Neidio i'r prif gynnwy

Yn darparu rhestr o newidiadau i’r Wybodaeth am Berfformiad mewn perthynas â chymwysterau ar QiW.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Newidiadau i’r wybodaeth am berfformiad mewn perthynas â chymwysterau , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 36 KB

XLSX
36 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Cronfa ddata ar-lein yw QiW y mae Cymwysterau Cymru yn berchen arni ac yn ei rheoli. Mae’n cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo neu eu dynodi i’w haddysgu yng Nghymru i ddysgwyr o dan 19 oed, ac eithrio addysg uwch. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad mewn perthynas â’r cymwysterau hynny hyd at a chan gynnwys Lefel 3 (yn nhermau mesurau perfformiad ysgolion), ac yng ngoleuni’r cwricwlwm. Llywodraeth Cymru sy’n cynnal a chadw’r wybodaeth hon.

Caiff QiW ei ddiweddaru drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n gallu effeithio ar wybodaeth am berfformiad ysgolion mewn perthynas â rhai cymwysterau. Y prif reswm am hyn yw newidiadau yng nghymwysterau sefydliadau dyfarnu neu newidiadau gan Lywodraeth Cymru i gywiro gwybodaeth anghywir am berfformiad.

Mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau yn ymwneud ag ymestyn Dyddiad Diwedd Ardystiad cymhwyster neu dynnu’r dyddiad ymlaen, sy’n golygu y bydd y cymhwyster naill ai yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad blynyddoedd adrodd ychwanegol (yn achos estyniadau), neu fesurau perfformiad llai o flynyddoedd adrodd (yn achos tynnu’r dyddiad ymlaen).

Gall newidiadau eraill gan sefydliadau dyfarnu, megis i Oriau Dysgu dan Arweiniad, Lefel, Graddfa Raddio neu Ystod Oedran mewn perthynas â chymhwyster effeithio’n uniongyrchol ar y gwerthoedd y mae cymhwyster yn eu cyfrannu at y mesurau perfformiad dan sylw. Yn yr achosion hyn, rhaid diweddaru’r gwerthoedd perfformiad ar QiW er mwyn cynnal cywirdeb, ansawdd a thegwch system mesur perfformiad ysgolion yng Nghymru.

Fodd bynnag, lle bydd hyn yn arwain at ostyngiad nodedig yn y gwerthoedd perfformiad, polisi Llywodraeth Cymru yw caniatáu cyfnod gras cyn i’r gwerthoedd gael eu gostwng ar QiW. Mae hyn yn sicrhau na fydd ysgolion o dan anfantais annheg lle bydd disgyblion eisoes wedi dechrau ar gwrs cyn i’r newid gael ei wneud.

Bydd y cyfnod gras yn gymesur i’r amser y disgwylir ei gymryd i addysgu’r cwrs ar sail sut mae’n cyfateb i gymhwyster TGAU (ar gyfer cymwysterau Lefel 2) neu i gymhwyster Safon Uwch (ar gyfer cymwysterau Lefel 3). Er enghraifft, y cyfnod gras ar gyfer cymhwyster sy’n cyfateb i 0.5 o gymhwyster TGAU fyddai blwyddyn.

Mae rhestr o’r cymwysterau y caiff eu gwerthoedd perfformiad eu gostwng i’w gweld yn y tabl isod, ynghyd â’r flwyddyn adrodd y bydd y newid yn berthnasol iddi. I gael mwy o fanylion am y newidiadau, ewch i adran ‘Gwybodaeth Perfformiad a Chwricwlwm’ y cymhwyster ar QiW, gan chwilio am y flwyddyn adrodd berthnasol.

Cyfeiriwch at Trefniadau adrodd ar berfformiad ysgolion: diweddariad COVID-19 i gael gwybodaeth am effaith COVID-19 ar y trefniadau ar y dudalen hon.