Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Menter tair blynedd gan Lywodraeth Cymru yw'r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (CDC): Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant sy’n cael ei darparu rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2022 gyda’r nod o leihau allgau digidol a helpu i wella sgiliau digidol sylfaenol ledled Cymru. Ariennir y rhaglen £6-miliwn gan is-adran Dyfodol Ffyniannus ac is-adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Nod CDC yw cefnogi unigolion i feithrin y pum sgil sylfaenol a nodir yn fframwaith sgiliau digidol hanfodol y DU gan ganolbwyntio ar gefnogi pedwar grŵp blaenoriaeth (pobl hŷn 50+; pobl economaidd anweithgar a di-waith o oedran gweithio; pobl anabl a phreswylwyr tai cymdeithasol). Darperir y rhaglen gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, mewn cydweithrediad â'r Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe.

Nodau ac amcanion yr adolygiad

Penodwyd Ymchwil OB3, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen CDC: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant.

Nodau'r gwerthusiad yw:

  • adolygu a chrynhoi'r dystiolaeth bresennol ynghylch y berthynas rhwng cynhwysiant digidol ac iechyd
  • adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ffordd y cyflwynwyd y rhaglen
  • asesu i ba raddau y mae nodau'r rhaglen wedi'u cyflawni a'r targedau wedi'u cyrraedd
  • darparu tystiolaeth o ganlyniadau'r rhaglen i unigolion a'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio. 

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn tri cham allweddol sy'n cynnwys Gwerthusiad Proses a Damcaniaeth Newid a gafodd ei gyhoeddi yn Chwefror 2021; y gwerthusiad interim hwn o'r canlyniadau; a gwerthusiad terfynol crynodol.

Dull

Mae'r gwerthusiad interim hwn o'r canlyniadau wedi cynnwys:

  • cam cychwynnol, a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a mireinio rhaglen waith yr ail gam 
  • adolygiad pen desg o ddogfennau polisi a dogfennau strategol diweddar, dogfennau'r rhaglen CDC a'r data monitro
  • drafftio canllawiau trafod ar gyfer cyfweld â chyfranwyr
  • cyfweld â chyfanswm o naw swyddog o Lywodraeth Cymru a staff a oedd yn darparu’r rhaglen o Ganolfan Cydweithredol Cymru, Prifysgol Abertawe a'r Good Things Foundation
  • cyfweld â chyfanswm o 38 o unigolion sy'n ymwneud â 10 sefydliad yn yr astudiaethau achos sydd wedi cydweithio â CDC, gan gynnwys cynghorwyr a buddiolwyr CDC
  • cyfweld ag un cynrychiolydd o gartref gofal
  • cynnal arolwg o 27 o aelodau Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
  • cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes a'r adolygiad desg a pharatoi'r adroddiad cam dau hwn

Canfyddiadau allweddol

O ran rhesymeg y rhaglen, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • mae polisi cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu ymhellach yn ystod 2020 a 2021, yn sgil cyhoeddi'r Rhagolwg Cynhwysiant Digidol a'r Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae'n debygol o gael ei ddatblygu ymhellach gan y strategaeth arfaethedig ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith y Prif Swyddog Digidol Iechyd a Gofal. Mae CDC mewn sefyllfa dda i helpu i gyflawni'r polisïau cynhwysiant digidol hyn 
  • mae llu o ddatblygiadau digidol eraill yn digwydd ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae CDC mewn sefyllfa dda i gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu a gweithredu eu strategaethau cynhwysiant digidol eu hunain ar yr amod bod ei raglen waith yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau digidol newydd hyn
  • mae lefelau cynhwysiant digidol wedi gwella yng Nghymru ac mae’r data mwyaf cadarn o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod gan 92 y cant o gartrefi fynediad i’r rhyngrwyd a bod 93 y cant o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd bellach. Mae lefelau ymgysylltu digidol yn parhau i fod yn is yng Nghymru nag yn rhanbarthau eraill y DU ac mae’r pandemig wedi codi’r bar o ran y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen bellach er mwyn i bobl gael eu cynnwys yn ddigidol sy’n cyfiawnhau cefnogaeth barhaus i gymunedau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru

O ran y cynnydd a wnaed gan y rhaglen, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • bellach mae gan CDC arweinyddiaeth gryfach, mae'n elwa o strwythur mwy priodol o ran yr uwch reolwyr ac mae wedi mabwysiadu prosesau gwell ar gyfer casglu data ac adrodd ar wybodaeth i Lywodraeth Cymru
  • mae'n ymddangos bod y penderfyniad i ailstrwythuro staff y rhaglen yn ddiweddar yn briodol ac yn gweithio'n dda ac mae'r adnoddau o ran staff bellach yn cyd-fynd yn well â blaenoriaethau'r rhaglen a'r canlyniadau y bwriedir iddi eu cyflawni
  • mae DPA y rhaglen wedi'u hadolygu ac mae dangosyddion newydd yn adlewyrchu amcanion y rhaglen yn well. Cyflwynwyd offer monitro newydd yn ddiweddar ac mae angen eu defnyddio mewn modd cyson i gasglu data cymaradwy, defnyddiol
  • mae CDC ar y trywydd iawn o ran tri o'i DPA newydd neu'n rhagori arnynt, ac er ei bod fymryn ar ei hôl hi o ran ei phedwerydd DPA, mae'n edrych yn debygol y bydd y targed hwn yn cael ei gyflawni dros gyfnod y rhaglen. Mae'r data ar ganlyniadau a adroddwyd hyd yn hyn yn galonogol, yn enwedig o ran yr unigolion a hyfforddwyd sy'n adrodd am newidiadau cadarnhaol i'w bywydau
  • mae'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant pwrpasol, sy'n ddiwylliannol sensitif ac sy'n diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, yn effeithiol iawn a dylid tynnu sylw at hynny fel arfer da. Dylid blaenoriaethu camau tebyg i ddatblygu darpariaeth bwrpasol ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig dros weddill y cyfnod cyflawni

O ran y cynnydd a wnaed gan Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (DIAW), canfu’r gwerthusiad y canlynol:

  • mae wedi gwneud cynnydd da i fabwysiadu trefniadau llywodraethu priodol a chyhoeddi agenda cynhwysiant digidol sy'n cael ei chefnogi'n dda ac sydd wedi helpu i ddarparu eglurder ynghylch diben a chylch gwaith y gynghrair
  • byddai’n elwa o gael aelodaeth ehangach – yn enwedig o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, cymunedau Cymraeg a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • mae angen iddi ystyried ei chynaliadwyedd yn yr hirdymor, yn enwedig pe bai cyllid CDC yn dod i ben ym mis Mehefin 2022

O ran ymgysylltu â sefydliadau partner:

  • ers gwanwyn 2021, mae’r rhaglen wedi gallu ailgysylltu’n llwyddiannus â sefydliadau, yn enwedig sefydliadau’r trydydd sector, ond mae’n parhau i’w chael hi'n anodd ymgysylltu â’r sector preifat
  • mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus o ran ymgysylltu ar lefel strategol â’r sector iechyd a gofal cymdeithasol drwy sefydliadau ambarél neu sefydliadau sy'n cael eu harwain gan aelodau ac mae lle i adeiladu ar y dulliau gweithredu hyn ar draws y sector dros weddill cyfnod y rhaglen gan eu bod yn gallu cwmpasu Cymru gyfan a chynnig llwybr cynaliadwy ar gyfer cynnal darpariaeth yn yr hirdymor
  • mae CDC wedi llwyddo i ymgysylltu’n llwyddiannus â rhai byrddau iechyd ac awdurdodau lleol unigol ar lefel strategol ac yn yr achosion hyn canfuwyd bod y rhaglen yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddatblygu polisïau ac arferion ar draws y sefydliadau
  • mae nifer o enghreifftiau lle mae CDC yn gweithio'n effeithiol gydag adrannau a gwasanaethau unigol ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd mwy esblygol, a bod yr ymyriadau hyn wedi helpu i gyflwyno ffyrdd digidol newydd o weithio

O ran profiad sefydliadau a gefnogir, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • mae hyfforddiant rhithwir wedi bod yn hollbwysig dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae dull CDC o ddarparu hyfforddiant rhithwir yn dod yn fwy strategol a chlyfar. Byddai'r rhaglen yn elwa o ganolbwyntio ar ddarpariaeth y gellir ei chynnal ar ryw ffurf yn y dyfodol
  • mae'r adborth ar ansawdd, gwerth a budd yr hyfforddiant sydd ar gael yn parhau i fod yn rhagorol. Darparodd y sefydliadau yn yr astudiaethau achos ddigon o dystiolaeth fod yr hyfforddiant yn helpu i wella sgiliau digidol, gwella gwybodaeth a chynyddu hyder y staff
  • dywedodd y sefydliadau yn yr astudiaethau achos fod staff hyfforddedig yn rhannu ac yn defnyddio eu sgiliau digidol newydd gyda chydweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Mae adborth hefyd yn awgrymu bod y defnydd o sgiliau digidol newydd ymhlith defnyddwyr gwasanaethau yn helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, yn gwella iechyd meddwl ac yn helpu unigolion i deimlo eu bod yn perthyn i gymunedau o ddiddordeb
  • nid yw darparu cyfarpar digidol neu gysylltedd yn arbennig o effeithiol ar eu pen eu hunain, ond ceir nifer o enghreifftiau lle mae adnoddau o’r fath wedi cael eu croesawu a’u defnyddio’n dda
  • mewn gwrthgyferbyniad â hynny, lle mae dyfeisiau wedi’u benthyca i sefydliadau fel rhan o becyn cymorth ehangach, mae’r adnoddau’n helpu i gyfrannu at ganlyniadau digidol cadarnhaol i staff a defnyddwyr gwasanaethau. Mae cyfarpar o'r fath yn chwarae rhan hanfodol o ran caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaethau gadw cysylltiad â ffrindiau a theulu yn ogystal a chynnal neu ddatblygu hobïau a diddordebau newydd
  • mae'r rhaglen wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o gyflwyno staff a defnyddwyr gwasanaethau i ddyfeisiau arloesol, megis cyfarpar realiti rhithwir, ac mae'r adborth yn awgrymu bod CDC yn effeithiol o ran helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i staff am dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n dod i'r amlwg

O ran blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, canfu’r gwerthusiad y canlynol:

  • dylai'r rhaglen CDC flaenoriaethu ei gwaith strategol i ymgorffori cynhwysiant digidol yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig a strategaethau digidol byrddau iechyd, gan adeiladu ar yr arfer da a sefydlwyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
  • dylai Llywodraeth Cymru barhau i chwarae rhan allweddol o ran galluogi CDC i gymryd rhan yn y datblygiadau pwysig ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol a chefnogi’r broses o roi'r datblygiadau hynny ar waith
  • dylai CDC archwilio sut y gall gynnig model hyfforddiant cyfunol ar gyfer y cyfnod cyflawni sy'n weddill a dychwelyd i ddarparu rhywfaint o hyfforddiant wyneb yn wyneb

Argymhellion

Mae'r gwerthusiad yn cynnig naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried ar gyfer y rhaglen CDC:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn y rhaglen CDC y tu hwnt i 2022, gan fod cyfiawnhad cryf dros wneud hynny o ran angen a pherfformiad y rhaglen hyd yma.
  2. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rhaglen CDC mewn sefyllfa dda ac wedi'i galluogi ar lefel strategol i gefnogi'r gwaith o weithredu strategaethau digidol yn y dyfodol fel y rhai a amlinellir gan fyrddau iechyd yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig; yn ogystal â rhaglen waith y dyfodol a amlinellwyd gan y Prif Swyddog Digidol Iechyd a Gofal. Yn yr un modd mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod CDC yn ymgysylltu'n weithredol â'r blaenoriaethau digidol a nodir yn Strategaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
  3. Byddai DIAW yn elwa o ganolbwyntio ar a chyflawni nifer bach o flaenoriaethau allweddol dros weddill y cyfnod cyllido er mwyn dangos gwerth y gynghrair a gwneud gwahaniaeth pendant. Byddai hefyd yn elwa o sicrhau cynrychiolaeth o sefydliadau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol ar hyn o bryd o bob rhan o'r meysydd iechyd, y Gymraeg, a Chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
  4. Os na fydd y rhaglen CDC yn cael ei hariannu ar ôl 2022, mae angen ystyried cynaliadwyedd hirdymor DIAW ar unwaith. Beth bynnag a ddigwydd, mae angen i DIAW ymchwilio i sut y gallai barhau â'i gwaith yn y dyfodol.
  5. Mae angen i CDC flaenoriaethu ac ystyried sut y gall ymgysylltu'n well â'r sector preifat, gan ymchwilio i ddulliau eraill lle y bo'n bosibl e.e. drwy undebau llafur i gyrraedd gweithwyr yn y sector preifat.
  6. Dylai CDC adeiladu ar ei ddull llwyddiannus o weithio ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol, drwy fapio a chysylltu â sefydliadau ambarél a sefydliadau aelodaeth cenedlaethol y gallai ymgysylltu â nhw, gan gynnwys mewn sectorau eraill lle y bo'n briodol.
  7. Dylai CDC barhau i ddatblygu a darparu ei hatebion pwrpasol ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg a blaenoriaethu ei dull o ymgysylltu â Chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig dros y cyfnod cyflawni sy'n weddill.
  8. Dylai CDC fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'i ddull o fenthyca cyfarpar yn ystod y pandemig, ac yn y dyfodol sicrhau mai dim ond fel rhan o becyn cymorth ehangach i sefydliadau ac unigolion y bydd cyfarpar digidol ar gael yn hytrach nag ar eu pen eu hunain.
  9. Mae angen i CDC ystyried sut y gall gynnig rhaglen gyfunol o hyfforddiant digidol dros weddill y cyfnod cyflawni, gan edrych lle y bo'n bosibl ar gynhyrchu adnoddau rhithwir y gellir eu hariannu gan sefydliadau partner ar ôl i'r rhaglen ddod i ben.

Manylion cyswllt

Bryer, N; a Bebb, H; (2022). Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant: Gwerthusiad Interim o'r Broses a'r Canlyniadau. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, adroddiad GSR rhif 25/2022

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Siân Williams
Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd

Ffôn: 0300 025 3991
E-bost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN 978-1-80391-866-2