Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau arbenigol y GIG yn gynt diolch i fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd £100,000 ychwanegol yn mynd at wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, yr unig wasanaeth dynodedig cenedlaethol yn y DU i helpu cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd ag anghenion emosiynol a meddyliol drwy ddarparu cymorth gan therapyddion penodedig ym mhob ardal bwrdd iechyd. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi £585,000 y flwyddyn i gefnogi'r gwasanaeth.

Bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu i'r gwasanaeth gynyddu nifer y sesiynau Seiciatryddion Ymgynghorol 50%, gan gynnig mynediad at feddyg arbenigol yn gynt er mwyn i fwy o gyn-filwyr allu cael opsiynau, adolygiadau a chyfle i gael ail farn feddygol. Bydd hefyd yn darparu mwy o gefnogaeth benodol i therapyddion sy'n trin cyn-filwyr er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar ddarparu ymyriadau i'r rhai y mae angen cymorth arnynt.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2,879 o gyn-filwyr wedi derbyn gofal gan wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr ers iddo gael ei sefydlu ym mis Ebrill 2010.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Wrth inni nesáu at Sul y Cofio, bydd y wlad gyfan yn tawelu i feddwl a chofio am aberth aelodau'r lluoedd arfog mewn gwrthdaro a rhyfeloedd ar draws y byd. Mae'n dyled ni'n fawr i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn ogystal â'r rhai sy'n gwasanaethu heddiw. 

“Dw i'n benderfynol o sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael y gofal iechyd gorau posibl. Bydd y buddsoddiad newydd dw i'n ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael mynediad at wasanaethau asesu a thriniaeth yn gynt, er mwyn iddyn nhw allu cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen.

“Dywedodd Dr Neil Kitchiner, Cyfarwyddwr ac Ymgynghorydd Clinigol Arweiniol  GIG Cymru i Gyn-filwyr:  

“Dw i'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei chymorth parhaus i ddarpariaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i Gyn-filwyr. Bydd y £100,000 ychwanegol, a gyhoeddwyd heddiw, yn caniatáu inni gynyddu nifer ein sesiynau Seiciatryddion Ymgynghorol 50%, gan gynnig mynediad at feddyg arbenigol yn gynt er mwyn i fwy o gyn-filwyr allu gael opsiynau, adolygiadau a chyfle i gael ail farn feddygol.     

“Byddwn hefyd yn cynyddu oriau ein gweinyddwr rhan-amser, er mwyn i gyn-filwyr a'r rheini sy'n eu hatyfeirio gael atebion yn gynt dros y ffôn a thrwy e-bost. Bydd yn gyfle i leihau'r cyfnod aros rhwng atgyfeirio ac asesu. Am y tro cyntaf, bydd yn bosibl cynnig swydd llawn amser i rywun sydd wedi graddio mewn seicoleg, gan wella hyfforddiant a chymorth i'n Mentoriaid Cymheiriaid o ran darparu ymyriadau hunangymorth, a gwella'n ffordd o gasglu a dadansoddi data a pharatoi adroddiadau ar gyfer ein prif randdeiliaid.”