Neidio i'r prif gynnwy

Erthygl a ysgrifennwyd gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros newid mewn agweddau at gerdded a beicio ers pan oeddwn yn 11 oed. Ni allwn ddeall pam y byddai ceidwad y parc lleol yn fy hel i oddi ar fy meic ond yn caniatáu i dryciau'r cyngor deithio drwy barc Rhydaman. Fel plentyn, roedd y beic yn rhoi rhyddid imi, ac roedd yn fy ngwylltio nad oedd pobl yn cymryd fy null teithio o ddifrif – roedd hynny'n annheg yn fy marn i. Cafodd fy llythyr yn protestio i bapur newydd y ‘South Wales Guardian’ ei droi'n erthygl a dyma ddechrau fy ngweithredu. A dyma hefyd oedd fy ngwers gyntaf mewn ymgyrchu: mae cwyno'n gweithio, hyd at ryw fan.

Dychwelais at yr ymgyrch yn 2007 fel Cyfarwyddwr Sustrans yng Nghymru gan lansio ymgyrch i greu cyfraith fel y byddai'n rhaid i'r Llywodraeth a chynghorau lleol ystyried beicio o ddifrif. Pasiwyd y Ddeddf Teithio Llesol gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn 2013. Fy ail wers mewn ymgyrchu: mae deddfwriaeth yn gweithio, hyd at ryw fan.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, cefais fy mhenodi'n Weinidog â chyfrifoldeb am deithio llesol yng Nghymru a dros yr 20 mis diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio i fireinio ein dulliau cyflawni. Rydym yn gwario mwy nag erioed o'r blaen ar greu seilwaith i annog mwy o bobl i deithio ar droed neu ar feic – rydym eisoes wedi buddsoddi dros £95 miliwn ers i'r Llywodraeth hon gael ei hethol yn 2016. A'm trydedd wers mewn ymgyrchu: mae arian yn gwneud gwahaniaeth, hyd at ryw fan.

Er gwaethaf yr holl fframweithiau deddfwriaethol a'r holl fuddsoddiadau i gefnogi teithio llesol, nid wyf yn credu y gallai unrhyw un honni eto ein bod wedi cyflawni'r nod yn llwyr. Bydd yn brosiect a fydd yn cwmpasu sawl cenhedlaeth; ac mae agweddau a gwerthoedd yr un mor bwysig â pheirianneg. Rydym wedi datblygu system drafnidiaeth sy'n canolbwyntio ar ei gwneud hi'n hawdd gyrru car ac sy'n gosod rhwystrau yn erbyn dulliau teithio llesol. Mae angen inni sicrhau mai cerdded a beicio yw'r opsiynau trafnidiaeth mwyaf cyfleus ar gyfer teithiau byrrach i gynifer o bobl â phosibl.

Mae elfen amlwg yn gysylltiedig â dosbarth a rhywedd y mae'n rhaid inni ei hwynebu hefyd. Mewn arfarniadau trafnidiaeth, ystyrir bod y rhai nad ydynt yn defnyddio ceir yn werth llai i'r economi ac ni chânt eu blaenoriaethu, gan eu gorfodi'n aml i ‘fuddsoddi’ mewn car – ar gyfartaledd gall yr 20% tlotaf o'r boblogaeth wario 25% o'u hincwm ar redeg car. Os ydych yn gwario 10% o'ch incwm ar wresogi eich cartref ystyrir eich bod yn byw mewn ‘tlodi tanwydd’, ond nid oes categori cyfatebol ar gyfer ‘tlodi trafnidiaeth’ eto. Yn wir, rydym yn aml yn parhau i sefydlu gwasanaethu allweddol mewn lleoliadau sy'n anodd iawn eu cyrraedd heb gar. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi mabwysiadu dull ‘canol y dref yn gyntaf’ ond rydym yn byw gyda'r penderfyniadau a wnaed yn y gorffennol.

Mae'r rhwystrau i allu cerdded a beicio'n hawdd er mwyn cyflawni teithiau cyffredin hefyd yn cael effaith anghymesur ar fenywod. Fel y nodwyd yn drawiadol gan Caroline Criado Perez yn ei llyfr Invisible Women, mae tybiaethau'r system drafnidiaeth yn llawn tueddiadau gwrywaidd. Mae beicio yn enghraifft berffaith, am bob un fenyw sy'n beicio, mae dau ddyn yn gwneud hynny.

Mae'r prif faich o ran cyfrifoldebau gofalu yn parhau i gael ei ysgwyddo gan fenywod ar y cyfan, a gall hyn greu patrymau teithio mwy cymhleth, ond mae'r ffordd y caiff rhwydweithiau trafnidiaeth eu cynllunio, gan gynnwys llwybrau teithio llesol, yn aml yn adlewyrchu patrymau teithio cymudwyr traddodiadol. Ychydig o ystyriaeth a roddir i sut y gellid annog rhiant prysur, neu rywun sy'n llai hyderus ar feic, i jyglo blaenoriaethau niferus a sawl llwybr i gyrraedd y gwaith a'r ysgol. Rhaid inni ymdrin â'r diffyg hwn o ran dyluniad y system.

Un o'm prif arsylwadau o 13 blynedd wedi ymgolli yn y gwaith o roi prosiectau cerdded a beicio ar waith yw mai agenda iechyd sy'n gysylltiedig â theithio llesol yn bennaf, ond ei fod yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol ym maes trafnidiaeth i'w gyflawni; ond o safbwynt trafnidiaeth, materion ymylol yw cerdded a beicio. Yn ddiau mae nifer o fanteision i iechyd y cyhoedd, ond pan mai dim ond 2% o deithiau a gwblheir ar feic, mae manteision ffocws ar deithio llesol o safbwynt trafnidiaeth yn fwy dadleuol. Felly dyma'r her: sut y gallwn sicrhau y caiff teithio llesol ei ystyried o ddifrif fel prosiect trafnidiaeth prif ffrwd sy'n rhan o raglen newid moddol?

Mae gan brotestio, deddfwriaeth a chyllid oll eu rhan i'w chwarae, ond er eu bod yn angenrheidiol ni fyddant byth yn ddigon i gyflawni'r newid sydd ei angen er mwyn gwella ansawdd aer, lleihau clefydau y gellir eu hatal, lleihau allyriadau carbon a lleihau tagfeydd.

Yng Nghymru, rydym yn gweithredu mewn modd strategol wrth gynllunio seilwaith. Yn hytrach na llwybrau datgysylltiedig sy'n dibynnu'n obeithiol ar gyfleoedd ariannu byrdymor, mae'r Ddeddf Teithio Llesol wedi rhoi fframwaith cynllunio tymor hwy ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau nodi trosolwg hir o'u huchelgeisiau dros gyfnod o 15 mlynedd wedi'i ategu gan gynlluniau tair blynedd treigl.

Yn ystod ei wrandawiadau ar weithredu'r Ddeddf, clywodd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd (yr oeddwn yn aelod ohono ar y pryd) fod cynghorau yn gyndyn o nodi llwybrau posibl ar gyfer y dyfodol am eu bod ofn y byddent yn codi gobeithion pobl leol ac y byddai diffyg cyllid yn eu hatal rhag eu bodloni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy gynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer teithio llesol yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd £35m eleni. Gwnaethom gynyddu'r swm hwn ymhellach ar gyfer mesurau dros dro mewn ymateb i COVID-19, a gwnaethom glustnodi £9m o'r cyllid hwnnw er mwyn sicrhau bod pob cyngor yn cael cyllid i weithio ar gynlluniau yn y dyfodol (ac i wneud rhai gwelliannau bach ar unwaith).

Mae hynny wedi helpu.

Rwyf am roi cymorth i gynghorau lleol i wrando ar bobl nad ydynt yn cwblhau teithiau lleol ar droed neu ar feic ar hyn o bryd i'w helpu i ddeall pa seilwaith sydd ei angen er mwyn iddynt roi cynnig arni. Ar ôl gwneud hynny, byddwn mewn sefyllfa well i lunio amrywiaeth o gynlluniau sy'n creu cysylltiadau i fwy o bobl rhwng ble maent yn byw a ble maent am fynd. A gallwn sicrhau ein bod yn gwario arian yn y lleoedd cywir, ar y math cywir o seilwaith a fydd yn annog pobl i gerdded a beicio mwy. Nid oes diben gwario mwy o arian ar gynlluniau os na fydd y cynnyrch terfynol yn addas; ni fydd hynny'n annog unrhyw un i adael ei gar gartref.

Ein ffocws nesaf yw uwchsgilio'r gweithwyr proffesiynol a sicrhau bod y defnyddwyr terfynol a dargedir wrth wraidd y dull gweithredu. Mae Phil Jones ac Adrian Lord wedi diweddaru ein canllaw dylunio teithio llesol ac rydym wrthi'n mynd drwy'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym hefyd yn gweithio gyda chyrff proffesiynol (y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant) i ddylunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer swyddogion trafnidiaeth a chynllunio er mwyn iddynt ddeall arferion gorau a'u rhoi ar waith.

Y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid i gynghorau gyhoeddi cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer eu rhwydwaith lleol o lwybrau a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru eu cymeradwyo. Bydd yr holl gyllid yn y dyfodol yn gysylltiedig â'r llwybrau a nodir yn y Mapiau Rhwydwaith Integredig hyn. Y tro diwethaf y digwyddodd hyn, roedd gwaith gwirioneddol gan awdurdodau lleol i ymgysylltu â'r cyhoedd yn dameidiog: yn ardal un cyngor, dim ond 13 o bobl a ymatebodd i'r ‘ymgynghoriad’.

Y tro hwn, rwyf wedi clustnodi cyllid i helpu timau mewn awdurdodau lleol sy'n brin o adnoddau fel y gallant dreulio amser gydag ystod amrywiol o ddarpar ddefnyddwyr y dyfodol er mwyn gofyn y cwestiwn:

"pa gyfleusterau y byddai eu hangen i'ch annog i gerdded neu feicio? 

Byddaf yn disgwyl i gynghorau ddefnyddio'r wybodaeth hon i flaenoriaethu eu ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.

Rwy'n cydnabod yn llwyr bod cyni wedi cael effaith wirioneddol ar allu cynghorau i gyflawni. Roedd cerdded a beicio eisoes yn faes a oedd yn brin o adnoddau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ac mae hynny wedi gwaethygu mewn rhai ardaloedd o ganlyniad i'r toriadau y mae cynghorau wedi eu hwynebu. Nid oes swyddog teithio llesol penodedig mewn nifer o gynghorau ac felly nid ydynt mewn sefyllfa dda i wneud cais am gyllid. Mae angen inni atgyfnerthu'r sgiliau a'r gallu i gyflawni'r agenda hon. Hoffwn weld cynghorau yn gwneud mwy o waith yn rhanbarthol fel y gallant gyfuno eu harbenigedd a'u gallu. Rwyf wedi gofyn i grŵp bach o swyddogion cynghorau ddatblygu cynigion ar gyfer trefniadau adolygu cymheiriaid fel y gall awdurdodau cyfagos helpu ei gilydd er mwyn cael y siawns orau o ddenu cyllid.

Rwyf hefyd wedi gofyn i'n corff cyflenwi hyd braich, Trafnidiaeth Cymru, ddatblygu ffynhonnell arbenigedd ganolog er mwyn helpu a herio awdurdodau lleol i gyrraedd y safonau dylunio a chyflenwi rydym wedi'u datblygu. Rwyf am iddo ymgymryd â rôl ragweithiol wrth sicrhau mai dim ond y cynlluniau sy'n cyrraedd y safon fydd yn cael cyllid.

Drwy roi rôl arweiniol i Drafnidiaeth Cymru, byddwn hefyd yn sicrhau bod Teithio Llesol yn cael yr un chwarae teg â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus fel y gall ddatblygu cynllun integredig i annog pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir. Fel y nodwyd yn adroddiad dros dro ‘Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru’ gan yr Arglwydd Burns;

"Er mwyn i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ddiwallu amrywiaeth eang o anghenion, mae angen i'r gwahanol foddau weithredu fel rhwydwaith trafnidiaeth unigol

Dylem ystyried teithio llesol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, integredig o ansawdd uchel, gan roi'r un statws i'r system honno â gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill fel y GIG a gofal cymdeithasol. Pethau y mae angen buddsoddi ynddynt a'u cefnogi, ond sydd â manteision llawer ehangach i'n bywydau beunyddiol a chyfansoddiad ein cymunedau. Pethau nad yw'n hawdd eu mesur mewn punnoedd a cheiniogau'n unig – arwydd o gymdeithas waraidd.

Mae dau faes arall roeddwn am ymdrin â nhw pan gefais fy mhenodi nad wyf wedi gallu eu datblygu eto – strategaeth a chraffu.

Mae cael y fecaneg gywir yn hanfodol i gyflawni'r nod yn effeithiol, ond mae angen ymdeimlad cryf o gyfeiriad arnom hefyd. Mae angen strategaeth glir arnom ar gyfer teithio llesol a chyfres o dargedau ymestynnol i'n gwthio i'w chyflawni. Mae'r Strategaeth Drafnidiaeth nesaf ar gyfer Cymru wrthi'n cael ei datblygu ac mae'n bwysig bod teithio llesol yn rhan annatod ohoni.

Ond mae'n rhaid i'r strategaeth a'r targedau hynny fod yn ymdrech a rennir er mwyn iddynt fod yn effeithiol felly mae'n hanfodol ein bod yn eu llunio ar y cyd â chymdeithas sifil, ein partneriaid cyflenwi a'r bobl rydym am eu hannog i ddechrau cerdded a beicio. A bod yn gwbl onest, nid oes digon o bobl yn Llywodraeth Cymru i wneud yr holl bethau hyn o fewn y terfynau amser gofynnol (mae hyn yn arbennig o wir wrth ymdopi â chanlyniadau COVID).

Mae gennym Fwrdd Teithio Llesol ac rwyf wedi cadeirio'r bwrdd hwn ers imi ddod yn Weinidog, ond pan oeddwn yn aelod o'r meinciau cefn roeddwn yn eiriolwr dyfal dros rymuso Cadeirydd annibynnol i weithio gyda'r Llywodraeth a'i herio. Mae'r ffaith bod Comisiynwyr Teithio Llesol wedi cael eu penodi yn yr Alban, ac mewn dinasoedd mawr yn Lloegr, gan gynnwys Llundain, a bod Comisiynydd i Loegr wedi cael ei gyhoeddi'n ddiweddar, yn awgrymu ei bod yn adeg dda i ni wella ein swyddogaeth graffu hefyd. Felly rwyf wedi gofyn i Dr Dafydd Trystan Davies ymgymryd â rôl Cadeirydd ein Bwrdd Teithio Llesol ac wedi rhoi briff iddo gynghori ar dargedau ymestynnol a helpu i lunio strategaeth i Gymru – strategaeth a thargedau sy'n meddwl o ddifrif am y rhwystrau a grybwyllwyd gennyf yn gynharach.

Image
Lee Walters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Dr Dafydd Trystan Davies, Cadeirydd newydd Bwrdd Teithio Llesol
Lee Walters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Dr Dafydd Trystan Davies, Cadeirydd newydd Bwrdd Teithio Llesol.

Mae Dafydd wedi gwneud gwaith ardderchog fel cadeirydd y llywodraethwyr mewn ysgol gynradd newydd yng Nghaerdydd gan gynnwys teithio llesol fel rhan o ddiwylliant yr ysgol. A thrwy benodi Dafydd, cyn-Gadeirydd a Phrif Weithredwr Plaid Cymru, gobeithio y gallaf ddangos fy ymrwymiad diffuant i sicrhau bod teithio llesol yn parhau fel agenda drawsbleidiol a ddylai oresgyn ffiniau cylchoedd gwleidyddol.

Bydd yn gweithredu fel cynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru, gan eistedd ochr yn ochr â Chomisiynwyr Teithio Llesol yn y DU a'n herio a'n cefnogi ar deithio llesol.

Rwyf wir yn credu ein bod wedi cymryd camau i'r cyfeiriad cywir. Yr her nawr yw mynd ymhellach a symud yn gyflymach.