Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y Deyrnas Unedig (DU) sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd, y lluoedd wrth gefn neu’r ddau yn y gorffennol: data Cyfrifiad 2021.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd wedi cyhoeddi cyn aelodau o luoedd arfog y DU yng Nghymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Prif bwyntiau

  • Yn 2021, dywedodd tua 115,000 o bobl yng Nghymru eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Mae hyn tua 4.5% o breswylwyr arferol 16 mlwydd oed neu hŷn.
  • Roedd y ganran o gyn aelodau o luoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru nag yr oedd yn Lloegr (3.8%, 1.7 miliwn).
  • O blith poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU yng Nghymru, roedd 76.3% (88,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn y gorffennol, 19.3% (22,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn yn y gorffennol, a 4.5% (5,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd a’r lluoedd wrth gefn.
  • Roedd tua 2,000 o gyn aelodau o luoedd arfog y DU (1.8%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol ac roedd y gweddill (tua 113,000, 98.2%) yn byw mewn cartrefi.
  • Roedd y ganran o gartrefi a oedd yn cynnwys un neu ragor o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru (8.1%, 109,000) nag yr oedd yn Lloegr (7.0%, 1.6 miliwn).
  • Ledled Cymru, mae’r awdurdodau lleol sydd â’r gyfran fwyaf o gyn aelodau o’r lluoedd arfog yn cynnwys Conwy (5.9%, 6,000 o bobl), Sir Benfro (5.7%, 6,000 o bobl) ac Ynys Môn (5.6%, 3,000 o bobl).

Poblogaeth a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol yng Nghymru

Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr oedd yr un cyntaf i ofyn i bobl a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Gofynnwyd i bobl 16 mlwydd oed neu hŷn a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn y DU, neu’r ddau, yn y gorffennol. Cynghorwyd pobl sy’n gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU ar hyn o bryd a phobl nad oeddent erioed wedi gwasanaethu i ddewis “nac ydw”.

Mae pobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn y DU yn aml yn cael eu galw’r boblogaeth cyn-filwyr. Maent yn ffurfio rhan o gymuned y lluoedd arfog (ynghyd â’r bobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu’r Llynges Fasnachol ar hyn o bryd, a’u teuluoedd). Ychwanegwyd y cwestiwn am gyn aelodau o luoedd arfog y DU i ddiwallu’n well anghenion darparwyr gwasanaethau, ac eraill sy’n cefnogi cyn aelodau, yn unol â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Gallwch gael gwybod mwy am y rhesymau dros ychwanegu’r cwestiwn hwn ym mhapur gwyn yr SYG, Helpu i Lunio Ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021 (Swyddfa'r Cabinet), ac am gynlluniau’r SYG ar gyfer data ar gymuned y lluoedd arfog yn fwy cyffredinol ar ei thudalen we am ddatblygu cwestiynau am gymuned y lluoedd arfog (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Yn 2021, roedd 115,000 o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol yng Nghymru, 4.5% o’r boblogaeth 16 mlwydd oed neu hŷn. Mae hyn yn gyfwerth â bron i 1 o bob 22 person 16 mlwydd oed neu hŷn yng Nghymru.

Roedd y ganran o gyn aelodau o luoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru nag yr oedd yn Lloegr (3.8%, 1.7 miliwn). Yn Lloegr, roedd bron 1 o bob 25 person 16 mlwydd oed neu hŷn wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol.

Roedd bron i dri chwarter cyn aelodau o luoedd arfog y DU a oedd yn byw yng Nghymru wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog rheolaidd yn unig (88,000 o bobl, 76.3%), tra oedd 22,000 (19.3%) wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog wrth gefn yn unig. Roedd y gweddill (5,000 o bobl, 4.5%) wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd a’r lluoedd arfog wrth gefn.

Ffigur 1: Cyn aelodau o luoedd arfog y DU, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

O blith poblogaeth lluoedd arfog y DU yng Nghymru, roedd 98.2% (113,000) yn byw mewn cartrefi ac 1.8% (2,000) yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae hyn yr un fath â’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd, lle’r oedd 98.2% yn byw mewn cartrefi ac 1.8% yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae sefydliadau cymunedol yn cynnwys cartrefi gofal preswyl, neuaddau preswyl prifysgolion, ysgolion preswyl, a charchardai.

Defnyddiodd yr SYG yr atebion i’r cwestiwn hwn i gyfrifo hefyd nifer y cartrefi a oedd yn cynnwys un neu ragor o gyn aelodau o’r lluoedd arfog. Yn 2021, roedd gan 109,000 o gartrefi yng Nghymru o leiaf un person a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol (8.1% o bob cartref yng Nghymru).

O blith y cartrefi hyn, roedd y mwyafrif helaeth yn cynnwys un cyn aelod yn unig. Roedd tua 104,000 o gartrefi yn cynnwys un cyn aelod yn unig, sef 95.9% o bob cartref ag o leiaf un cyn aelod o’r lluoedd arfog. Roedd tua 4,000 (4.0%) yn cynnwys dau gyn aelod, a’r gweddill (100) yn cynnwys tri neu ragor o gyn aelodau o’r lluoedd arfog.

Sut yr oedd poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn amrywio ledled Cymru

Ffigur 2: Cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn ôl awdurdod lleol, 2021 

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Ledled Cymru, yr awdurdodau â’r ganran uchaf o gyn aelodau o’r lluoedd arfog oedd Conwy (5.9%, 6,000 o bobl), Sir Benfro (5.7%, 6,000 o bobl) ac Ynys Môn (5.6%, 3,000 o bobl).

Caerdydd oedd â’r gyfran leiaf o gyn aelodau o’r lluoedd arfog, sef llai na 2.9% o’r boblogaeth.

Ffigur 3: Cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn ôl math o wasanaeth ac awdurdod lleol, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Conwy ac Ynys Môn oedd â’r ganran uchaf o gyn aelodau o luoedd arfog y DU wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog rheolaidd yn unig, sef 4.6%. Torfaen oedd â’r ganran uchaf o gyn aelodau o luoedd arfog y DU wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog wrth gefn yn unig, sef 1.1%. Sir Fynwy a Sir Ddinbych oedd â’r ganran uchaf o aelodau o luoedd arfog y DU wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog rheolaidd a’r lluoedd arfog wrth gefn, sef 0.3%.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data a dadansoddiadau manylach ynghylch cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn y misoedd nesaf, ynghyd â data amlamrywedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl dadansoddi poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn ôl newidynnau eraill y cyfrifiad, megis nodweddion o ran oedran, iechyd a’r farchnad lafur. Dyma ragor o wybodaeth am gynlluniau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer dadansoddi poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU a’i chynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Geirfa

Cyn aelodau o luoedd arfog y DU

Pobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi gwasanaethu am o leiaf ddiwrnod yn lluoedd arfog y DU, naill ai’r lluoedd rheolaidd, y lluoedd wrth gefn, neu Forwyr Masnachol sydd wedi gwasanaethu mewn gweithrediadau milwrol a ddiffiniwyd yn gyfreithiol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Martin Parry
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 31/2022