Neidio i'r prif gynnwy

Maeʼr canllawiau hyn yn ategu canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 7 Ebrill 2020 ac yn canolbwyntio ar y prawf cyfreithiol a gymhwysir gan y rheoliadau i gynnal pellter corfforol mewn lleoliad gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Maeʼr canllawiau hyn yn ategu canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 7 Ebrill 2020[1] ac yn canolbwyntio ar y prawf cyfreithiol a gymhwysir gan y rheoliadau i gynnal pellter corfforol mewn lleoliad gwaith. Dylid eu darllen ar y cyd â’r canllawiau hynny a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 y maent yn ymwneud â hwy.

[1] https://llyw.cymru/cymryd-pob-cam-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle

 

Cyflwyniad

Mae rheoliadau 6(1) a 6A(1) o’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i berson syʼn gyfrifol am waith (lle bynnag y bo hynnyʼn digwydd) gymryd “pob mesur rhesymol” i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw bersonau mewn mangre gwaith.

I ddeall natur y ddyletswydd, mae angen i gyflogwyr, cyflogeion a’r sawl sy’n gorfodi’r ddeddfwriaeth wybod:

  • i bwy y maeʼr ddyletswydd yn gymwys, h.y. pwy ywʼr “person cyfrifol”?
  • ble maeʼn gymwys, h.y. beth yw “mangre” a phryd?
  • beth mae angen ichi ei wneud i gyflawniʼr ddyletswydd, h.y. beth yw ystyr cymryd “pob mesur rhesymol”?

Ac unwaith y byddant yn deall natur y ddyletswydd, mae angen i gyflogwyr hefyd feddwl am ba gamau gweithdrefnol ac ymarferol y dylent eu cymryd i gyflawniʼr ddyletswydd ac i allu dangos eu bod wedi cyflawniʼr ddyletswydd.

I bwy y maeʼr ddyletswydd yn gymwys?

Mae rheoliad 6(1) yn gymwys i fusnesau a gwasanaethau penodol a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 iʼr Rheoliadau. O ganlyniad, maeʼr rhwymedigaeth yn cael ei gosod ar y “person syʼn gyfrifol” am y busnes neu am ddarparu’r wasanaeth.  Mynegir hyn yn y ffordd hon er mwyn dal yr ystod o endidau cyfreithiol syʼn gweithreduʼr busnesau, neu ddarparuʼr gwasanaethau a restrir. Maeʼr person cyfrifol yn yr achos hwn, gan ddibynnu ar natur yr endid, yn unig fasnachwr, y partneriaid mewn partneriaeth, neu swyddogion cwmni neu gymdeithas anghorfforedig.

Gan fod rheoliad 6A(1) yn gymwys i bob “gwaith”[2] yn hytrach na busnesau neu wasanaethau penodol, maeʼr ddyletswydd yn cael ei gosod ar y “person syʼn gyfrifol am waith”. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y person syʼn gyfrifol am waith yr un peth âʼr “person syʼn gyfrifol am y busnes” yn rheoliad 6(1), ond maeʼr sefyllfa yn fwy cymhleth na hynny. Mae hyn oherwydd, yn unol â strwythur a rheolau unrhyw endid penodol (ac o bosibl yn unol â chontractau cyflogaeth neu ddisgrifiadau swyddi staff) gall pobl eraill fod yn gyfrifol am sut y gwneir gwaith mewn rhai lleoliadau. Er enghraifft, fe all rheolwr fod yn gyfrifol am benderfynu sut y caiff gwaith ei wneud ar safle penodol neu mewn lleoliad penodol lle y mae gwaith yn cael ei wneud. Mewn achos oʼr fath, gallai’r rheolwr fod yn berson syʼn gyfrifol (neuʼn gyfrifol yn rhannol) am sicrhau cydymffurfedd âʼr ddyletswydd. Mae hyn yn debyg iʼr sefyllfa mewn perthynas â chyfraith iechyd a diogelwch, a bydd angen i fusnesau ac endidau[3] eraill fod yn glir pwy syʼn gyfrifol o fewn eu sefydliadau eu hunain.

[2] Heblaw gwaith a wneir mewn mangre a ddefnyddir at ddibenion busnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau.

[3] Mae’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) yn gymwys i bob ffurf ar gyflogaeth gan gynnwys cyflogaeth yn y sector cyhoeddus.

Ble a phryd y maeʼr ddyletswydd yn gymwys?

Gan fod y ddyletswydd o dan rheoliad 6A(1) yn berthnasol i bob “gwaith”, maeʼr ddyletswydd yn gymwys yn fras iawn i unrhyw “mangre lle mae person yn gweithio”, a diffinnir “mangre” i gynnwys “unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir”. Bwriedir i hyn gynnwys gweithleoedd traddodiadol (e.e. swyddfeydd a ffatrïoedd) ond mae hefyd yn mynd ymhellach i gynnwys mannau fel safleoedd gwaith ffordd, safleoedd adeiladu a gwaith syʼn digwydd mewn mannau eraill, er enghraifft yng nghartrefi pobl.

Fodd bynnag, nid oes bwriad i “mangre” gynnwys cerbydau. Y rheswm dros hyn yw nad ywʼn realistig, yn y rhan fwyaf o achosion, i gymryd mesurau rhesymol i gadw pobl ar wahân mewn cerbyd. Ar ben hynny, byddai goblygiadau wedi bod i gynnwys cerbydau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, a allai fod wedi cael effaith ehangach. Er hynny, mae hwn yn fater syʼn cael ei adolyguʼn gyson.

Beth yw ystyr cymryd “pob mesur rhesymol”?

Rhesymoldeb

Nid ywʼr cysyniad o orfod gweithreduʼn rhesymol yn anarferol yn y gyfraith, ac maeʼn brawf sydd eisoes yn cael ei gymhwyso i fusnesau ac endidau eraill. Er enghraifft, wrth benderfynu a yw rhywun wedi cael ei ddiswyddoʼn annheg, bydd tribiwnlys yn ystyried (yn unol ag adran 98(4) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996) a ywʼr cyflogwr wedi “gweithreduʼn rhesymol neuʼn afresymol”.  Yn yr un modd, o ganlyniad i Ddeddf Telerau Contract Annheg 1977, rhaid i berson syʼn ceisio dibynnu ar gymal eithrio mewn contract brofi bod y cymal yn un “rhesymol”.

O dan y gyfraith gyffredin, maeʼr cysyniad o berson rhesymol yn aml wrth wraidd penderfyniadauʼr llysoedd gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i bennu safon wrthrychol ar gyfer dyfarnu. Mae rhesymoldeb, felly, yn cynrychioliʼr gwahaniaeth rhwng prawf goddrychol, syʼn seiliedig ar yr hyn y mae unrhyw un person penodol yn ei feddwl yn unig, a phrawf gwrthrychol, syʼn seiliedig ar yr hyn y byddai pobl gyffredin eraill mewn sefyllfa debyg  i’r person hwnnw yn ei feddwl. 

Felly, er mwyn gweithreduʼn rhesymol rhaid ichi ofyn i chiʼch hun beth fyddai pobl bwyllog (neu ofalus) eraill yn ei wneud pe bydden nhw yn eich esgidiau chi.

Mae prawf oʼr math hwn eisoes yn gymwys mewn lleoliad gwaith – ac maeʼn ffurfio rhan oʼr ddyletswydd fwyaf sylfaenol sydd gan gyflogwr. Maeʼr gyfraith gyffredin wedi sefydlu ers tro fod gan gyflogwr ddyletswydd gyffredinol i gymryd gofal rhesymol i osgoi bod anaf, clefyd neu farwolaeth yn digwydd iʼw gyflogeion yn y gwaith. Maeʼr egwyddor hon hefyd yn sail i Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 syʼn darparu fel a ganlyn:

“It shall be the duty of every employer to ensure, so far as is reasonably practicable, the health, safety and welfare at work of all his employees.”[4]

[4] 1974 p. 37 adran 2(1). Ychwanegwyd y pwyslais.

Cymryd pob mesur rhesymol: natur y prawf

Dwy elfen sydd iʼr gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter corfforol. Maeʼr elfen gyntaf yn golygu penderfynu pa fesurau rhesymol y gellir eu cymryd, ac maeʼr ail elfen (yn fwy amlwg) yn golygu sicrhau bod pob un oʼr mesurau hynny yn cael eu cymryd mewn gwirionedd.

Bydd y mesurau rhesymol y gellir eu cymryd yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol, sef natur y gwaith syʼn cael ei wneud aʼr fangre lle y caiff ei wneud. Fodd bynnag, fel y cyfeirir ato uchod, mae natur wrthrychol y prawf yn golygu bod rhaid ystyried yr hyn y byddai eraill yn ei wneud mewn sefyllfa debyg, wrth benderfynu pa fesurau y mae angen eu cymryd.

Rhan oʼr hyn y mae ei angen wrth benderfynu pa fesurau syʼn rhesymol yw dealltwriaeth oʼr cyd-destun cyffredinol. Diben y Rheoliadau ywʼr man cychwyn yma, sef lleihau lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru. Mae gan bawb yn y gymdeithas ran iʼw chwarae yn hynny o beth, gan gynnwys mewn lleoliad gwaith. Fodd bynnag, maeʼr gofyniad yn gymwys i fusnesau ac endidau eraill y caniateir iddynt barhau i weithredu, a rhaid hefyd asesu mesurau i leihau lledaeniad y coronafeirws yn erbyn yr angen iʼr economi (aʼr gymdeithas yn fwy cyffredinol) barhau i weithredu. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn perthynas â lleoliadau gwaith megis gofal iechyd, bwyd a chynhyrchu trydan.

Bydd yr hyn syʼn rhesymol yn dibynnu hefyd ar yr effaith y gallai mesur ei chael ar ddyletswyddau eraill cyflogwr, yn bennaf i sicrhau iechyd, diogelwch a lles cyflogeion yn y gwaith.

Bydd yr hyn syʼn rhesymol, felly, yn dibynnu i raddau ar yr hyn y mae cyflogwr yn ei wneud aʼr effaith y byddai cymryd y mesur yn ei chael ar gyflogeion.

Pa fath o fesurau rhesymol y gellir eu cymryd?

Nid ywʼn bosibl i Lywodraeth Cymru ragnodi pa fesurau rhesymol y dylid eu cymryd o dan bob amgylchiad, ac ni fyddaiʼn briodol ychwaith. Gall amgylcheddau gwaith fod yn gymhleth ac maeʼr prawf yn rhoi rhywfaint o ddisgresiwn i gyflogwyr. Y rheswm dros hyn yw mai hwy fydd yn deall yn well pa fesurau y gellir eu cymryd yn rhesymol o dan eu hamgylchiadau penodol hwy. Unwaith eto, mae hyn yn gyson âʼr ddyletswydd gyffredinol i sicrhau iechyd a diogelwch cyflogeion.

Mewn llawer o achosion, y man cychwyn ar gyfer hwyluso mesurau rhesymol yw galluogi staff i weithio gartref. Gallai llawer o gyflogwyr ganiatáu i bob aelod oʼu staff neu rai ohonynt weithio gartref a hwylusoʼr ffordd hon o weithio. Gall hynny ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu gliniaduron neu ffonau symudol neu ganiatáu i staff gael benthyg cyfarpar a fyddaiʼn cael ei ddefnyddio fel arfer yn y gweithle. Byddai angen rhoi systemau ar waith hefyd i alluogi cyfathrebu hawdd rhwng staff ble bynnag y bônt.

Hyd yn oed os nad ywʼn ymarferol ond i rai aelodau o staff weithio gartref, gallai hyn ei gwneud yn haws cymryd mesurau cynnal pellter corfforol mewn mannau eraill.

Y tu hwnt i hyn, bydd pa fesurau rhesymol y gellir eu cymryd yn cynnwys asesu:

  • natur y gwaith a wneir, h.y. a all pobl syʼn gweithio ar eu pennau eu hunain ei wneud ac a ywʼn ddiogel i bobl syʼn gweithio ar eu pennau eu hunain ei wneud;
  • os na all gael ei wneud gan bobl syʼn gweithio ar eu pennau eu hunain, y graddau y mae angen i bobl weithioʼn agos at ei gilydd (h.y. am ba mor hir y mae rhaid iddynt wneud hynny);
  • lleoliad y gwaith, ac a oes rhaid gwneud y gwaith yn y lleoliad hwnnw;
  • pa fesurau y gellir eu cymryd i gadw cyflogeion ar wahân wrth wneud y gwaith.

Ar ôl cynnal yr asesiad hwn, y cam nesaf yw asesu a yw mesur yn rhesymol. Nid ywʼr ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob mesur posibl gael ei gymryd, dim ond y rheini syʼn rhesymol.

Wrth asesu beth syʼn rhesymol, gellir ystyried cost cymryd mesur (gan gynnwys costau syʼn deillio o aneffeithlonrwydd) ac a allai cymryd mesur arwain at fwy o risgiau iechyd a diogelwch.  Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd goblygiadau cost i gymryd mesurau rhesymol mewn llawer o achosion.

Darparwyd enghreifftiau o fesurau rhesymol, ac oʼr amgylchiadau pan fo mesurau oʼr fath yn annhebygol o allu cael eu cymryd, yn y canllawiau a gyhoeddwyd ar 7 Ebrill.

Gorfodi

Mae’r gofynion yn rheoliadau 6(1) a 6A(1) yn ddyletswyddau statudol ac mae eu torri yn drosedd. 

Gellir ymdrin â methiant i gydymffurfio drwy Hysbysiad Cosb Benodedig. Fodd bynnag, gellid hefyd erlyn y rheini syʼn torriʼr ddyletswydd am drosedd sydd iʼw chosbi drwy ddirwy (ddiderfyn).

Maeʼr baich ar y rheini syʼn erlyn achos syʼn honni tor-dyletswydd i brofi y tu hwnt i bob amheuaeth resymol fod y person syʼn gyfrifol wedi methu â chymryd pob mesur rhesymol. Fodd bynnag, yn ymarferol, dylai personau cyfrifol (cyflogwyr) gynnal cofnodion o asesiadau oʼr mesurau rhesymol y gellir eu cymryd o dan yr holl amgylchiadau perthnasol aʼr mesurau sydd wedi eu cymryd.

Bydd yn bwysig trafod â staff hefyd, er eu budd hwy ac er budd y cyflogwr. Mae cwynion a wneir am fethiant i gymryd mesurau rhesymol yn debygol o gael eu gwneud gan staff.

Gellid cyflwyno cwynion i’r awdurdodau lleol neu i’r heddlu, sydd â phwerau i ymchwilio. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd mewn awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'u dynodi at y diben hwn.

A ywʼr sefyllfa yn wahanol mewn rhannau eraill oʼr DU?

Dim ond yng Nghymru y mae gofynion cymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter corfforol yn rhwymedigaeth gyfreithiol. Maeʼr dull o weithredu yn wahanol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon er ei fod yn seiliedig ar yr un nod – cynnal pellter corfforol pan fo hyn yn bosibl. Yng ngwledydd eraill y DU, mae hyn wedi ei wneud drwy gyngor a nodir mewn canllawiau. Ond mae canllawiau, fel y maeʼr gair yn ei awgrymu, yn ganllaw iʼr hyn y dylid ei wneud. Ni chaiff canllawiau osod rhwymedigaethau cyfreithiol.

Yn fwy cyffredinol, mae gan Weinidogion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau i gymryd camau pellach i gau mangreoedd neu fusnesau, ond ni all hyn gael ei wneud mewn canllawiau. Rhaid gwneud hyn naill ai drwy Reoliadau a wneir o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 neu drwy Gyfarwyddyd a wneir o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Crynodeb

  • Mae rhwymedigaeth gyfreithiol i gynnal pellter corfforol wrth weithio.
  • O leiaf 2 fetr ywʼr pellter corfforol.
  • Ar y “person syʼn gyfrifol” am fusnes neu wasanaeth, neuʼr person syʼn gyfrifol am y gwaith (er maiʼr un person fydd hwn yn aml, yn ymarferol: y cyflogwr fel arfer) y maeʼr rhwymedigaeth.
  • Maeʼn gymwys ble bynnag y mae pobl yn gweithio (er nad ywʼn cynnwys cerbydau ar hyn o bryd).
  • Mae angen i gyflogwyr asesu pa fesurau y gellir eu cymryd ym mhob lleoliad gwaith er mwyn cynnal pellter corfforol.
  • Ond dim ond mesurau rhesymol y mae angen iddynt eu cymryd.
  • Bydd yr hyn syʼn rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond prawf gwrthrychol ydyw syʼn seiliedig ar yr hyn y byddai cyflogwr gofalus neu bwyllog yn ei wneud o dan amgylchiadau tebyg, yn hytrach nag ar yr hyn y mae unrhyw gyflogwr penodol yn ei feddwl.
  • Mae arferion da yn awgrymu y dylai cyflogwyr wneud cofnod oʼr asesiadau a wneir, y mesurau a gymerir aʼr penderfyniadau a wneir i beidio â chymryd mesurau (gyda rhesymau).
  • Mae methu â chydymffurfio yn drosedd.

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r goblygiadau i sectorau hanfodol a chadwyni cyflenwi o fewn y rheini?

Mae’r gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng personau yn gymwys i bob lleoliad gwaith. Mae hyn yn rhan hanfodol o leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19. Mae lleihau’r risg i bersonau mewn sectorau hanfodol a chadwyni cyflenwi yr un mor bwysig ag y mae i unrhyw un yn ein cymdeithas, felly pan fo modd cymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg i’r personau hynny, rhaid eu cymryd.

Pam y mae hyn wedi ei wneud drwy gyfraith ac nid drwy ganllawiau llywodraeth yn unig?

Mae canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol wedi bod yn elfen sylfaenol o leihau’r risg o drosglwyddo coronafeirws ledled y DU. Rydym yn disgwyl bod y rhan fwyaf o fusnesau eisoes yn dilyn y cyngor blaenorol ar hyn ac yn ei gymhwyso i leoliadau gwaith. Ond roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o fusnesau nad oeddent yn cymryd unrhyw gamau i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws, ac roedd yn ystyried ei bod yn bwysig gosod gofyniad cyfreithiol, wedi ei gefnogi gan bwerau gorfodi a chosbau, yn y pen draw. Mae hyn hefyd yn ategu’r negeseuon allweddol.

Aros adref neu aros ar wahân.

Sut ddylai cwmnïau weithredu o ystyried bod y gyfraith newydd hon yn ansicr ar hyn o bryd?

Mae’r gofyniad cyfreithiol yn eglur. Rhaid cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng personau mewn lleoliad gwaith. Mae hwn yn brawf gwrthrychol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd pob mesur y byddai person rhesymol a synhwyrol yn ei gymryd o dan yr amgylchiadau.  Mae hyn yn debyg i amryw o ofynion eraill a osodir ar weithleoedd o dan gyfreithiau iechyd a diogelwch.

Dyma enghreifftiau pellach:

  • “Every workplace and the furniture, furnishings and fittings therein shall be kept sufficiently clean.” (rheoliad 9(1) o Reoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992);
  • “Every employer shall, where necessary to prevent injury to any person, take suitable and sufficient steps to prevent, so far as is reasonably practicable, the fall of any material or object.” (rheoliad 10(1) o Reoliadau Gweithio ar Uchder 2005).

Os nad yw’r newid hwn yn y gyfraith yn absoliwt, a allai cwmnïau wynebu problemau o ran yswiriant a chau rhag ofn?

Unwaith eto, mae rhwymedigaeth eisoes ar fusnesau i gymryd mesurau rhesymol (neu addas) yng nghyd-destun iechyd a diogelwch a bydd y rhain yn wahanol o dan amgylchiadau gwahanol. Mae gofyn hefyd i fusnesau asesu’r hyn sy’n rhesymol o dan unrhyw amgylchiadau penodol. O safbwynt gofyniad cyfreithiol, nid yw hyn yn beth newydd.

Mae canllawiau’r DU yn darparu’r pŵer i gau busnesau. A fydd hyn yn gymwys yma?

Nid yw canllawiau’r DU yn darparu pŵer i gau busnesau. Ond caiff Llywodraeth y DU (o ran Lloegr) a Llywodraeth Cymru (o ran Cymru) wneud hynny drwy Reoliadau a wneir o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 – ac mae hyn eisoes wedi ei wneud. Yn ogystal â hynny, mae Deddf y Coronafeirws 2020 a basiwyd yn ddiweddar gan Senedd y DU yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU yn Lloegr ac i bob un o’r gweinyddiaethau datganoledig gau mangreoedd neu gyfyngu ar fynediad iddynt er mwyn atal, amddiffyn rhag, oedi neu reoli fel arall fynychder neu drosglwyddiad coronafeirws (Atodlen 22).

Os na all busnes gadw at y “rheol” 2 fetr yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn dweud wrthynt am gau. Yng Nghymru, os na all camnïau gadw at y rheol 2 fetr, mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthynt y gallant ddal ati i weithio cyn belled â’u bod wedi gwneud ymdrechion “rhesymol” i gydymffurfio. Ydy hyn yn gywir?

Nac ydy. Yn Lloegr, nid oes gofyniad cyfreithiol i gymryd mesurau i sicrhau bod y pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng personau, ac nid oes gofyniad cyfreithiol i gau gweithleoedd ac eithrio’r busnesau a restrir yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Lloegr) 2020 (sy’n cyfateb yn fras i Reoliadau Cymru o ran busnesau y mae’n ofynnol iddynt gau). Yn Lloegr, dim ond canllawiau sydd wedi eu dyroddi, ac nid oes unrhyw sancsiwn am fethu â chymryd mesurau rhesymol. Yng Nghymru, rhaid i bob gweithle gymryd pob mesur rhesymol o dan y gyfraith.

Mae mesur rhesymol yn agored i’w ddehongli. Sut allwn ni fod yn siŵr na fydd cyflogwyr a chyflogeion yn wynebu camau cyfreithiol yn eu herbyn yn sgil gorfodi eithafol?

Dylai cyflogwyr ystyried hyn yn yr un ffordd ag y byddent yn ystyried gofynion iechyd a diogelwch eraill. Anogir pawb sy’n gweithio yn y gweithle i gydweithredu er mwyn deall pa fesurau rhesymol y dylid eu cymryd, a chytuno arnynt. Ond y person sy’n gyfrifol am y busnes neu am y gwaith sy’n gyfrifol, o dan y gyfraith. Rhaid i’r person hwnnw asesu’r mesurau rhesymol yn wrthrychol gan roi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Os yw cyflogai yn anwybyddu mesurau sy’n cael eu cymryd yn y gweithle i gynnal pellter corfforol, pa fesurau fydd yn cael eu cymryd yn erbyn y cwmni?

Os yw’r person cyfrifol (y cyflogwr fel arfer) wedi cymryd pob mesur rhesymol ac wedi egluro’r hyn y mae’n ofynnol i gyflogeion ei wneud, yna ni fyddai methiant ar ran y cyflogai i gydymffurfio yn golygu bod y cyflogwr wedi torri’r gyfraith, fel rheol. Fodd bynnag, os yw’r cyflogwr yn ymwybodol bod cyflogai yn anwybyddu’r mesurau hynny yn fwriadol (neu os dylai fod yn ymwybodol o hynny), yna gellid cymryd camau disgyblu yn unol â thelerau ac amodau cyflogaeth y cyflogai (a dylid cymryd y camau hynny o bosibl oherwydd fe allai hyn ynddo’i hun fod yn fesur rhesymol y byddai’n ofynnol i gyflogwyr ei gymryd i sicrhau pellter corfforol).

Beth os yw cyflogwr yn ceisio cosbi gweithiwr oherwydd dirwy am iddo dorri’r gyfraith?

Mae hyn yn dibynnu ar gyfraniad y gweithiwr at dorri’r gyfraith a thelerau ac amodau cyflogaeth y gweithiwr.

Sut y bydd busnesau yn ymwybodol o’r gyfraith?

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyhoeddusrwydd eang i’r newidiadau brys hyn yn y gyfraith, ac yn y ffordd arferol, mae’r Rheoliadau ar gael ar wefan www.legislation.gov.uk ac mae’r canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r Rheoliadau.

A fydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i unrhyw anawsterau sy’n dod i’r amlwg wrth weithredu, ac a fydd yn fodlon gwneud newidiadau i’r gyfraith?

Bydd. Rhaid adolygu’r Rheoliadau bob 3 wythnos (cynhelir yr adolygiad cyntaf ar 16 Ebrill). Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o’r broses adolygu barhaus.

Rhannu’r dudalen hon