Cynefino awdurdodau contraction
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer sylw'r gweinyddwr enwebedig ar gyfer eich sefydliad.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Er mwyn cofrestru, bydd angen i chi ateb ychydig o gwestiynau sylfaenol am eich sefydliad - disgrifir y rhain yn fanylach isod. Unwaith y bydd yr wybodaeth wedi’i rhoi, anfonir y cais at Swyddfa'r Cabinet a fydd naill ai'n derbyn y cais yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd neu’n cysylltu â'r gweinyddwr er mwyn cadarnhau unrhyw anghysondebau cyn ei dderbyn. Bydd y broses wirio hon yn ein galluogi i liniaru'r risgiau o greu cyfrifon dyblyg neu dwyllodrus. Wrth gofrestru eich sefydliad, os yw'n berthnasol, cyfeiriwch at restr gov.uk o adrannau a'u hasiantaethau i sicrhau bod yr enw rydych chi'n ei roi yn cyfateb yn union.
Unwaith y bydd y sefydliad wedi'i gofrestru, fel gweinyddwr, gallwch wedyn ychwanegu mwy o weinyddwyr, golygyddion neu ddefnyddwyr yn ôl yr angen.
Sut i baratoi ar gyfer cofrestru ar y Platfform Digidol Canolog
Gallwch ddechrau paratoi'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch, fel y gweinyddwr cyntaf, i gwblhau'r broses gofrestru. Mae hyn i'w weld yn y tabl isod:
Maes | Manylion sydd eu hangen |
---|---|
Rhif Tŷ'r Cwmnïau | I'w roi dim ond os yw'n berthnasol i'ch sefydliad. |
Cofrestrfeydd Amgen | Cyfle i roi rhif cofrestru amgen (h.y. Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Gwasanaeth Data Sefydliadau’r GIG). Os nad oes gan eich sefydliad Rif Tŷ'r Cwmnïau na rhif cofrestrfa arall, byddwch yn cael Rhif Sefydliad Caffael Cyhoeddus (PPON). |
Enw llawn y sefydliad | Os yw'n berthnasol, cyfeiriwch at enw swyddogol llawn eich sefydliad heb acronymau (fel y rhestrir yn Adrannau, asiantaethau a chyrff cyhoeddus ar GOV.UK) |
Cyfeiriad e-bost y sefydliad | Pan fo'n bosibl, mewnflwch a rennir y gall aelodau eraill o'r tîm ei ddefnyddio. |
Cyfeiriad y sefydliad | Y prif gyfeiriad y mae'r sefydliad yn cynnal ei weithgareddau ohono. Er enghraifft, prif swyddfa. |
Math o sefydliad | Dyma'r math o awdurdod contractio fel y'i diffinnir yn y Ddeddf Caffael, gallwch ddewis o blith y canlynol:
|
Perthnasedd rheoliadau datganoledig | Cyfle i nodi a yw rheoliadau datganoledig yn berthnasol i'ch sefydliad, a pha rai. Gallwch ddewis o blith y canlynol:
|
Mae'r 'mathau o rolau' a fydd ar gael ar y platfform fel a ganlyn:
Rôl | Caniatadau’r system |
---|---|
Gweinyddol | Yn gallu gwneud unrhyw beth, gan gynnwys ychwanegu, dileu a golygu defnyddwyr. |
Golygydd | Yn gallu gweld, ychwanegu a golygu gwybodaeth am y sefydliad, gweld gwybodaeth am gyflenwyr a chreu allweddi API. |
Gweld | Yn gallu gweld gwybodaeth am sefydliadau a chyflenwyr. |
Mae'r 'mathau o rolau' cyflenwr a fydd ar gael ar y platfform fel a ganlyn:
Role | Caniatadau’r system |
---|---|
Gweinyddol | Yn gallu gwneud unrhyw beth, gan gynnwys ychwanegu, dileu a golygu defnyddwyr. |
Golygydd | Yn gallu gweld, ychwanegu a golygu gwybodaeth am drefniadau, a gweld gwybodaeth am gyflenwyr. |
Gweld | Gallu gweld gwybodaeth am sefydliadau a gwybodaeth am gyflenwyr. |
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y Ffurflen Rheolydd ar y Cyd a chytundeb GDPR
Mae sut rydym yn defnyddio ac yn rhannu data o dan Ddeddf Caffael 2023 yn wahanol i'r dulliau o rannu data sy'n bodoli heddiw.
Bydd rhwymedigaethau diogelu data yn dod o dan Gytundeb Rheolydd ar y Cyd yr ydym wedi’i baratoi, sy’n nodi’r cyfrifoldebau a rennir gan Swyddfa’r Cabinet a’ch sefydliad ar gyfer trin gwybodaeth y cyflenwr.
Pwrpas y Cytundeb Rheolydd ar y Cyd yw esbonio natur y data personol a sensitif a gesglir ac a rennir ar y Gwasanaeth Canfod Tendr a sut caiff ei drin. Mae’n ofyniad o dan Erthygl 26 o Ddeddf Diogelu Data 2018 ac fe’i defnyddir yn eithaf cyffredin mewn Llywodraeth Ganolog, er enghraifft ar Swyddi’r Gwasanaeth Sifil ac ar gyfer yr Arolwg Pobl.
Bydd cwblhau'r Cytundeb Rheolydd ar y Cyd yn rhan o’r broses o gofrestru eich sefydliad ar y Platfform Digidol Canolog. Caiff y broses ei hamlinellu isod:
- Byddwch yn gallu cofrestru eich sefydliad yn unol â'r cyfarwyddiadau uchod.
- Bydd ein desg gymorth yn adolygu'r cyfrif a'i gymeradwyo, yn unol â'r cyfarwyddiadau uchod.
- Unwaith y byddwch wedi cadw eich sefydliad a'i gyflwyno i'w gymeradwyo, bydd cam newydd ar gael, sef 'llofnodi' a derbyn Cytundeb y Rheolydd ar y Cyd.
- Gellir lawrlwytho'r cytundeb ei hun i’w adolygu'n fewnol yn eich sefydliad.
- Nid oes angen i'r person sy'n 'llofnodi’' y ffurflen yn eich adran fod yn weinyddwr eich sefydliad o fewn y Platfform Digidol Canolog.
- Bydd angen i bwy bynnag sy'n llofnodi'r cytundeb yn eich adran (at eich dibenion archwilio eich hun) roi caniatâd i weinyddwr eich sefydliad gadarnhau eu bod yn derbyn y cytundeb o fewn y Platfform Digidol Canolog.
- Ni ofynnir i chi ail-lwytho'r cytundeb wedi'i gwblhau.
- Bydd gweinyddwr y sefydliad, o fewn y Platfform Digidol Canolog, wedyn yn ticio i gadarnhau bod cytundeb y Rheolydd ar y Cyd wedi cael ei 'lofnodi' gan eich adran.
- Y gofyniad yw eich bod yn llofnodi CYN CYHOEDDI HYSBYSIAD TENDRO (h.y. ar yr adeg y gwahoddir cyflenwyr i anfon gwybodaeth).
- Bydd y Platfform Digidol Canolog yn cofnodi bod y cytundeb wedi'i lofnodi a'r dyddiad y cadarnhawyd hyn.
- Ni fydd y Platfform Digidol Canolog yn eich atal rhag cynhyrchu Allweddi API ar gyfer eich eAnfonwr os nad yw'ch adran wedi llofnodi'r Cytundeb Rheolydd ar y Cyd.
- Bydd y Platfform Digidol Canolog yn anfon nodiadau atgoffa rheolaidd drwy hysbysiadau e-bost i weinyddwr eich sefydliad os nad ydych wedi llofnodi'r Cytundeb Rheolydd ar y Cyd.
Bydd gennych rywfaint o amser rhwng cofrestru a chaffael am y tro cyntaf i gytuno i’r Cytundeb Rheolydd ar y Cyd.
Cynefino cyflenwyr
Bydd eich cyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr yn gallu dechrau cofrestru ar y Platfform Digidol Canolog o ddydd Llun 24 Chwefror 2025. Byddwch yn gallu cefnogi'ch cyflenwyr i baratoi trwy eu cyfeirio at y fideos a’r canllawiau sydd ar gael ar y dudalen i gyflenwyr ar GOV.UK
Beth gallaf ei wneud fel rhan o’r broses gynefino?
Gallwch:
- Gofrestru a sefydlu eich sefydliad.
- Ychwanegu mwy o ddefnyddwyr at broffil eich sefydliad.
- Cynhyrchu Allwedd API i'w rannu gyda'ch eAnfonwr.
- Cwblhau’r Cytundeb Rheolydd ar y Cyd.
Ni allwch:
- Gael mynediad at elfen hysbysu’r gwasanaeth.
- Creu hysbysiadau.
Mae'r gwasanaeth ond ar gael i gynefino awdurdodau contractio yn gynnar. Bydd yr elfen hysbysu’n mynd yn fyw ar 24 Chwefror 2025.
Sylwer, bydd Canfod Tendr all-lein ar noson 23 Chwefror wrth i ni baratoi ar gyfer lansio'r Ddeddf Caffael newydd.
Ble alla i droi am gymorth cynefino ychwanegol?
Bydd Swyddfa'r Cabinet yn cynnig gweithdai ar gyfer Awdurdodau Contractio sydd angen ychydig mwy o gymorth wrth Gynefino. Yn y sesiynau hyn, bydd Swyddfa'r Cabinet yn mynd drwy'r broses o gofrestru’r sefydliad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal bob dydd rhwng 3 a 21 Chwefror a gall lleoedd gael eu harchebu ymlaen llaw drwy Eventbrite.
Bydd desg gymorth ar gael trwy ffurflen ar y Platfform Digidol Canolog.
Neu gallwch anfon e-bost atom gyda chwestiynau drwy tppdigital@cabinetoffice.gov.uk
Mynd ar y Platfform Digidol Canolog: awgrymiadau a chyngor
Cofrestrwch ar OneLogin
Mae'n rhaid i chi gofrestru eich hun yn gyntaf ar OneLogin cyn ychwanegu eich sefydliad neu ychwanegu defnyddwyr eraill at y sefydliad.
Pan fyddwch yn cofrestru ar OneLogin (cyn cofrestru'r sefydliad) rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost ag enw penodol (e.e. enwcyntaf.cyfenw@corffllywodraeth.gov.uk) - nid cyfeiriad e-bost a rennir.
Mae hyn at ddibenion diogelwch gan fod OneLogin yn defnyddio dilysu amlffactor ynghlwm wrth un person. Rydym yn annog defnyddio mewnflwch a rennir wrth gofrestru'r sefydliad yn y cam nesaf.
Bydd y mewnflwch a rennir yn cynnig cynllun wrth gefn i'ch sefydliad gan y gall llawer o bobl gael mynediad ato.
Manylion y sefydliad
Wrth fewnbynnu enw eich sefydliad, cofiwch ei fewnbynnu i gyfateb yn union â’r hyn sydd wedi'i restru ar GOV.UK neu ddogfennaeth swyddogol arall.
Os nad yw'r enw rydych chi'n ei fewnbynnu yn cyfateb yn union â'r rhestr swyddogol, bydd y cyfrif yn cael ei wrthod gan y gwasanaeth a reolir a bydd angen i'r gweinyddwr fewnbynnu'r wybodaeth eto. Mae hyn yn ein galluogi i reoli ansawdd y data ar draws gwasanaethau'r llywodraeth.
Gwall cofrestru
Beth ddylwn i ei wneud os yw cofrestriad fy sefydliad yn cael ei wrthod oherwydd camgymeriad yn yr enw?
Newidiwch enw eich sefydliad. Nid oes angen cofrestru sefydliad newydd i ddisodli’r sefydliad a ‘wrthodwyd’. Bydd diwygiadau'n cael eu hadolygu a'u cymeradwyo yn unol â'r broses safonol.
Gwahodd pobl eraill
Fel y gweinyddwr, unwaith y byddwch wedi ychwanegu’r sefydliad yn llwyddiannus, peidiwch ag anghofio gwahodd pobl berthnasol eraill yn eich sefydliad i ymuno fel y gallan nhw hefyd gael mynediad at gyfrif y sefydliad ar y Platfform Digidol Canolog.
Gall y gweinyddwr ychwanegu cymaint o ddefnyddwyr ag sydd ei angen arnynt, gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost i'w gwahodd i ymuno â'r sefydliad ar y platfform. Bydd angen i'r defnyddwyr hynny gofrestru eu hunain ar OneLogin ac yna gweld y sefydliad ar y Platfform Digidol Canolog.
Prynwyr cymeradwy eraill
Wrth i chi gofrestru'r sefydliad a mewnbynnu testun i faes y sefydliad, rydym wedi adeiladu rhywfaint o swyddogaethau i ddangos i chi unrhyw brynwyr cymeradwy tebyg sydd eisoes yn y system y gallwch ofyn iddynt ymuno. Bydd y cais ymuno yn cael ei anfon at y gweinyddwr/gweinyddwyr i’w dderbyn a’i gymeradwyo.
Er enghraifft, os byddwch yn mewnbynnu "Cyfiawnder", dychwelir y cyrff canlynol fel opsiynau i chi ymuno: "Y Weinyddiaeth Gyfiawnder", "Academi Cyfiawnder Cymdeithasol", "Pwyllgorau Ymgynghorol ar Ynadon Heddwch", "Cyngor Cyfiawnder Sifil", "Adran Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon)", "Cyngor Cyfiawnder Teuluol", "Asiantaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gogledd Iwerddon", "Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr" (cyn belled â bod yr holl gyrff rhestredig wedi'u cofrestru a'u cymeradwyo ar y pryd)
Gweler y ddwy ddelwedd isod fel enghraifft.

a

Awdurdodau lluosog
Os ydych chi'n gweinyddu nifer o awdurdodau dylech eu cofrestru ar wahân ar y Platfform Digidol Canolog.
Mae'n bosibl cofrestru a chael eich cysylltu â nifer o sefydliadau ag un cyfeiriad e-bost. Bydd y rhain yn ymddangos fel sefydliadau ar wahân yn eich cyfrif ar ôl cofrestru.
Mathau o rolau
Mae'r 'mathau o rolau' awdurdod contractio a fydd ar gael ar y platfform fel a ganlyn:
Rôl | Caniatadau’r system |
---|---|
Gweinyddol | Gallant wneud unrhyw beth, gan gynnwys ychwanegu, dileu a golygu defnyddwyr y sefydliad. |
Golygydd | Popeth yn y rôl "gweld" a gallant weld, ychwanegu a golygu gwybodaeth am y sefydliad, a chreu allweddi API. |
Gweld | Gallu gweld gwybodaeth am y sefydliad, creu, golygu a chyhoeddi hysbysiadau. |