Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan y weithred o waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi yn elwa ar gynllun newydd pan fydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei chyflwyno

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli Cronfa Cymunedau Tirlenwi'r DU, ac yn cefnogi bioamrywiaeth, cynlluniau lleihau gwastraff a phrosiectau amgylcheddol eraill.

Bydd y cynllun yn cynnig grantiau rhwng £5,000 a £50,000 gyda'r posibilrwydd o gefnogi un prosiect mawr dros £50,000 y flwyddyn.<?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />

Disgwylir y bydd y cynllun newydd yn ystyried ceisiadau gan gymunedau sydd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu o fewn pum milltir i orsaf trosglwyddo gwastraff sy'n anfon o leiaf 2,000 tunnell o wastraff i safle tirlenwi bob blwyddyn. Bydd y drefn newydd hon yn cynnwys ardaloedd nad ydynt yn gymwys i gael cyllid ar hyn o bryd.

Bydd y cynllun newydd yn cael ei ariannu drwy grant gan ddefnyddio cyfran o refeniw'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Felly bydd yr holl weithredwyr safleoedd tirlenwi yn cyfrannu at wella'r cymunedau drwy gyfraniad o'u trethi.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch swm y refeniw sy'n cael ei neilltuo i'r cynllun yn agosach at 2018.

Un corff dosbarthu fydd yn rhedeg y cynllun, a Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli'r cynllun yn gyffredinol.  Disgwylir dechrau ar broses gaffael i benodi'r corff dosbarthu yn ystod gwanwyn 2017.

Dywedodd yr Athro Drakeford:  

"Rydyn ni wedi bod yn siarad gyda rhanddeiliaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i ni ddatblygu Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Un o'r pynciau a gododd amlaf oedd dyfodol y Gronfa Cymunedau Tirlenwi pan fydd y dreth yn cael ei datganoli i Gymru, a sut byddai cynllun cyfatebol yn gweithredu.

 

"Arweiniodd hyn at ddatblygu Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi,a fydd yn sicrhau bod cymunedau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan y weithred o waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi yn elwa ar brosiectau i gefnogi bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a sicrhau gwelliannau eraill i'r amgylchedd.

"Mae'r newidiadau rydyn ni'n eu cyflwyno'n mynd i leihau'r costau gweinyddol.  Yn bwysicach fyth, bydd y cynllun grant newydd yn sicrhau bod cymaint â phosib o gyllid yn cyrraedd y prosiectau cymunedol ac yn helpu'r amgylchedd."