Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (gwerthusiad terfynol) (crynodeb)
Mae rhaglen Cymunedau Digidol Cymru yn bwriadu leihau allgáu digidol a helpu i wella lefelau sgiliau digidol sylfaenol. Mae'r gwerthusiad terfynol yn adolygu'r gwaith o gyflawni, canlyniadau, ac yn darparu argymhellion ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Menter chwe blynedd gan Lywodraeth Cymru yw'r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (CDC): Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2025 a'i nod yw lleihau allgau digidol a helpu i wella sgiliau digidol sylfaenol ledled Cymru. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £6 miliwn o gyllid refeniw [troednodyn 1] yn y rhaglen dros gyfnod o dair blynedd rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 31 Mehefin 2022 (y cam cyntaf, blynyddoedd 1 i 3). Darparwyd cyllid refeniw ychwanegol o £6 miliwn am gyfnod pellach o dair blynedd rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 31 Mehefin 2025 (yr ail gam, blynyddoedd 4 i 6).
Nod CDC yw lleihau'r nifer sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol a helpu i wella lefelau sgiliau digidol sylfaenol pobl ledled Cymru gan ganolbwyntio ar gefnogi grwpiau blaenoriaeth. Tan ddiwedd mis Mawrth 2024, pobl hŷn 50+; pobl o oedran gweithio sy'n economaidd anweithgar a phobl ddi-waith; pobl anabl a phreswylwyr tai cymdeithasol oedd y rhain. Ers mis Ebrill 2024, mae’r rhaglen wedi canolbwyntio ar gefnogi pobl hŷn 50+, preswylwyr tai cymdeithasol, staff a chleifion yn y sector iechyd, yn ogystal â chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr). Darperir y rhaglen gan Cwmpas, mewn cydweithrediad â'r Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe.
Nodau ac amcanion yr adolygiad
Penodwyd Ymchwil OB3, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen CDC: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant.
Nodau'r gwerthusiad oedd:
- adolygu a chrynhoi'r dystiolaeth bresennol ynghylch y berthynas rhwng cynhwysiant digidol ac iechyd
- adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ffordd y darparwyd y rhaglen
- asesu i ba raddau y mae nodau'r rhaglen wedi'u cyflawni a'r targedau wedi'u cyrraedd
- darparu tystiolaeth o ganlyniadau'r rhaglen i unigolion a'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio
Cynhaliwyd y gwerthusiad mewn tri cham allweddol a oedd yn cynnwys Gwerthusiad Proses a Damcaniaeth Newid a gyhoeddwyd yn 2021; gwerthusiad interim o'r broses a'r canlyniadau; a gwerthusiad terfynol crynodol. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y gwerthusiad terfynol hwn yn 2022 ond cafodd ei ymestyn i 2025 i gyd-fynd â'r estyniad i'r rhaglen. Yn sgil yr estyniad i'r cyllid, paratowyd adroddiad diweddaru byr yn 2023 i adolygu perfformiad y rhaglen yn erbyn y targedau ar gyfer y cyfnod cyflawni rhwng Gorffennaf 2019 a Mehefin 2023 [troednodyn 2].
Dull
Mae’r gwerthusiad terfynol hwn yn seiliedig ar weithgareddau a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2024, a oedd yn cynnwys:
- cam cychwynnol i fireinio a chytuno ar y rhaglen waith ar gyfer y cam olaf
- adolygiad desg o ddogfennau polisi a dogfennau strategol diweddar, dogfennau'r rhaglen CDC a'r data monitro
- drafftio canllawiau trafod ar gyfer cyfweld â chyfranwyr
- cyfweld â chyfanswm o 13 o swyddogion Llywodraeth Cymru a staff a oedd yn gyfrifol am gyflawni'r rhaglen o Cwmpas, Prifysgol Abertawe a'r Good Things Foundation
- casglu adborth drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda 32 o staff a buddiolwyr o chwe sefydliad astudiaeth achos a ymgysylltodd â CDC, yn ogystal â phedwar cynghorydd CDC a gefnogodd y sefydliadau hyn
- ail-gyfweld â chynrychiolwyr o bedwar sefydliad a gyfrannodd at y gwerthusiad interim o'r broses a'r canlyniadau yn 2021
- cynnal gwaith maes mewn perthynas â gwaith CDC ar Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC) a oedd yn cynnwys cynnal arolwg o 38 o aelodau a hwyluso trafodaeth ag aelodau Grŵp Llywio CCDC
- cynnal gwaith maes mewn perthynas â gwaith CDC gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a chymunedau o bobl ag anableddau a oedd yn cynnwys cyfweliadau â chynrychiolwyr o dri sefydliad gwahanol sy'n cefnogi'r cymunedau hyn
- cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes a'r adolygiad desg a pharatoi adroddiad gwerthuso terfynol
Prif ganfyddiadau
O ran rhesymeg y rhaglen
Bu ffocws polisi cynaliadwy a chadarnhaol ar gynhwysiant digidol ledled Cymru, ac mae CDC yn cael ei chydnabod yn aml fel rhaglen allweddol ar gyfer symud yr amcanion polisi hyn yn eu blaenau.
Mae cyfraniad y rhaglen CDC at ddatblygu polisi cynhwysiant digidol yng Nghymru a'i dylanwad ar hynny wedi bod yn gadarnhaol, yn enwedig o ran creu'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS).
Mae CDC wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at leihau nifer y bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yng Nghymru, er bod ffactorau allanol eraill, megis y pandemig COVID-19 a chynnydd mewn gwasanaethau ar-lein, hefyd wedi bod yn allweddol i haneru cyfran yr oedolion yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ers 2012/13.
Mae cyfran y bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru wedi gwastatáu’n ddiweddar ac mae’r rhai sy’n parhau i fod wedi’u hallgáu’n ddigidol yn dod yn anoddach eu cyrraedd. Maent hefyd yn fwy tebygol o fod angen cymorth dwysach, wyneb yn wyneb, i ymgysylltu â’r byd digidol. Gan mai ymyriad rhithwir yn bennaf yw CDC, nid yw wedi'i gynllunio i ddarparu'r lefel hon o gymorth wedi'i dargedu ar hyn o bryd.
Mae dadl gref dros sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn mentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru roi mwy o gyfeiriad i’r sector iechyd ar yr hyn sy’n gyfystyr ag arfer da, megis yr angen am strategaeth cynhwysiant digidol a thimau trawsnewid digidol.
O ran y cynnydd a wnaed gan y rhaglen
Mae CDC wedi newid yn sylweddol ers paratoi ein hadroddiad gwerthuso interim. Mae cyflwyno dull thematig ers mis Ebrill 2024, mewn ymateb i doriadau arfaethedig mewn cyllid, wedi galluogi CDC i weithio mewn ffordd sydd wedi'i thargedu'n fwy penodol.
Ymddengys fod y gefnogaeth ddwys i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn effeithiol a gallai fod yn fodel ar gyfer ymgysylltu â grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y dyfodol.
Mae'r rhaglen CDC wedi dod yn fwy strategol o ran ei gweithrediad dros amser, ac mae'n cyflawni ei huchelgeisiau drwy drefniadau cydweithio cryfach â rhanddeiliaid allweddol.
Mae CDC wedi ymsefydlu ei hun fel endid uchel ei barch a dylid cadw brand CDC, sydd wedi dod i gael ei adnabod a'i werthfawrogi'n fawr, yn y dyfodol.
O ran perfformiad y rhaglen
Mae'r rhaglen CDC wedi perfformio'n dda yn erbyn ei hamrywiol Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) dros y cyfnod ariannu chwe blynedd ac mae'n ymddangos yn realistig y bydd y rhaglen yn cyrraedd ei DPA presennol, ac o bosibl yn rhagori arnynt, erbyn mis Mehefin 2025.
Er bod y cynnydd yn erbyn y targed o gefnogi staff iechyd a gofal cymdeithasol yn araf i ddechrau, gwelwyd gwelliant dros amser oherwydd ymgysylltiad cynyddol gan sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr wedi parhau i fod yn her ers y pandemig. Er y bu'n briodol dileu’r targedau hyn o fis Ebrill 2024 ymlaen, mae’n codi cwestiynau ynghylch y ddamcaniaeth newid sylfaenol ar gyfer CDC, o ystyried ei bod wedi’i chynllunio’n wreiddiol ar sail y rhagdybiaeth y byddai gwirfoddolwyr yn rhaeadru sgiliau a gwybodaeth ddigidol i eraill.
Mae'r rhaglen CDC wedi wynebu heriau o ran cyrraedd ei tharged ar gyfer sefydliadau yn y sector preifat, ac mae ei pherfformiad yn erbyn y DPA hwn wedi bod yn anfoddhaol. Ar sail y tanberfformiad hwn, byddai'n werth ymchwilio i ddulliau amgen o weithio gyda'r sector preifat yn y dyfodol.
Efallai bod dadl dros ddefnyddio mwy o adnoddau CDC dros weddill cyfnod y rhaglen i ddarparu cymorth dwys i unigolion a dangynrychiolir ac sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
Mae diwygiadau i DPA y rhaglen CDC er mwyn ystyried effaith newidiadau allanol a newidiadau i ddarpariaeth y rhaglen, wedi'i gwneud yn anodd mesur cyflawniadau cyffredinol dros y cyfnod chwe blynedd. Yn y dyfodol, byddai’n werth ymchwilio i fabwysiadu DPA ehangach sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd ac sy’n cyd-fynd â’r diffiniadau a nodir ar gyfer yr MDLS.
O ran y gwahaniaeth a wnaed gan y rhaglen CDC
Y bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad ystyrlon â chynhwysiant digidol, ac felly â'r rhaglen CDC, ar draws y sefydliadau targed, yn enwedig ymhlith sefydliadau’r sector iechyd, dros amser.
Mae benthyca cyfarpar digidol i sefydliadau a’u defnyddwyr neu eu haelodau yn elfen hynod effeithiol o’r rhaglen, lle mae hynny'n rhan greiddiol o gymorth a hyfforddiant ehangach.
Mae tystiolaeth dda bod y rhaglen CDC wedi cefnogi sefydliadau i nodi bylchau yn sgiliau digidol eu gweithlu ac wedi darparu hyfforddiant sgiliau digidol wedi'i dargedu i helpu i fynd i'r afael â'r rhain.
Mae CDC wedi gwella'n sylweddol gapasiti hyfforddi sefydliadau na fyddent fel arall yn gallu darparu rhaglen mor gynhwysfawr i'w gweithlu.
Er bod y gwerthusiad wedi amlygu enghreifftiau gwych lle mae staff hyfforddedig yn rhannu eu sgiliau digidol newydd gyda chydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd, mae hyn yn amrywio o un lleoliad i’r llall.
Ceir tystiolaeth dda bod unigolion a gefnogir gan CDC, megis defnyddwyr llyfrgelloedd, preswylwyr cartrefi gofal, aelodau o grwpiau cymunedol a chleifion iechyd, yn defnyddio technoleg i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn well. Gwelwyd gwelliannau mewn llesiant ac iechyd meddwl o ganlyniad i gysylltedd digidol gwell sy’n helpu i leddfu unigrwydd neu wella gallu unigolion i reoli eu hiechyd eu hunain gan ddefnyddio cyfarpar digidol amrywiol.
Ceir tystiolaeth o berchnogaeth gynyddol o gynhwysiant digidol ymhlith y sefydliadau a gefnogir. Mewn rhai achosion, mae cynhwysiant digidol wedi’i ymgorffori’n llawn yn strategaeth y sefydliad ac wedi arwain at sefydlu timau trawsnewid digidol a rhaglen barhaus o hyfforddiant digidol ar gyfer y gweithlu.
Gallai tynnu ymyrraeth CDC yn ôl arwain at golli momentwm ar draws rhai sefydliadau a gefnogir sy'n wynebu problemau arweinyddiaeth, cyfyngiadau ariannol a chymorth polisi cyfyngedig i gynnal eu hymdrechion cynhwysiant digidol.
O ran Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC)
Mae'r rhwydwaith wedi tyfu ac ehangu ei aelodaeth ond mae angen ehangu amrywiaeth ymysg yr aelodau ymhellach.
Mae hefyd wedi sicrhau mwy o eglurder o ran ei ddiben ac wedi mabwysiadu dull mwy strwythuredig o gyflawni ei flaenoriaethau allweddol.
Mae’r CCDC wedi bod yn ddull effeithiol o rannu arferion gorau, hwyluso cydweithio ar draws sectorau a darparu llwyfan cryf ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant digidol.
Nid yw’r rhwydwaith mewn sefyllfa i fod yn hunangynhaliol a heb gefnogaeth bellach gan Lywodraeth Cymru, mae perygl y bydd yn dod i ben.
Mae cyfle i CCDC gymryd mwy o ran mewn mentrau ar lawr gwlad i fynd i'r afael yn uniongyrchol â materion fel tlodi data.
Argymhellion
Mae'r gwerthusiad yn cynnig 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
- Mae cynhwysiant digidol yn haeddu cael mwy o flaenoriaeth ar draws Llywodraeth Cymru a dylai cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant digidol gael ei ystyried yn faes gwaith trawsbynciol, ac nid ei gyfyngu i un neu ddwy o adrannau Llywodraeth Cymru.
- Dylai unrhyw gyllid yn y dyfodol ar gyfer mentrau cynhwysiant digidol gynnwys adnoddau i dargedu a chynnig cymorth dwys i unigolion sydd wedi’u tangynrychioli ac sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae lle i ymchwilio i'r defnydd o fecanweithiau hyblyg, sy'n seiliedig ar le, i ddarparu mwy o gymorth ymarferol i gynulleidfaoedd targed penodol, gan ddefnyddio mewnbwn gwirfoddolwyr a mentrau llwyddiannus CDC megis Arwyr Digidol, fel y bo'n briodol.
- Dylid parhau â'r dull thematig a fabwysiadwyd yn ystod 2024 a’i ddefnyddio fel sail i ddyluniad a strwythur rhaglenni cynhwysiant digidol yn y dyfodol.
- Mae’n werth cadw brand CDC y tu hwnt i fis Mehefin 2025, ynghyd â swyddogaethau strategol a chydgysylltu cenedlaethol y rhaglen.
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid ymgysylltu’n well â’r sector preifat i fynd i’r afael â materion allgáu digidol ledled Cymru. Dylid ystyried gweithio gyda sefydliad neu fenter briodol sydd â'r cyrhaeddiad a'r dylanwad angenrheidiol ar draws y sector hwn.
- Dylid gosod targedau cyllido mwy hyblyg ar gyfer unrhyw raglenni cynhwysiant digidol yn y dyfodol, nad oes angen eu diwygio i adlewyrchu diwygiadau mawr i'r rhaglen waith dros amser.
- Dylai unrhyw ymyriadau cynhwysiant digidol yn y dyfodol gasglu ac adrodd ar ganlyniadau sy’n cyd-fynd â’r diffiniadau a nodir yn y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.
- Dylai unrhyw fenter cynhwysiant digidol yn y dyfodol barhau i sicrhau bod cyfarpar digidol ar gael i sefydliadau a’u buddiolwyr i'w benthyca, ar yr amod bod hyn yn rhan greiddiol o’r cymorth a ddarperir.
- Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi CCDC yn ariannol dros y tair blynedd nesaf. Dros y cyfnod hwn, dylai fod yn ofynnol i sefydliadau sy’n aelodau wneud cyfraniad ariannol i’r CCDC, gyda’r nod o leihau’n raddol gyfran Llywodraeth Cymru o’r cyllid cyffredinol dros amser.
- Dylai unrhyw gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i CCDC ei gwneud yn ofynnol i CCDC brofi mentrau prawf cysyniad a bod yn gydnaws ag allbynnau a chanlyniadau penodol. O ystyried mai cymharol ychydig o lwyddiant a gafodd CDC o ran ymgysylltu â'r sector preifat, gallai hwn fod yn un maes addas i ymchwilio iddo.
Troednodiadau
[1] Mae cyllid refeniw yn wahanol i gyllid cyfalaf gan ei fod yn ariannu gweithgareddau tymor byr neu sefydlog fel staff. Defnyddir cyllid cyfalaf i ariannu pryniannau y gellir eu defnyddio dros gyfnod hwy fel offer.
[2] Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant
Manylion cyswllt
Awduron: Bryer, N; a Bebb, H; (2025)
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Dr Angela Endicott
Is-Adran Ymchwil Cymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: YmchwilCyfiawnderCymdeithasol@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 16/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-316-9