Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Data Cyfrifiad 2021 am gyn-filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru yn ôl awdurdod lleol ac a oeddent wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn y Deyrnas Unedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y Deyrnas Unedig (DU) sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd, y lluoedd wrth gefn neu’r ddau yn y gorffennol: data Cyfrifiad 2021.
Prif bwyntiau
- Yn 2021, dywedodd tua 115,000 o bobl yng Nghymru eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Mae hyn tua 4.5% o breswylwyr arferol 16 mlwydd oed neu hŷn.
- Roedd y ganran o gyn aelodau o luoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru nag yr oedd yn Lloegr (3.8%, 1.7 miliwn).
- O blith poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU yng Nghymru, roedd 76.3% (88,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn y gorffennol, 19.3% (22,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn yn y gorffennol, a 4.5% (5,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd a’r lluoedd wrth gefn.
- Roedd tua 2,000 o gyn aelodau o luoedd arfog y DU (1.8%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol ac roedd y gweddill (tua 113,000, 98.2%) yn byw mewn cartrefi.
- Roedd y ganran o gartrefi a oedd yn cynnwys un neu ragor o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru (8.1%, 109,000) nag yr oedd yn Lloegr (7.0%, 1.6 miliwn).
- Ledled Cymru, mae’r awdurdodau lleol sydd â’r gyfran fwyaf o gyn aelodau o’r lluoedd arfog yn cynnwys Conwy (5.9%, 6,000 o bobl), Sir Benfro (5.7%, 6,000 o bobl) ac Ynys Môn (5.6%, 3,000 o bobl).
Poblogaeth a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol yng Nghymru
Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr oedd yr un cyntaf i ofyn i bobl a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Gofynnwyd i bobl 16 mlwydd oed neu hŷn a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn y DU, neu’r ddau, yn y gorffennol. Cynghorwyd pobl sy’n gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU ar hyn o bryd a phobl nad oeddent erioed wedi gwasanaethu i ddewis “nac ydw”.
Mae pobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn y DU yn aml yn cael eu galw’r boblogaeth cyn-filwyr. Maent yn ffurfio rhan o gymuned y lluoedd arfog (ynghyd â’r bobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu’r Llynges Fasnachol ar hyn o bryd, a’u teuluoedd). Ychwanegwyd y cwestiwn am gyn aelodau o luoedd arfog y DU i ddiwallu’n well anghenion darparwyr gwasanaethau, ac eraill sy’n cefnogi cyn aelodau, yn unol â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Gallwch gael gwybod mwy am y rhesymau dros ychwanegu’r cwestiwn hwn ym mhapur gwyn yr SYG, Helpu i Lunio Ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021 (Swyddfa'r Cabinet), ac am gynlluniau’r SYG ar gyfer data ar gymuned y lluoedd arfog yn fwy cyffredinol ar ei thudalen we am ddatblygu cwestiynau am gymuned y lluoedd arfog (Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Yn 2021, roedd 115,000 o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol yng Nghymru, 4.5% o’r boblogaeth 16 mlwydd oed neu hŷn. Mae hyn yn gyfwerth â bron i 1 o bob 22 person 16 mlwydd oed neu hŷn yng Nghymru.
Roedd y ganran o gyn aelodau o luoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru nag yr oedd yn Lloegr (3.8%, 1.7 miliwn). Yn Lloegr, roedd bron 1 o bob 25 person 16 mlwydd oed neu hŷn wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol.
Roedd bron i dri chwarter cyn aelodau o luoedd arfog y DU a oedd yn byw yng Nghymru wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog rheolaidd yn unig (88,000 o bobl, 76.3%), tra oedd 22,000 (19.3%) wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog wrth gefn yn unig. Roedd y gweddill (5,000 o bobl, 4.5%) wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd a’r lluoedd arfog wrth gefn.
Ffigur 1: Cyn aelodau o luoedd arfog y DU, 2021
O blith poblogaeth lluoedd arfog y DU yng Nghymru, roedd 98.2% (113,000) yn byw mewn cartrefi ac 1.8% (2,000) yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae hyn yr un fath â’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd, lle’r oedd 98.2% yn byw mewn cartrefi ac 1.8% yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae sefydliadau cymunedol yn cynnwys cartrefi gofal preswyl, neuaddau preswyl prifysgolion, ysgolion preswyl, a charchardai.
Defnyddiodd yr SYG yr atebion i’r cwestiwn hwn i gyfrifo hefyd nifer y cartrefi a oedd yn cynnwys un neu ragor o gyn aelodau o’r lluoedd arfog. Yn 2021, roedd gan 109,000 o gartrefi yng Nghymru o leiaf un person a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol (8.1% o bob cartref yng Nghymru).
O blith y cartrefi hyn, roedd y mwyafrif helaeth yn cynnwys un cyn aelod yn unig. Roedd tua 104,000 o gartrefi yn cynnwys un cyn aelod yn unig, sef 95.9% o bob cartref ag o leiaf un cyn aelod o’r lluoedd arfog. Roedd tua 4,000 (4.0%) yn cynnwys dau gyn aelod, a’r gweddill (100) yn cynnwys tri neu ragor o gyn aelodau o’r lluoedd arfog.
Sut yr oedd poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn amrywio ledled Cymru
Ffigur 2: Cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn ôl awdurdod lleol, 2021
Ledled Cymru, yr awdurdodau â’r ganran uchaf o gyn aelodau o’r lluoedd arfog oedd Conwy (5.9%, 6,000 o bobl), Sir Benfro (5.7%, 6,000 o bobl) ac Ynys Môn (5.6%, 3,000 o bobl).
Caerdydd oedd â’r gyfran leiaf o gyn aelodau o’r lluoedd arfog, sef llai na 2.9% o’r boblogaeth.
Ffigur 3: Cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn ôl math o wasanaeth ac awdurdod lleol, 2021
Conwy ac Ynys Môn oedd â’r ganran uchaf o gyn aelodau o luoedd arfog y DU wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog rheolaidd yn unig, sef 4.6%. Torfaen oedd â’r ganran uchaf o gyn aelodau o luoedd arfog y DU wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog wrth gefn yn unig, sef 1.1%. Sir Fynwy a Sir Ddinbych oedd â’r ganran uchaf o aelodau o luoedd arfog y DU wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y lluoedd arfog rheolaidd a’r lluoedd arfog wrth gefn, sef 0.3%.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data a dadansoddiadau manylach ynghylch cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn y misoedd nesaf, ynghyd â data amlamrywedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl dadansoddi poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU yn ôl newidynnau eraill y cyfrifiad, megis nodweddion o ran oedran, iechyd a’r farchnad lafur. Dyma ragor o wybodaeth am gynlluniau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer dadansoddi poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU a’i chynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.
Geirfa
Cyn aelodau o luoedd arfog y DU
Pobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi gwasanaethu am o leiaf ddiwrnod yn lluoedd arfog y DU, naill ai’r lluoedd rheolaidd, y lluoedd wrth gefn, neu Forwyr Masnachol sydd wedi gwasanaethu mewn gweithrediadau milwrol a ddiffiniwyd yn gyfreithiol.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Martin Parry
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 31/2022