Fel yr awgryma'r enw, clefyd tebyg i'r gynddaredd yw cynddaredd yr ystlumod.
Mae yna wyth achos wedi bod mewn ystlumod yn y DU.
Amheuon a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon fod cynddaredd yr ystlumod ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- ymosodedd a cholli'r ofn o bobl ac anifeiliaid eraill
- newid sydyn yn yr ymddygiad ac ymosod heb reswm
- gwendid yn y cyhyrau a thrawiadau
- glafoeri a methu llyncu
- hydroffobia
- marw o barlys cynyddol
Nid oes modd dweud y gwahaniaeth rhwng hwn a'r gynddaredd gyffredin.
Trosglwyddo ac atal
Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu trwy frathiad neu grafiad gan ystlum heintiedig.
Bydd ystlumod fel arfer yn osgoi pobl. Os gwelwch ystlum byw neu farw, peidiwch â chyffwrdd ynddo. Ffoniwch y Bat Conservation Trust ar 0845 130 0228 am gyngor.