Bydd casgliad celf gyfoes cenedlaethol Cymru yn cael ei arddangos mewn cymunedau ledled y wlad o dan gynlluniau newydd.
Mae sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn un o brif ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys:
- rhwydwaith o orielau ledled Cymru a fydd yn sicrhau mwy o fynediad i’r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn nes at gymunedau
- bydd Orielau Lletya, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn parhau i gynnal ac arddangos casgliad celf cenedlaethol Cymru
- oriel angor a fydd yn sicrhau wyneb cyhoeddus amlwg i’r oriel gelf gyfoes genedlaethol.
Mae’r gwaith i fwrw ati â’r ymrwymiad yn mynd rhagddo drwy gydweithio rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r tri phartner wedi bod yn gweithio gyda lleoliadau sy’n cael eu hystyried yn rhan o rwydwaith gwasgaredig o orielau ledled Cymru.
Mae naw lleoliad wedi cyrraedd y rhestr fer fel aelodau o’r rhwydwaith o orielau ledled Cymru lle gall pobl weld y casgliad cenedlaethol yn agos at eu cartrefi. Mae pob un o’r lleoliadau yn cael eu hasesu’n fanylach.
Dyma’r lleoliadau:
- Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
- MOSTYN, Llandudno
- Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
- Oriel Davies, y Drenewydd
- Oriel Myrddin, Caerfyrddin
- Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
- Canolfan Grefft Rhuthun
- STORIEL, Bangor
Bydd gwaith manylach yn awr yn llywio dull graddol ar gyfer pob galeri a fydd o bosibl yn ymuno â’r rhwydwaith.
Yr orielau lletya yw’r rheini sydd naill ai’n lletya’r casgliad cenedlaethol ar hyn o bryd neu’n bwriadu ei letya ac sy’n rhan o’r seilwaith presennol yng Nghymru. Yn eu plith mae Amgueddfa Cymru Caerdydd, ac o bosibl yn Llanberis a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Bydd eu cynnwys yn cynyddu mynediad pellach at gelf gyfoes o Gymru.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ganfod oriel angor posibl. Ym mis Medi 2022, cawsom gyfanswm o 14 o ddatganiadau o ddiddordeb gan y sector cyhoeddus i fod yn safle angor i’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol. Gwahoddwyd pum ardal awdurdod lleol: Wrecsam, Abertawe, Merthyr Tudful, Casnewydd a Chaerdydd, i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach.
Yn ystod mis Chwefror 2023, gan adeiladu ar y gwaith gyda’r sector cyhoeddus, gwahoddwyd y trydydd sector hefyd yng Nghymru i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer unrhyw safleoedd sy’n cyd-fynd â’r meini prawf. Mae’r datganiadau o ddiddordeb hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:
Mae’r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model newydd yn galluogi pobl i edrych ar y casgliad yn eu cymunedau eu hunain, gan hefyd sicrhau bod rhagor o bobl ledled Cymru, y DU a hyd yn oed yn rhyngwladol yn gallu cael gwell cyfleoedd i fwynhau’r casgliad cenedlaethol.
“Bydd hyn yn fodd o hybu’r economi ymwelwyr a chefnogi busnesau a swyddi lleol gan roi Cymru ar y map yn rhyngwladol.”
Dywedodd Siân Gwenllian, yr Aelod Dynodedig:
Mae'r argyfwng costau byw parhaus yn dangos pa mor bwysig yw hi ein bod yn gwneud ein casgliad cenedlaethol o gelf yn hygyrch i bobl mewn cymunedau ledled ein gwlad. Dylai celf wych fod i bawb ac mae ein hymrwymiad ar y cyd i sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn ymwneud â chreu mwy o fynediad i bawb wrth arddangos ein hartistiaid talentog tu hwnt.
Mae tri phenodiad newydd hefyd wedi’u gwneud er mwyn datblygu’r gwaith ymhellach. Mae Mandy Williams-Davies wedi’i phenodi yn Gadeirydd Annibynnol y Bwrdd Prosiect, mae Gillian Mitchell wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr y Prosiect ac mae Ceri Jones wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr Creadigol.