Neidio i'r prif gynnwy

Yn sgil amcangyfrif bod £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru, mae ymdrech newydd ar waith i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo ac i gynyddu incwm eu haelwydydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy fuddsoddiad o £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae cyngor cyfrinachol ac am ddim ar gael i arwain pobl drwy'r broses hawlio, gan ddefnyddio gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl i gynyddu incwm.

Caiff y gwasanaethau hynny eu cefnogi gan ymgyrch genedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru , sef Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi, sy'n rhoi cyngor ar sut i hawlio'r budd-daliadau a allai fod ar gael i chi. P'un a ydyw'n ymwneud â gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gofalwr neu Gredyd Pensiwn, mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd angen cyngor ar yr hawliau ariannol sydd ar gael iddynt trwy linell gymorth Advicelink Cymru 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.

Ers ei lansio yn 2020, mae gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu pobl ledled Cymru i sicrhau £160 miliwn o incwm ychwanegol a dileu £43.6 miliwn o ddyledion. Ac y llynedd, roedd llinell gymorth Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gynnal gan wasanaethau lleol Cyngor ar Bopeth, wedi helpu 36,800 o bobl i ddatrys dros 120,000 o broblemau ariannol, tai a chyflogaeth.

Meddai Dylan Jordan, cynghorydd yng nghanolfan Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr: 

"Mae llawer o bobl yn dod i Gyngor ar Bopeth gan fod angen help arnyn nhw ond dydyn nhw ddim yn gwybod ble i ddechrau. Rydyn ni'n gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr arian y mae ganddyn nhw hawl iddo ac unrhyw gymorth brys sydd ei angen arnyn nhw ar y pryd. Gallai hynny fod yn barsel bwyd, yn daleb ar gyfer tanwydd, neu gymorth ariannol tuag at wisg ysgol drwy Lywodraeth Cymru. Byddwn ni'n gwneud ein gorau i'ch helpu i symud ymlaen."

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: 

"Mae sicrhau bod pobl yn gwneud cais am yr hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd ledled Cymru.  Rydyn ni wedi ymrwymo i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl. P'un a ydych chi'n cael trafferth i dalu costau bob dydd, yn rheoli dyledion, neu'n ansicr ynghylch pa gymorth sydd ar gael, rydyn ni wedi sicrhau bod cyngor a chymorth i chi gael hawlio'r cymorth ariannol sy'n ddyledus i chi."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wneud proses hawlio'r budd-daliadau, y grantiau a'r taliadau eraill, megis Prydau Ysgol am Ddim, Grant Hanfodion Ysgolion a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor mor syml ag y gallant fod. Fel rhan o'r gwaith i symleiddio Budd-daliadau Cymru, mae prosiect peilot newydd gwerth £550,000 gyda'r cwmni dadansoddi data, Policy in Practice, yn gweithio ag 11 awdurdod lleol i geisio cyrraedd y bobl nad ydynt efallai'n sylweddoli eu bod yn gymwys i gael cymorth.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) dros Gyllid:

Rydym yn llwyr gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu pobl i hawlio'r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Gall sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn cael y budd-daliadau y maent yn gymwys ar eu cyfer wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd, fel yr argyfwng costau byw parhaus. Trwy ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, gallwn nid yn unig wella lles ariannol unigolion ond hefyd gryfhau cymunedau ledled Cymru.

Mae CLlLC wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid i symleiddio'r broses hawlio a helpu pobl i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi gwneud gwaith gyda Policy in Practice. Ac roedd y gwaith hwnnw wedi cynhyrchu enillion incwm sylweddol o ran y nifer a oedd wedi hawlio credyd pensiwn.

Mae cynghorwyr Advicelink Cymru 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yn barod i'ch helpu i wirio a ydych yn gymwys i gael incwm ychwanegol ac i'ch tywys drwy'r broses hawlio. I gael cyngor am ddim, ffoniwch 0800 702 2020