Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaid i gynghorwyr arbennig sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro’n codi, neu y gellid ystyried ei fod yn codi, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a’u buddiannau preifat, yn ariannol neu fel arall.

Rhaid datgan buddiannau i Bennaeth Is-adran y Cabinet fel rhan o’r broses benodi. Mae’r wybodaeth bersonol y mae cynghorwyr arbennig yn ei datgelu yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Mae pob cynghorydd arbennig wedi cyflwyno ffurflen datgan buddiannau wedi’i chwblhau, gan gynnwys ffurflenni dim buddiant mewn achosion pan nad oedd gwrthdaro buddiannau gwirioneddol, posibl neu ganfyddiadol. Pan fo’n berthnasol i’r rôl, ac er mwyn helpu i reoli canfyddiad o wrthdaro neu i egluro sut y mae gwrthdaro yn cael ei reoli, cyhoeddir y buddiannau yn flynyddol.

Mae Pennaeth Is-adran y Cabinet wedi ystyried y ffurflenni hyn ac wedi barnu y dylai’r buddiannau perthnasol a ganlyn gael eu cyhoeddi.

Kevin Brennan

Buddiannau

  • Mae aelod o’r teulu yn gweithio i Ffilm Cymru. Mae Mr Brennan yn cael ei ymesgusodi o gymryd unrhyw ran mewn materion sy’n ymwneud â’r sefydliad, os byddant yn codi.

Sarah Dickins

Buddiannau

  • Ymddiriedolwr, Peak Cymru. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.
  • Perchnogaeth deuluol o fferm ddefaid yn y De. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â datblygu polisi amaethyddol.
  • Perchennog Sarah Dickins Sustainable Economics Consultancy. Ni fydd Ms Dickins yn ymgymryd ag unrhyw waith ar gyfer y cwmni yn ystod ei chyfnod fel Cynghorydd Arbennig.
  • Cyfarwyddwr Blue Egg Productions. Bydd Ms Dickins yn rhoi’r gorau i’r rôl hon ac ni fydd yn derbyn incwm o’r busnes hwn yn ystod ei chyfnod fel Cynghorydd Arbennig. Mae’r newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud gan Dŷ’r Cwmnïau.
  • Ei phartner yn Gyfarwyddwr Miller Research UK Ltd. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â busnes ei phartner neu gleientiaid y busnes, os byddant yn codi.
  • Cynghorydd Cymuned ar gyfer Ward Ynysgynwraidd. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.

Madeleine Brindley

Buddiannau

  • Aelod o Gymdeithas y Cerddwyr. Mae Ms Brindley yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid y gymdeithas, os byddant yn codi.

Philippa Marsden

Buddiannau

  • Llywodraethwr Cymuned ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon.
  • Ymddiriedolwr, Clwb Athletau Harriers Casnewydd. Mae Ms Marsden yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.

Martha O’Neil

Buddiannau

  • Llywodraethwr, Ysgol Dyffryn Aman.
  • Cyflogir aelod o’r teulu gan y Senedd.
  • Aelod o gwmni sy’n berchen ar rydd-daliad eiddo sy’n cynnwys anheddau ar les (nid yw’n rôl cyfarwyddwr nac yn un y derbynnir cydnabyddiaeth ariannol amdani). Bydd Ms O’Neil yn datgan buddiant pan fo angen cyn cymryd y camau priodol i ymesgusodi os bydd hynny yn ofynnol.

Mary Wimbury

Buddiannau

  • Ymddiriedolwr, UK Mathematics Trust. Mae Ms Wimbury yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.
  • Ei phartner yn Aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Gogledd Cymru a Phrif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Gwynedd. Mae Ms Wimbury yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â Chyngor ar Bopeth, os byddant yn codi, ac yn cael ei hymesgusodi hefyd o gymryd rhan mewn materion polisi neu gyllid sy’n ymwneud â Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, os byddant yn dechrau cynnig cyfleusterau gofal ychwanegol.
  • Aelod o’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol, y Blaid Gydweithredol. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.

Haf Davies

Buddiannau

  • Mae aelod o’r teulu yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd Ms Davies yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi o faterion ym maes penodol y gwaith y mae’r aelod o’r teulu yn ei wneud ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ôl yr angen.
  • Mae aelod o’r teulu yn gweithio i’r Yr Eglwys yng Nghymru.  Bydd Ms Davies yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi o faterion ym maes penodol y gwaith y mae’r aelod o’r teulu yn ei wneud ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ôl yr angen.

Jackie Jones

Buddiannau

  • Cynghorydd Lleol, Dinas a Sir Caerdydd. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.
  • Aelod o’r Bwrdd, y Gymdeithas Ewropeaidd i Fenywod sy’n Gyfreithwyr. Mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â'r Bwrdd, os byddant yn codi.
  • Noddwr, y Mudiad Ewropeaidd. Mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â'r Mudiad, os byddant yn codi.
  • Aelod o’r Weithrediaeth, Mudiad Llafur dros Ewrop. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig ac mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â’r Mudiad, os byddant yn codi.
  • Ymddiriedolwr, Cymru Ddiogelach. Mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.
  • Cadeirydd, Cyngor y Blaid Gydweithredol yng Nghymru. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.
  • Darlithydd yn y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd (cyflogedig, rhan-amser). Bydd Ms Jones yn ymgymryd â’r rôl hon ar sail ran-amser tan fis Rhagfyr 2024 pan fydd y rôl yn dod i ben. Mae Ms Jones yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â Phrifysgol Caerdydd, os byddant yn codi.

Aelodaeth o Undebau Llafur

Mae gan Gynghorwyr Arbennig hawl i ddal aelodaeth o undeb llafur mewn rhinwedd bersonol, ond rhaid cymryd gofal i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddiadol â’u rolau portffolio. Mae’n ofynnol, felly, i Gynghorwyr Arbennig ystyried yr angen i ddatgan buddiant ac i ymesgusodi eu hunain, pan ystyrir y bo hynny’n angenrheidiol, o drafodaethau â'u Hundeb Llafur sy’n ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru yn eu meysydd.