Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (“Rheoliadau'r Coronafeirws”). Maent wedi'u hanelu at unrhyw berson y mae Rheoliad 12 o Reoliadau'r Coronafeirws yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y canlynol:

  1. cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn mangre benodol
  2. sicrhau y caiff unrhyw fesurau rhesymol eraill eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws, yn arbennig drwy gyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb a gwella hylendid
  3. darparu gwybodaeth i’r rhai sy'n mynd i mewn i fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg

Mae'r rheoliadau yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ar yr hyn a ddisgwylir o dan reoliad 12. Rhaid ystyried y canllawiau hyn, ac unrhyw ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan gyrff eraill a ymgorfforir yn y canllawiau hyn.

O 12 Medi ymlaen, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid rhoi sylw hefyd i’r canllawiau (a gyhoeddwyd o dan reoliad 13) ar

Mae rheoliad 12 yn gosod rhwymedigaethau ar bobl sy’n gyfrifol am fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd, neu lle y mae gwaith yn cael ei wneud, i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd hynny, ac i leihau’r risg y bydd y rheini sydd wedi bod yn y fangre yn lledaenu coronaferiws.

Diben y canllawiau

Yn wreiddiol, gwnaeth Rheoliadau'r Coronafeirws hi'n ofynnol i nifer o fusnesau a mangreoedd a gwasanaethau eraill gau. Yn raddol, o ganlyniad i adolygiadau rheolaidd o'r Rheoliadau, rhoddwyd caniatâd i nifer cynyddol ohonynt ailagor. Mae hyn yn aml yn ddarostyngedig i ofynion statudol, wedi'u hategu gan ganllawiau gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill, gan gynnwys cyrff proffesiynol a sectoraidd.

Mae cynnal pellter o 2 fetr rhwng pobl nad ydynt o'r un aelwyd neu aelwyd estynedig yn agwedd bwysig ar y mesurau y mae'n rhaid i bawb eu cymryd i leihau'r risgiau y bydd y coronafeirws yn lledaenu. Mae'n ddisgyblaeth y dylai pawb anelu at ei chynnal ym mhob agwedd ar fywyd beunyddiol.

Ers peth amser, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod gofyniad cyfreithiol penodol ar y bobl sy'n gyfrifol am weithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd i sicrhau y gwneir popeth rhesymol i gynnal pellter o 2 fetr rhwng pobl wrth iddynt weithio.

Wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi ac wrth i fwy o fangreoedd agor i'r cyhoedd, mae cadw pellter corfforol mor bwysig ag erioed wrth i ragor o bobl yngweithio â'i gilydd. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'n ymarferol cynnal pellter o 2 fetr mewn llawer o leoliadau ac yn cydnabod y potensial ar gyfer cymryd camau eraill sy'n effeithiol wrth leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.

Bwriedir i'r canllawiau helpu pobl i ddeall ystyr "cymryd pob mesur rhesymol" a pha fesurau y dylid eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws.

Yn gyffredinol, nid ydynt yn ymwneud â ph'un a yw'r busnesau ac eraill sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n ddarostyngedig i'r gofyniad hwn yn gweithio neu'n cynnal gweithgareddau, ond yn hytrach sut y gwneir hynny. Maent yn ymwneud â chymryd camau cymesur lle y bo'n ymarferol gwneud hynny.

Egwyddorion cyffredinol

I bwy mae'r canllawiau hyn yn berthnasol?

Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i bawb y mae'n ofynnol iddynt o dan Reoliadau'r Coronafeirws gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Yn fwyaf amlwg, maent yn berthnasol i gyflogwyr ac unrhyw sefyllfa lle y cynhelir gwaith (gan gynnwys mannau lle mae aelodau’r cyhoedd yn bresennol megis siopau), ond maent hefyd yn berthnasol i bobl sy'n gyfrifol am fangreoedd megis canolfannau siopa, meysydd parcio a thoiledau.

Pryd mae'r canllawiau yn berthnasol?

Mae'r gofyniad yn berthnasol o dan amrywiaeth eang iawn o amgylchiadau, gan gynnwys pob math o weithle sydd ar agor. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau cyhoeddus, mangreoedd iechyd a gofal cymdeithasol, ysgolion a lleoliadau gofal plant, canolfannau galwadau, busnesau lletygarwch, mangreoedd masnachol a diwydiannol, safleoedd adeiladu a safleoedd agored eraill fel gwaith ffordd a mannau awyr agored gan gynnwys marchnadoedd da byw.

Yn achos y mangreoedd a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 i Reoliadau'r Coronafeirws (busnesau a gwasanaethau i'r cyhoedd y caniateir iddynt aros ar agor) ac yn achos mannau addoli, amlosgfeydd, mynwentydd a chanolfannau cymunedol, mae'r ddyletswydd gyfreithiol yn berthnasol i'r person sy'n gyfrifol am y fangre.  Yn achos gweithleoedd eraill, mae'r ddyletswydd yn berthnasol i'r person sy'n gyfrifol am y gwaith a wneir yn y gweithle; hynny yw, y person sy'n gyfrifol am reoli. Ni fyddai'n berthnasol, er enghraifft, i berchennog gofod ffatri na swyddfa ar brydles.

Mae hefyd yn berthnasol i dacsis a thrafnidiaeth gyhoeddus, ond ar ben hynny rhaid i weithredwyr y gwasanaethau hyn ystyried canllawiau penodol ynghylch y rhwymedigaeth gyfreithiol ar deithwyr i wisgo gorchuddion wyneb ac ynghylch darparu gwybodaeth i deithwyr am y rhwymedigaeth hon.

Er bod y rhwymedigaethau cyfreithiol yn berthnasol i bobl benodol, mae cyfrifoldeb personol ar bawb mewn gweithle neu fangre sydd ar agor i'r cyhoedd i beidio ag atal y camau a gymerir i sicrhau y caiff y risg o drosglwyddo'r coronafeirws ledled Cymru ei lleihau.

Beth yw'r gofyniad cyfreithiol y mae'r canllawiau yn seiliedig arno?

Mae tair elfen i'r rheol, ac mae'r ddwy gyntaf yn rhyng-gysylltiedig.

Mae'r man cychwyn yn parhau yr un fath. Rhaid cymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter o 2 fetr mewn mangreoedd neu pan fydd unrhyw un yn gweithio.

Nesaf, rhaid cymryd mesurau rhesymol eraill i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Y prif amcan yn hyn o beth yw lleihau rhyngweithio agos wyneb yn wyneb a gwella hylendid. Gall y rhain fod yn ofynnol yn ychwanegol at gadw pellter corfforol (er enghraifft, drwy lanhau'r fangre yn amlach neu olchi dwylo) neu yn lle cadw pellter corfforol (er enghraifft, drwy ddefnyddio sgriniau pan fydd rhyngweithio agos rhwng pobl yn anochel).

Bydd pa fesurau eraill sy'n rhesymol ofynnol yn dibynnu i ba raddau y gellir cynnal pellter corfforol o 2 fetr. Lle y gellir gwneud hynny, nid yw'n debygol y bydd angen gwneud llawer mwy na hynny ar yr amod y caiff safonau hylendid eu cynnal. Lle na ellir gwneud hynny, bydd angen mwy. Mae llawer o'r hyn sy'n ofynnol yn ddewis amgen i gynnal pellter o 2 fetr. Fodd bynnag, bydd cadw pellter cymdeithasol bob amser yn fwy effeithiol na’r mesurau eraill hyn.

Yn olaf, dylid darparu gwybodaeth am sut i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws yn y fangre.

Gweithio gartref

Y ffordd fwyaf effeithiol o gyfyngu ar y risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y gweithle yw galluogi rhai aelodau o’r staff, neu bob un, i weithio o’u cartrefi mor aml â phosibl. Fel “mesurau rhesymol” disgwylir i gyflogwyr fod yn hyblyg ac addasu lle bo’n bosibl i ganiatáu hynny. Gall hyn gynnwys rhoi gliniaduron a ffonau symudol i staff, a hwyluso unrhyw gyfathrebu ag aelodau staff, ble bynnag y maent.

Ni ddylid gofyn na rhoi pwysau ar staff i ddychwelyd i weithle os nad oes achos busnes clir dros wneud hynny. Dylai cyflogwyr sy’n ystyried ei gwneud yn ofynnol i staff ddychwelyd i’r gweithle asesu i ddechrau a oes modd gwneud trefniadau amgen i ddiwallu’r rhan fwyaf o anghenion y cyflogwr. Dylid trafod hyn gyda’r staff neu gynrychiolwyr ar ran y staff. 

Wrth benderfynu a ddylid gofyn i staff ddychwelyd i weithle, dylai cyflogwyr ystyried a fyddai unrhyw effaith negyddol benodol ar les unigolion yn sgil dychwelyd i’r gwaith (er enghraifft os ydynt mewn perygl uwch neu wedi bod yn eu gwarchod eu hunain, neu pe bai dychwelyd i’r gweithle yn achosi pryder difrifol iddynt).

Yn yr un modd, efallai bod rhai aelodau o’r staff yn awyddus i ddychwelyd i’r gweithle. Dan amgylchiadau o’r fath, mae lles y staff yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu pa fesurau i atal lledaeniad y coronafeirws sy’n rhesymol. Er mai prif flaenoriaeth y cyflogwr fyddai cyfyngu ar y risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, dylid cydbwyso hyn gydag effaith negyddol gweithio o’r cartref ar les y gweithiwr cyflogedig. Dan amgylchiadau o’r fath, os gall gweithwyr ddychwelyd i’r gweithle heb gynnydd sylweddol yn y risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, dylid caniatáu hyn. Wrth ystyried, dylai cyflogwyr feddwl i ba raddau y byddai’r gweithiwr sy’n dychwelyd yn dod i gysylltiad agos ag eraill, yn y gweithle ac wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith.

Cadw pellter corfforol

Mae’n anochel y bydd yna enghreifftiau lle na fydd yn bosibl gweithio gartref – er enghraifft, mewn perthynas â darparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd, ffatrïoedd, safleoedd adeiladu, darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, adwerthu, lletygarwch, ysgolion a lleoliadau gofal plant a lle y ceir pryderon diogelu. Er y gellir ei gwneud hi'n haws cadw pellter cymdeithasol drwy ganiatáu i rai aelodau o staff weithio gartref, bydd angen cymryd y mesurau rhesymol sy'n ofynnol yn yr achosion hyn yn y gweithle yn bennaf. Mae hyn yn hanfodol er mwyn atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo rhwng gweithwyr y mae'n rhaid iddynt ddod i'r gweithle ac na allant osgoi  gweithio'n agos at ei gilydd.

Mae'r gallu i gadw pellter corfforol mewn mangre wedi'i gyfyngu, i ryw raddau, gan faint y fangre; fodd bynnag, ni waeth beth fo maint y fangre, mae'n hanfodol rheoli'r defnydd a wneir ohoni. Gall hyn olygu cyfyngu ar fynediad a bydd fwy neu lai'n sicr yn golygu y bydd angen rhoi mesurau ar waith er mwyn helpu neu orfodi pobl i aros ar wahân.

Enghreifftiau o fesurau ar gyfer cadw pellter corfforol

Bydd natur mesurau rhesymol yn benodol i weithleoedd neu fangreoedd unigol, ac fe fyddant yn adlewyrchu'r amgylchedd ffisegol a natur y busnes neu'r gweithgaredd dan sylw.

Fel enghraifft, ni all y rhan fwyaf o ymarferwyr meddygol a gofalwyr gadw pellter o 2 fetr rhyngddynt â chlaf wrth roi triniaeth. Gallant aros 2 fetr o'r claf y rhan fwyaf o'r amser; gallant aros 2 fetr o ymarferwyr meddygol eraill neu ofalwyr y rhan fwyaf o'r amser; a gellir rhoi mesurau ar waith i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng cleifion pan fyddant yn aros i gael eu gweld. Dyma beth a olygwn wrth fesurau rhesymol a dylid rhoi mesurau o'r fath ar waith mewn ffordd gyson. Yn gyffredinol, ni fyddai rhoi'r gorau i driniaeth yn fesur rhesymol; dylai triniaethau barhau lle bynnag y bo’n bosibl, ond dan amgylchiadau lle byddai’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn fwy na manteision y driniaeth, mae’n bosibl y byddai’n rhaid gohirio.

Mae enghreifftiau o sut y gellir helpu i gadw pellter corfforol yn cynnwys y canlynol:

  • lleihau nifer y bobl yn y fangre ar unrhyw adeg benodol – cynyddu'r gofod rhwng pobl drwy leihau cyfanswm nifer y bobl sy'n bresennol, a newid cynllun y fangre/ symud dodrefn er mwyn ategu hyn
  • rheoli'r defnydd o fynedfeydd, coridorau, grisiau a lifftiau
  • rheoli'r defnydd o gyfleusterau a rennir fel toiledau a cheginau
  • cynyddu'r gofod rhwng aelodau o staff – er enghraifft, gadael bwlch o 2 fetr rhwng pobl ar linell gynhyrchu a defnyddio marciau i nodi'r bylchau
  • ystyried darparu man gorffwys priodol – a yw gweithwyr yn ymgynnull ar adeg benodol? A ellid darparu gofod ychwanegol, neu drefnu i bobl gymryd egwyl ar adegau gwahanol?
  • newid y tasgau yr ymgymerir â nhw – addasu'r ffordd y cyflawnir gwaith, er mwyn lleihau cyswllt
  • newid amseroedd sifftiau er mwyn lleihau nifer y bobl ar y safle a lleihau tagfeydd ar adegau newid sifft

Mesurau rhesymol eraill

Diben ei gwneud yn ofynnol cymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter o 2 fetr rhwng pobl yw lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Gan nad dyma'r unig ffordd o wneud hyn, a chan nad yw o reidrwydd bob amser yn rhesymol cynnal pellter o 2 fetr, mae'r rheoliad hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd mesurau rhesymol eraill am yr un rheswm.

Er bod y gofyniad i gymryd mesurau rhesymol eraill yn berthnasol ni waeth p'un a ellir cadw pellter corfforol o 2 fetr ai peidio, bydd pa fesur arall y bydd yn rhesymol iddo fod yn ofynnol yn dibynnu i raddau helaeth ar y gallu i wneud hynny.

Pryd y caniateir i bobl fod o fewn 2 fetr i’w gilydd?

Mae llawer o sefyllfaoedd lle na fydd efallai'n bosibl nac yn briodol i bobl gadw pellter o 2 fetr rhyngddynt neu o leiaf gadw pellter o 2 fetr rhyngddynt drwy'r amser. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • darparu gwasanaethau personol, gan gynnwys yn y cartref
  • tasgau y mae angen dau berson neu fwy i'w cyflawni'n ddiogel, gan gynnwys codi trwm neu gario cemegau peryglus, er y gellir mabwysiadu mesurau yn rhannau eraill o'r gweithle
  • lleoliadau addysg a gofal plant – yn enwedig lle na all plant ifanc ddeall y cysyniad o gadw pellter corfforol a lle y gall fod angen cyswllt agosach er mwyn i'r oedolion sy'n gweithio yno roi'r cymorth priodol e.e. i helpu plentyn sydd wedi cwympo
  • eithriadau lle y mae angen cyswllt agos rhwng gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau, er y gellir rhoi mesurau eraill ar waith unwaith eto yn y gweithle ehangach a fyddai'n lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws
  • tacsis a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • lle mae angen gweithio mewn parau’n llai na dau fetr oddi wrth ei gilydd er mwyn sicrhau diogelwch
  • gweithio mewn mannau cyfyng, er enghraifft atgyweirio seilwaith ar gyfer cyfleustodau

Yn fwy cyffredinol, wrth i fwy a mwy o agweddau ar fywyd ddychwelyd i ryw lefel o normalrwydd, dylid parhau i wneud pob ymdrech i gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, bydd rhai sefyllfaoedd lle nad yw hyn yn ymarferol. Ni ellir disgwyl i rywun sy’n gyfrifol am gwrt neu gae chwaeraeon, er enghraifft, gymryd camau i sicrhau bod y rheini sy’n chwarae pêl-fasged neu bêl-droed yn cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a bob adeg.
  
Yn yr un modd, lle mae mangreoedd ar agor i blant ifanc, mae’n bosibl na fydd yn bosibl glynu yn gaeth wrth y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr rhwng y plant hynny (neu hyd yn oed rhwng y plant hynny ac unrhyw oedolion yn y fangre). Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod yn fwy anodd i blant ifanc ddeall y cysyniad o gadw pellter cymdeithasol, ac yn rhannol oherwydd y bydd cymorth priodol gan ofalwyr yn aml yn gofyn am gysylltiad agosach. Mae’n werth nodi hefyd ei bod yn llai tebygol y bydd plant ifanc yn trosglwyddo’r feirws, a bod effaith y feirws ar blant, yn ôl pob golwg yn llai niweidiol nag ar oedolion.

Yn olaf, rydym yn cydnabod y gallai cadw pellter corfforol o 2 fetr roi rhai busnesau  dan straen aruthrol yn fasnachol. Er mai diogelu iechyd y cyhoedd a chynnal hyder y cyhoedd ddylai gael blaenoriaeth, caiff fusnesau gadw llai o bellter corfforol os yw goblygiadau cadw pellter corfforol o 2 fetr yn golygu na fyddai’r busnes bellach yn hyfyw. Ond ar ôl dweud hynny, mae’n hanfodol bod mesurau rhesymol eraill yn cael eu rhoi yn eu lle i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, fel y nodir yn yr adran isod.

Wrth gynnal eich asesiad risg, dylech hefyd ystyried pa gamau lliniaru y gellir eu cymryd os na chedwir pellter corfforol o 2 fetr mewn mangre. Os na fydd cymryd mesurau rhesymol eraill yn lleihau digon ar y risg o ddod i gysylltiad â’r feirws, mae hynny’n awgrymu bod dal angen cadw pellter corfforol o 2 fetr.

Yn y pen draw, os nad yw’r mesurau y mae’n rhesymol ichi eu cymryd yn ddigon i leihau’r risgiau, mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn glir bod mesurau rhesymol yn cael cynnwys rhoi’r gorau i ymgymryd â gweithgareddau penodol a chau rhan o’r fangre. Er bod rheoliad 12 yn ymwneud y bennaf â sut y mae pethau’n cael eu gwneud, yn hytrach nag a yw’r pethau hynny’n cael eu gwneud ai peidio, mae’n bosibl bod rhai gweithgareddau lle mae cymaint o risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws fel mai’r unig ffordd o leihau’r risg yw peidio ag ymgymryd â’r gweithgareddau hynny o gwbl. 

Enghreifftiau o fesurau rhesymol eraill y gellir eu cymryd

Ym mhob achos, ond yn enwedig lle na ellir glynu yn gaeth wrth y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol, mae'n bwysig sicrhau y caiff mesurau eraill eu cymryd. Y mesurau mwyaf amlwg i'w cymryd yw unrhyw beth sy'n lleihau rhyngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn gwella arferion golchi dwylo, hylendid anadlol a glanhau, ac yn osgoi cyfwrdd â’r wyneb heb olchi dwylo.

Mesur arall sy’n orfodol (oni bai bod rhesymau cryf dros wneud i’r gwrthwyneb) yw ei gwneud yn ofynnol i staff ac ymwelwyr mewn mangreoedd dan do wisgo gorchudd wyneb pan na fydd modd iddynt gadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn gymwys mewn ardaloedd nad ydynt yn agored i’r cyhoedd, yn ogystal â’r gofynion ar wahân sy’n gymwys mewn ardaloedd sydd ar agor i’r cyhoedd. Lluniwyd canllawiau ar wahân sy’n nodi cyfrifoldebau cyflogwyr a rheolwyr mangreoedd mewn perthynas â gorchuddion wyneb, ac mae’n ofynnol ichi ystyried y canllawiau hynny hefyd.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • gwell hylendid anadlol – er enghraifft, drwy ddarparu biniau ychwanegol ar gyfer hen hancesi papur
  • glanhau'n amlach yn enwedig cyfleusterau a rennir fel toiledau a cheginau
  • annog pobl i olchi dwylo'n dda â sebon am 20 eiliad yn rheolaidd ac ar ôl dod i gysylltiad agos neu gyffwrdd â rhywbeth/rhywun
  • darparu cyfleusterau ychwanegol ar gyfer golchi dwylo a sicrhau bod digon o sebon ac ati
  • rheoli'r defnydd o'r fangre, er enghraifft drwy wneud y canlynol:
    • lleihau nifer y bobl yn y fangre ar unrhyw un adeg, gan gynnwys drwy fabwysiadu system apwyntiadau
    • rheoli mynedfeydd ac allanfeydd, gan gynnwys lle y bo'n bosibl ei gwneud hi'n ofynnol i bobl ddod i mewn drwy un drws a gadael drwy ddrws arall
    • rheoli'r ffordd mae pobl yn cerdded o amgylch y fangre
    • ad-drefnu dodrefn neu weithleoedd mewn ffordd sy'n lleihau achosion o ryngweithio wyneb yn wyneb
  • lleihau synau uchel a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl weiddi
  • osgoi rhyngweithio agos wyneb yn wyneb, er enghraifft drwy wneud y canlynol:
    • gofyn i bobl eistedd gefn wrth gefn neu flaen wrth gefn
    • codi rhwystrau ffisegol neu sgriniau rhwng pobl
    • gwisgo cyfarpar diogelu personol priodol, megis gorchuddion wyneb tair haen sy’n cydymffurfio â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd

Hefyd, gellid cymryd mesurau yn y gweithle i greu grwpiau penodedig o weithwyr na fyddant yn cymysgu ag eraill, er y byddant yn rhyngweithio â'i gilydd. Gellir gwneud hyn, er enghraifft, pan fydd trefniadau sifft ar waith.

I roi enghraifft, o 22 Awst ymlaen, caniateir i hyd at 30 o bobl ymgynnull dan do ar gyfer priodasau, partneriaethau sifil neu angladdau. Wrth i bobl ymgynnull dan amgylchiadau o’r fath, rhaid gwneud hynny mewn mangreoedd sy’n cael eu rhedeg gan bobl sy’n ddarostyngedig i Reoliad 12. Wrth gynnal digwyddiadau o’r fath, un mesur rhesymol, hawdd ei gymryd yw sicrhau nad oes unrhyw gerddoriaeth yn cael ei chwarae’n uchel. Byddai cerddoriaeth fyw lle nad yw’r sain yn cael ei chwyddo ac sy’n cael ei pherfformio gan grŵp sy’n cadw pellter cymdeithasol rhyngddynt (megis pedwarawd llinynnol) yn dderbyniol yn y cefndir, ond ni ddylid chwarae offerynnau sy’n cael eu chwythu. Byddai cantorion unigol yn cael eu caniatáu ond dylid ystyried defnyddio sgriniau os nad oes modd cadw pellter ychwanegol er mwyn diogelu rhag i ddefnynnau gael eu trosglwyddo. Mae hyn oll yn annog pobl i beidio â dawnsio a siarad yn uchel, oherwydd bod y ddau weithgaredd hynny’n golygu bod risg sylweddol o ledaenu’r coronafeirws. Mae hefyd yn lleihau’r risg o ledaenu defnynnau. 

Dylid cadw digon o le rhwng pobl a dylent aros ar eu heistedd pryd bynnag y bo modd, er mwyn lleihau cysylltiad agos dan do rhwng pobl sy’n dod o aelwydydd gwahanol. Yn ymarferol, mae’n debyg mai’r ffordd orau o sicrhau hynny yw drwy nodi’r achlysur drwy gael pryd a weinir wrth y bwrdd.

Darparu gwybodaeth

Gellir rhoi gwybodaeth ar lafar neu'n ysgrifenedig (ar ffurf arwyddion, gan amlaf). Yn gyffredinol, bydd angen i'r wybodaeth a ddarperir:

  1. esbonio pa fesurau a gymerwyd i gadw pellter corfforol neu leihau rhyngweithio agos wyneb yn wyneb
  2. helpu pobl i ddilyn yr hyn sy'n ofynnol, er enghraifft drwy roi cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddod i mewn i'r fangre a cherdded o'i hamgylch os rhoddwyd system un ffordd ar waith, neu atgoffa pobl pryd y mae angen iddynt wisgo gorchuddion wyneb a sut i’w defnyddio’n effeithiol ac yn gyfrifol (darllenwch y canllawiau ar wahân).

Mae rhai arwyddion sylfaenol ar gael yma - arwyddion diogelwch a chadw pellter corfforol i gyflogwyr.

Casglu manylion cyswllt

Mae casglu manylion cyswllt y bobl hynny sydd wedi bod mewn mangreoedd yn ffordd arall o helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws. Mae’n golygu ei bod yn hawdd adnabod pobl a allai ledaenu’r coronafeirws oherwydd iddynt ddod i gysylltiad â rhywun sydd â’r feirws. Mae hynny, yn ei dro, yn golygu bod modd cysylltu â nhw a’u cynghori i hunanynysu ac i wneud cais am brawf.

Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ynghylch a oes angen i fangreoedd unigol gasglu manylion cyswllt ai peidio. Bydd hynny’n dibynnu, er enghraifft, ar ba fath o fangre ydyw ac ar faint o amser y bydd pobl yn ei dreulio ynddi. O 17 Awst ymlaen, bydd gofyn i bawb sy’n gyfrifol am fangreoedd roi sylw i’r canllawiau hynny hefyd.

Ymwelwyr o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws (ardaloedd diogelu iechyd lleol)

Cyflogwyr a pherchnogion mangreoedd mewn ardaloedd diogelu iechyd lleol

Lle y ceir mwy o drosglwyddiadau o’r coronafeirws mewn ardal leol, bydd hyn yn effeithio ar yr hyn sy’n cael ei ystyried fel “mesur rhesymol”, ac mae’n bosibl y bydd angen mwy o fesurau. Yn yr amgylchiadau hyn, gall fod mwy o weithgareddau hefyd lle mae’r fath risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, yr unig ffordd o leihau’r risg honno yw ymwrthod â’r gweithgareddau hynny yn llwyr.

Er enghraifft, yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o 8 Medi ymlaen, mae cyfyngiadau a gofynion pellach wedi cael eu gorfodi oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd. Dylid adlewyrchu’r risg uwch hon hefyd wrth ystyried pa fesurau sy’n rhesymol eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Ymwelwyr o ardaloedd diogelu iechyd lleol

Os yw mangreoedd mewn sefyllfa i wneud hynny, mae’n bosibl y byddant am ystyried yr hyn y byddant yn ei wneud o ran derbyn gwesteion o ardaloedd/ranbarthau lle mae nifer uwch o achosion. Bydd gan sawl math o fangre, megis gwestai a darparwyr mathau eraill o lety, ddisgresiwn i wrthod pobl, ac mae’n debyg y bydd ganddynt wybodaeth ymlaen llaw am gyfeiriadau cartref y darpar ymwelwyr. 

Ar yr unigolion dan sylw y bydd unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag unigolion sy’n preswylio mewn ardaloedd lle ceir nifer uwch o achosion. Er enghraifft, os gosodir cyfyngiadau drwy’r gyfraith i atal preswylwyr mewn ardal benodol rhag aros yn rhywle dros nos, cyfrifoldeb y preswylwyr hynny fydd cydymffurfio â’r gyfraith. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar ddarparwyr llety y tu allan i ardal lle mae cyfyngiadau ar deithio, i wirio a yw gwesteion yn preswylio yn yr ardal honno, neu i orfodi’r gyfraith drwy wrthod pobl rhag cael mynediad i’r ardal. Wedi dweud hynny, ni ddylent, o fwriad, ddarparu llety i bobl sy’n gweithredu’n groes i’r gyfraith.

Rydym yn annog pawb sy’n darparu llety i ystyried yr hyn y byddant yn ei wneud o ran gwesteion a allai fod yn dod o ardaloedd lle mae cyfyngiadau ar symud neu o ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion. Mae’n bosibl y bydd darparwyr llety am gysylltu â’r holl gwsmeriaid sydd wedi archebu eisoes, i’w hatgoffa am y gyfraith ac i roi cyfle iddynt ganslo neu ohirio eu harcheb. 

Bydd egwyddorion tebyg yn gymwys hefyd i reolwyr mangreoedd eraill y mae pobl yn mynd iddynt drwy drefnu apwyntiad ymlaen llaw, megis gwasanaethau lle mae cysylltiad agos rhwng pobl, er enghraifft, trin gwallt a thriniaethau harddwch. Dan amgylchiadau lle na fyddai mangreoedd fel arfer yn gofyn am gyfeiriadau cwsmeriaid ymlaen llaw, efallai y byddai’n rhesymol gofyn amdanynt os oes pryder bod cwsmeriaid sy’n mynd i’r mangreoedd hynny’n dod o ardaloedd lle mae nifer uwch o achosion o’r coronafeirws.  

Argymhellir bod pawb sy’n rheoli mangreoedd yn ystyried yr hyn y byddant yn ei wneud. Argymhellir hefyd eu bod, wrth wneud hynny, yn rhoi’r hawl i unigolion drafod eu hamgylchiadau penodol nhw cyn i’r rheolwyr benderfynu’n derfynol i wrthod mynediad iddynt.

Beth yw mesur rhesymol?

Nid oes un rheol bendant o ran beth sy'n cyfateb i fesur rhesymol. Gall hyn amrywio o fewn gwahanol swyddogaethau sefydliad yn ogystal â rhwng sectorau. Y prawf yw a yw pob cyflogwr yn gwneud beth y gall yn y gweithle i newid y ffordd y mae'n gweithio ac a yw'r rheini sy'n gyfrifol am fangre yn newid y ffordd y caiff y fangre ei defnyddio.

Er mai prawf gwrthrychol ydyw ac y dylid ei gymhwyso'n gyson, nid yw'r broses o gymryd mesurau rhesymol yn dilyn rheol absoliwt y mae'n rhaid ei gweithredu bob amser o dan bob amgylchiad. Yn ogystal, nid yw'n fesur a fydd yn berthnasol yn yr un ffordd o dan bob amgylchiad.

Nid yw'r canllawiau hyn yn darparu cyngor cynhwysfawr ar yr hyn y dylid ei wneud ym mhob sefyllfa, ond maent yn amlinellu'r ystyriaethau y dylai busnesau a sefydliadau eu hadlewyrchu wrth bennu mesurau. Bydd cyfrifoldeb ar y rheini sy'n ddarostyngedig i'r gofynion i gyfiawnhau'r mesurau rhesymol a fabwysiadwyd ganddynt. Bydd angen iddynt ddangos sut y maent wedi ystyried beth sy'n rhesymol er mwyn lleihau'r risgiau a wynebir gan weithwyr y mae'n rhaid iddynt barhau i ddod i weithio yn eu gweithle ac i'r rheini sy'n dod i unrhyw fangre. Rydym yn cynghori cyflogwyr i ymgynghori â'u gweithlu ac i gynnal asesiad risg y dylid ei rannu â'r gweithlu.

Ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu pa fesurau sy'n rhesymol

Mae gennych yr hawl i ystyried y ffactorau canlynol, ymhlith pethau eraill.

  • Cost – a yw cost y mesur yn gymesur â nifer y bobl y caiff eu risg ei lleihau gan y mesur? Er enghraifft, yn gyffredinol ni fyddai'n gymesur ehangu mangre na'i gwneud yn ofynnol defnyddio cerbydau fflyd ychwanegol, ond fwy na thebyg y gellid rhannu sifftiau am gost isel.
  • Natur y gwaith – a yw'r mesurau yn ymarferol, neu a fyddent yn tanseilio'r broses o ddarparu'r gwasanaeth neu'r ffordd y cyflawnir y busnes i'r fath raddau fel y byddent yn wrthgynhyrchiol?
  • A ellir rhoi'r mesurau ar waith heb roi iechyd a diogelwch pobl eraill yn y fantol? Pe byddai'r mesurau yn cynyddu'r risg i iechyd a diogelwch, er enghraifft o ran gweithredu peiriannau, yna fwy na thebyg na fyddent yn fesurau rhesymol.
  • Natur a galluedd y rheini mewn gweithle – lle bo gwasanaeth neu fusnes yn gyfrifol am ofalu am blant neu bobl agored i niwed neu lle y bydd yn gweithio gyda nhw, mae’n bosibl na fydd yn rhesymol rhoi trefniadau cadw pellter corfforol caeth ar waith. Yn ogystal, dylid bob amser roi'r flaenoriaeth i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed.
  • Dylai'r staff deimlo'n hyderus bod ystyriaeth briodol wedi'i rhoi i lefel y risg a wynebir ganddynt wrth drafod mesurau. Mae'n bosibl y bydd cyflogwyr am gyflwyno systemau ar gyfer cael adborth ar y mesurau a gyflwynwyd ganddynt.

Gorfodi

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fusnesau ac eraill ddeall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu fel cymdeithas ac y byddant yn cymryd y camau rhesymol angenrheidiol.

Drwy gydweithio, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y gall cyflogwyr a chyflogeion lunio barn resymol am y ffordd orau o gyfyngu ar gyswllt corfforol agos. Mae hyn o fudd i bawb, er mwyn i waith pwysig allu parhau.

Fodd bynnag, un rheswm pam mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mynd y tu hwnt i'r canllawiau a chynnwys dyletswydd gyfreithiol yw er mwyn gallu cymryd camau gorfodi, lle y bydd angen gwneud hynny.

Mae gan yr heddlu ac awdurdodau lleol bwerau i orfodi'r gofynion sydd ar fusnesau, gwasanaethau a gweithleoedd a osodir gan y rheoliadau.

Mae canllawiau gwahanol ar gael am yr hyn a ddisgwylir mewn perthynas â gorfodi’r rheoliadau. Y nod yw:

  • hyrwyddo a chynnal sefyllfa lle mae pobl yn parhau i gydymffurfio â’r rheoliadau er mwyn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu;
  • sicrhau bod camau’n cael eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â sefyllfaoedd lle mae risg i’r coronafeirws ledaenu;
  • sicrhau bod y rheini nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau yn cael eu dal i gyfrif.

I grynhoi, mae’r Rheoliadau’n nodi system benodol, ar wahân ar gyfer gorfodi rheoliad 12. Mae’n darparu y caiff swyddogion gorfodi’r awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i fesurau penodol (penodedig) gael eu cymryd mewn perthynas â mangreoedd, ac os oes angen, mae’r swyddogion hynny’n cael cau mangreoedd. Gellir ei gwneud yn ofynnol iddynt gau naill ai oherwydd nad yw mesurau penodedig yn cael eu cymryd wedyn, neu oherwydd bod y fangre wedi gweithredu’n groes i’r rheoliadau mewn ffordd sy’n ddigon difrifol i gyfiawnhau ei chau ar unwaith neu ar ôl cael ychydig iawn o rybudd yn unig.

Mae’r system orfodi i’w gweld yn Atodlenni 5 a 6 o’r Rheoliadau ac mae’n seiliedig ar gyflwyno “Hysbysiad Gwella Mangre” neu “Hysbysiad Cau Mangre”, neu’r ddau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae rhagor o fanylion i’w gweld mewn canllawiau ar wahân - mesurau rhesymol i leihau risg coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd agored.

Adolygu

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r rheoliadau bob 3 wythnos. Mae'r adolygiadau hyn yn cynnig cyfle i asesu effeithiolrwydd a chanlyniadau'r darpariaethau. Byddant hefyd yn cynnig cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob sector er mwyn llywio'r broses.

Rhannu’r dudalen hon