Data sy’n astudio patrymau cymudo ar gyfer y rhai mewn cyflogaeth sy’n seiliedig ar brif swydd y person yn unig ar gyfer 2023.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r data yn dangos llifoedd cymudo o ardaloedd yng Nghymru i ardaloedd eraill (i fewn a thu allan o Gymru).
Effaith coronafeirws
Mae ymatebion 2020 ar gyfer lleoliad gwaith yn ymwneud â phatrwm gwaith arferol yr ymatebwr os nad oedd cyfyngiadau coronafeirws mewn lle. Rhwng mis Ionawr a mis Medi 2021, gofynnwyd i ymatebwyr ystyried ble y byddent fel arfer yn gweithio cyn pandemig COVID-19. Felly, nid yw’r data a gyhoeddwyd ar gyfer 2020 a 2021 yn adlewyrchu y gwir batrymau cymudo a welwyd yn ystod y pandemig.
Mae'r ymatebwyr a gafodd eu rhoi ar ffyrlo yn cael eu cynnwys ac maent wedi ateb yn seiliedig ar leoliad y gweithle pe baent yn gweithio.
Ers cyfnod mis Hydref i fis Rhagfyr 2021, newidiodd y canllawiau i ofyn am batrymau gwaith 'arferol' ymatebwyr, felly bydd data o 2022 ymlaen yn adlewyrchu gwir batrymau cymudo.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.