydd: Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd i'r cyhoedd a rhaid iddynt dderbyn unrhyw graffu a fo'n briodol i'w swyddi.
  • Bod yn agored: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored ag y bo modd ynglŷn â’r holl benderfyniadau a chamau gweithredu a gymerant. Dylent roi rhesymau am eu penderfyniadau ac ni ddylent gyfyngu ar wybodaeth ac eithrio pan fo'n amlwg fod hynny er budd y cyhoedd.
  • Gonestrwydd: Mae dyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fudd preifat yn ymwneud â'u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy'n codi mewn ffordd sy'n diogelu budd y cyhoedd.
  • Arweinyddiaeth: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion hyn trwy arweiniad ac esiampl.

public-standards.gov.uk/the-seven-principles

Atodiad B

Rolau Cadeirydd ac Isgadeirydd y Cyngor Cynghori

Bydd gan y Cadeirydd (Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru) a’r Cydgadeirydd (aelod annibynnol o’r Cyngor Cynghori) rolau unigryw fel yr amlinellir isod:

Rôl y Cadeirydd

  1. Cadeirio cyfarfodydd y Cyngor Cynghori ar y cyd â Chydgadeirydd annibynnol, lle bydd eitemau unigol ar yr agenda yn cael eu neilltuo i’r Cadeirydd neu’r Cydgadeirydd annibynnol
  2. Hwyluso cysylltiadau rhwng y Cyngor Cynghori a gweinidogion Llywodraeth Cymru 
  3. Hyrwyddo a hwyluso cysylltiadau rhwng y Cyngor Cynghori a Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad Cenedlaethol
  4. Helpu’r Cyngor Cynghori i gael gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru a’r cyrff cyhoeddus a noddir 
  5. Helpu’r Cyngor Cynghori i gael gwybodaeth gan adrannau llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus anadrannol, lle bo’n briodol
  6. Darparu gwybodaeth gefndir i’r Cyngor Cynghori ar bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â gwyddoniaeth
  7. Awgrymu pynciau ar gyfer rhaglen waith y Cyngor Cynghori
  8. Rheoli busnes y Cyngor Cynghori rhwng cyfarfodydd â’r Cydgadeirydd a’r Ysgrifenyddiaeth annibynnol.

Rôl y Cydgadeirydd Annibynnol

  1. Cadeirio cyfarfodydd y Cyngor Cynghori ar y cyd â’r Prif Gynghorydd Gwyddonol, lle bydd eitemau penodol ar yr agenda yn cael eu neilltuo i’r Cadeirydd neu’r Cydgadeirydd
  2. Cynnig busnes y Cyngor Cynghori (ar ôl trafod gydag aelodau’r Cyngor Cynghori)
  3. Bod yn bwynt cyswllt ffurfiol gyda Phrif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru
  4. Cadeirio cyfarfodydd ac eitemau penodol ar yr agenda yn enwedig pan lle mae’r Cyngor Cynghori yn llunio ac yn cytuno ar ei gyngor i weinidogion Llywodraeth Cymru
  5. Rheoli busnes y Cyngor Cynghori rhwng cyfarfodydd, gyda’r Prif Gynghorydd Gwyddonol a’r Ysgrifenyddiaeth
  6. Cyflwyno cyngor ac argymhellion y Cyngor Cynghori i’r Prif Gynghorydd ac  ar y cyd â’r Prif Gynghorydd Gwyddonol i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru
  7. Chwarae rhan allweddol yn natblygiad rhaglen waith y Cyngor Cynghori.