Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych wedi cael yr incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, byddem yn hoffi clywed am eich bywyd a'ch lles i weld sut mae'r peilot incwm sylfaenol wedi effeithio arnoch chi.

Faint o amser fydd ateb yr arolwg yn ei gymryd?

Mae'r arolwg yn fyr, a dim ond rhyw 10 i 15 munud y dylai ei gymryd i'w gwblhau. Gofynnwyd i chi gwblhau arolwg tebyg ar ddechrau'r peilot. Does dim ots os na wnaethoch chi ateb yr arolwg cyntaf, rydyn ni'n dal eisiau clywed gennych chi.

Bydd CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd yn anfon taleb siopa gwerth £20 atoch i ddiolch i chi am eich amser.

Pwy fydd yn gweld fy atebion?

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan Coram Voice (elusen sy'n helpu plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal). Bydd eich atebion yn ddienw ac yn cael eu rhannu ag ymchwilwyr y brifysgol. Os ydych chi'n poeni sut y bydd eich atebion a'ch gwybodaeth yn cael eu defnyddio, bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn esbonio hynny wrthych ar ddechrau'r arolwg.

Os oes angen rhagor o help arnoch i wneud yr arolwg hwn, gallwch ofyn i'ch Cynghorydd Person Ifanc. 

Sut mae llenwi’r arolwg?