Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau heddiw y bydd Cymru yn symud i ffwrdd o Gynllun y Taliad Sylfaenol, a rhoi cymorth i ffermwyr drwy gynllun ffermio cynaliadwy ar ôl Brexit.
Bydd y Gweinidog yn siarad yn ystod trafodaeth ynghylch yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n Tir' mewn cyfarfod llawn, ac yn amlinellu nifer o newidiadau polisi yn dilyn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd yn fanwl.
Bydd rheoli tir yn gynaliadwy yn ganolog i gymorth ar gyfer ffermwyr Cymru yn y dyfodol, ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae cynlluniau'n cynnwys dod â'r cynlluniau cydnerthedd economaidd a nwyddau cyhoeddus a gynigiwyd yn wreiddiol yn 'Brexit a'n Tir' at ei gilydd, i greu un cynllun ffermio cynaliadwy sengl.
Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn rhan bwysig o hyn. Mae'r ymgynghoriad wedi dangos y gellir cynhyrchu amrediad eang o nwyddau cyhoeddus ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd.
Bydd y newidiadau polisi a gyhoeddwyd heddiw yn cael eu hystyried yn fanwl mewn ymgynghoriad sydd ar y gweill, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn Sioe Frenhinol Cymru.
Hefyd mae crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar 'Brexit a'n Tir' wedi cael ei gyhoeddi heddiw, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog:
Y llynedd, gwnaethon ni gynnal un o'n hymgynghoriadau amaethyddol mwyaf ar y ffordd rydyn ni'n darparu cymorth ar gyfer ffermwyr a thir Cymru ar ôl Brexit. Roedd yr ymatebion y gwnaethon ni eu derbyn yn gryf ac yn helaeth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth.
"Rwyf wedi ystyried y safbwyntiau a gafodd eu rhannu'n ofalus, ac mae'r rhain wedi helpu i addasu ein dull o weithredu. Heddiw rwy'n cyhoeddi nifer o newidiadau i'n cynigion polisi a fydd yn cael eu hystyried yn fanwl yn ein hymgynghoriad sydd ar y gweill.
"Mae'r achos dros newid yn parhau i fod ac mae angen dull o weithredu newydd. Felly, mae'r llywodraeth hon wedi penderfynu y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn dod i ben yng Nghymru. Yn hytrach, rydyn ni am roi cynaliadwyedd wrth galon y cymorth a roddir gennyn ni yn y dyfodol, gan gydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol â'n dyletswydd i'r un nesaf.
"Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy'n cynnig cynllun ffermio cynaliadwy sengl newydd, sy'n ein galluogi i archwilio cyfleoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar yr un pryd.
“Byddwn ni’n cynnig rhoi taliad blynyddol i ffermwyr am y canlyniadau amgylcheddol sy'n cael eu cyflawni ar eu fferm – gyda'r nod o wrthdroi dirywiad bioamrywiaethol, bodloni ein cyllidebau carbon a chyrraedd ein targedau aer glân.
"Gwnaeth yr ymatebion o'r ymgynghoriad ddangos ei bod yn bosibl cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus ochr yn ochr. Mewn llawer o achosion, mae'r un weithred, wedi'i gwneud yn y ffordd gywir, yn gallu cyfrannu at y ddau ganlyniad. Rydyn ni'n hapus i dalu am y canlyniadau amgylcheddol hyn. Yn y ffordd hon, rydyn ni'n gallu cefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi rhagor o fanylion ar gyfer yr ymgynghoriad cyn Sioe Frenhinol Cymru.
"Drwy hybu rheoli tir yn gynaliadwy, rydyn ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd i greu system sy'n helpu ffermwyr i ffynnu, yn harneisio gwerth tir Cymru a sicrhau sector amaethyddiaeth yng Nghymru sy'n ddiogel, ffyniannus a chydnerth.