Neidio i'r prif gynnwy

Argymhelliad 1

Dylai Gyrfa Cymru ddatblygu systemau a meini prawf priodol i werthuso’r effaith a gaiff gwasanaethau ar effeithiolrwydd a gwydnwch pobl ifanc wrth iddynt gynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Gyrfa Cymru i archwilio dull mwy hydredol o werthuso ei ddarpariaeth gwasanaeth yn unol â’r dyheadau o fewn y strategaeth Dyfodol Disglair.

Argymhelliad 2

Dylai Gyrfa Cymru sicrhau bod gwerthuso effeithiol, wedi’i seilio ar dystiolaeth gywir, gynhwysfawr a pherthnasol, yn llywio cynllunio strategol a gwella ansawdd.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru er mwyn symud yr argymhelliad hwn ymlaen gan gymryd cyngor gan yr Uned Cyrff Cyhoeddus ar arferion gorau.

Argymhelliad 3

Dylai Gyrfa Cymru gryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau gyrfaoedd eraill i wella cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu arfer dda.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Mae cysylltiadau cryf iawn eisoes yn bodoli gyda chwmnïau gyrfaoedd ar draws y DU. Cynhaliwyd nifer o brosiectau ar y cyd â Skills Development Scotland ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr yng Nghanada ar ymchwil i fanteision cyngor gyrfaoedd ar iechyd a lles pobl ifanc. Bydd y gwaith hwn yn parhau ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Argymhelliad 4

Dylai Gyrfa Cymru sicrhau bod dadansoddi o weithgareddau sicrhau ansawdd yn cael ei fwydo’n ôl i ysgolion unigol i gryfhau addysg gyrfaoedd ac addysg yn gysylltiedig â gwaith.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Mae gyrfaoedd a’r byd addysg gysylltiedig â gwaith yn rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a chyfrifoldeb ysgolion yw cyflawni’r rhaglen honno o waith. Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion i sicrhau bod dysgwyr yn deall gwerth y gweithgareddau meithrin cysylltiadau â chyflogwyr y maent yn ymgymryd â hwy.

Argymhelliad 5

Dylai Gyrfa Cymru sicrhau bod pob un o’r staff yn hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc o werth y Gymraeg fel medr cyflogaeth.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gyrfa Cymru ar yr argymhelliad hwn. Mae gan Gyrfa Cymru bolisi cwbl ddwyieithog i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid yn eu dewis iaith, mae pob cyhoeddiad a chyfrwng yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Argymhelliad 6

Dylai Gyrfa Cymru sicrhau bod pob un o’r staff yn deall trefniadau a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer diogelu pobl ifanc, yn cynnwys pwy yw person diogelu dynodedig Gyrfa Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod hyn gyda bwrdd Gyrfa Cymru. Mater gweithredol ar gyfer Gyrfa Cymru yw hwn.