Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau o dan reoliad 18 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad (gan gynnwys yr hyn sydd wedi newid)

Mae Rheoliad 16 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 fel y’u diwygiwyd (y “Rheoliadau ”) yn gosod rhwymedigaethau ar bobl sy’n gyfrifol am safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd, neu lle y mae gwaith yn cael ei wneud (fe’u gelwir yn “fangreoedd rheoleiddiedig” yn y Rheoliadau):

  • er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safleoedd hynny, ac
  • er mwyn lleihau’r risg y bydd y bobl sydd wedi bod ar y safle yn lledaenu’r coronafeirws.

Mae'r canllawiau hyn (a wnaed o dan reoliad 18 o'r Rheoliadau Coronafeirws) ar sut i roi'r gofyniad cyfreithiol hwn ar waith yn ymarferol wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru fel eu bod yn cyd-fynd â diwygiadau a wnaed i’r rheoliad, a ddaeth i rym ar 17 Gorffennaf 2021.

Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys:

  • Cadarnhau ei bod yn ofynnol i’r   rheini sy'n gyfrifol am y safleoedd i ddarparu gwybodaeth i’r sawl sy’n gweithio ar y safle am y risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws (fel y’i nodir yn yr asesiad risg o dan reoliad 16) ac am y mesurau a gaiff eu rhoi ar waith i leihau’r risg (sydd hefyd yn ofynnol o dan reoliad 16);
  • Darparu bod y gofyniad penodol i gymryd pob mesur rhesymol i gadw pellter o 2 fetr rhwng y sawl sydd ar y safle yn berthnasol o dan do yn unig (gofynnir am fesurau eraill, serch hynny, a gallai hynny – yn ddibynnol ar beth sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau a beth arall a wneir i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws – olygu bod cadw pellter corfforol yn ofynnol o hyd, dylai cadw pellter corfforol barhau i fod yn un o’r mesurau rhesymol a ystyrir i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws)

Mae dal angen cynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws, a’r asesiad hwnnw ddylai fod yn sail i ba fesurau rhesymol sydd i’w cymryd ar unrhyw safle er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’r risg o ledaenu’r coronafeirws.

Mae rheoliad 16 yn amlinellu ac yn diweddaru’r 4 Cam y dylid eu cymryd er mwyn gwneud yr hyn sy'n ofynnol. Mae'r camau hyn yn dilyn ei gilydd yn y drefn y dylid ystyried y mesurau, ond mae’n bwysig bod y 4 cam yn cael eu hystyried gyda’i gilydd ac yn llawn. Er enghraifft, gwella’r awyru (gan gynnwys cynnal gweithgaredd yn yr awyr agored) yw un o'r mesurau pwysicaf y gall safle eu cymryd, ond nid yw'n cael ei ddisgrifio yn y Rheoliadau Coronafeirws tan Gam 4. Ond o roi ystyriaeth lawn i’r holl gamau, bydd y cam hwn, os caiff ei gymryd, yn sail i’r asesiad risg cyffredinol ac i’r camau rhesymol eraill y dylid eu cymryd.

Mae'n ofynnol i berson sy'n gyfrifol am safle rheoleiddiedig sy'n agored i'r cyhoedd neu sy'n weithle gymryd y camau a ganlyn:

  • Cam 1: cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle (ac ymgynghori â phobl sy'n gweithio ar y safle, neu eu cynrychiolwyr, wrth wneud hynny)
  • Cam 2: rhoi gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i mewn i’r safle neu sy’n gweithio yno ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys, yn benodol, wybodaeth i bob person sy’n gweithio ar y safle am eu risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws a nodir yn yr asesiad risg a’r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i leihau’r risg.
  • Cam 3: safleoedd o dan do i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw rhwng pob person pan fydd ar y safle neu tra bydd yn aros i fynd i mewn i’r safle ac eithrio rhwng:
    1. pobl o’r un aelwyd (a phobl sy’n gofalu am aelodau o’r aelwyd honno) neu
    2. ar Lefelau Rhybudd 1 a 2 – grwpiau o hyd at 6 o bobl o aelwydydd gwahanol (heb gyfrif plant o dan 11 neu bobl sy’n gofalu am rywun sydd ar y safle).
    Nid yw Cam 3 yn gymwys i safleoedd awyr agored ond dylai pellter corffol barhau i fod yn un o’r prif fesurau lliniaru i’w hystyried fel mesur rhesymol yng Ngham 4. Gallai fod amgylchiadau penodol lle nad yw pellter corfforol yn bosibl nac yn rhesymol yn yr awyr agored. O dan yr amgylchiadau hyn disgwylir i fesurau lliniaru eraill gael eu rhoi ar waith i leihau’r risg o ddiffyg pellter corfforol neu bellter corfforol cyfyngedig.
  • Cam 4: sicrhau bod mesurau rhesymol eraill yn cael eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws ar y safle. Er enghraifft, drwy geisio atal pobl a allai fod â’r coronafeirws rhag bod yno, drwy sicrhau bod pobl yn ymgynnull yn yr awyr agored yn lle dan do pan fo hynny’n ymarferol, drwy wella’r awyru o dan do, drwy gyfyngu ar ymwneud a chyswllt agos wyneb yn wyneb rhwng pobl a thrwy wella hylendid. Ar gyfer safleoedd awyr agored lle nad yw Cam 3 yn gymwys dylid ystyried pellter corfforol fel mesur rhesymol i leihau’r risgiau hyn.
    Edrychwch ar ganllawiau penodol i’r sector er mwyn gweld enghreifftiau o’r mesurau penodol y dylid eu hystyried ar gyfer mathau gwahanol o safleoedd.

Fel man cychwyn, mae gofyn cymryd pob un o'r 4 Cam (ond nid yw Cam 3 yn angenrheidiol ar gyfer safleoedd awyr agored). Fodd bynnag, wrth ystyried pa fesurau rhesymol i’w cymryd o dan Gam 3, ceir ystyried y mesurau y dylid eu cymryd o dan Gam 4 sy'n lliniaru'r risg pan fo pobl o aelwydydd gwahanol o fewn 2 fetr i'w gilydd o dan do.

Fel y nodir isod, mae’n bosibl y bydd amgylchiadau prin pan nad yw cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr o dan do yn rhesymol bob amser neu lle y gallai mesurau lliniaru eraill fod yn ddigon i liniaru’r risgiau heb gadw pellter o 2 fetr. O dan amgylchiadau o’r fath, byddai disgwyl i berson sy'n gyfrifol am safle gymryd camau ychwanegol a chryfach o dan Gam 4, ochr yn ochr â chadw cymaint o bellter corfforol ag sy’n rhesymol.

Gallai’r person cyfrifol ystyried, er enghraifft, y ffaith bod pobl wedi cael prawf am y coronafeirws cyn digwyddiad neu fod y ffordd y mae’r safle’n cael ei osod allan a’i reoli yn atal pobl  rhag ymwneud yn agos â’i gilydd wyneb yn wyneb. Mae i ba raddau y mae’r safle yn cael ei awyru yn dda yn bwysig hefyd. O ganlyniad, efallai na fydd angen cadw pellter o 2 fetr os yw’r sawl sy’n bresennol i gyd yn eistedd yn wynebu’r un cyfeiriad, os nad yw’r sawl sy’n bresennol yn aros am gyfnod hir ac os yw’r aer yn y safle yn cylchdroi yn effeithiol gan ddefnyddio awyru naturiol neu fecanyddol. Serch hynny,   dylid cadw pellter o 2m mewn mannau lle nad yw'r mesurau  ychwanegol hyn, sy’n lliniaru’r risg, yn cael eu cymryd (neu lle nad ydynt yn ddigon i liniaru’r risg, er enghraifft mannau cyfyng neu lle mae pobl yn symud o gwmpas, megis mynedfeydd ac allanfeydd, toiledau, stondinau consesiynau e.e.).   

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio isod yr hyn y gallai “mesurau rhesymol” ei olygu mewn lleoliadau gwahanol. Maent hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhwymedigaethau mwy penodol yn rheoliadau 17 a 17A (sy'n ychwanegol at y rhwymedigaeth gyffredinol yn rheoliad 16). Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am safleoedd trwyddedig gymryd mesurau penodol, ac mae rheoliad 17A yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am safleoedd manwerthu gymryd mesurau penodol.  

Mae'r Rheoliadau’n galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau am yr hyn a ddisgwylir o dan reoliadau 16, 17 a 17A. Rhaid talu sylw i’r canllawiau hyn, ac unrhyw ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan gyrff eraill ac a ymgorfforir yn y canllawiau hyn.

Mae’n rhaid rhoi ystyriaeth lawn hefyd i’r canllawiau am y canlynol sydd i’w gweld yn y rheoliadau:

Diben y canllawiau

Ers peth amser, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod gofyniad cyfreithiol penodol ar bobl sy'n gyfrifol am weithleoedd a safleoedd sy’n agored i'r cyhoedd (fe’u gelwir yn “fangreoedd rheoleiddiedig” yn y Rheoliadau) er mwyn sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i gadw pellter o 2 fetr rhwng pobl, gan gynnwys y gweithwyr, pan fyddant yn gweithio. Er 17 Gorffennaf ceir hyblygrwydd ychwanegol o ran pellter corfforol ar gyfer safleoedd awyr agored.

Mae cadw pellter corfforol yn parhau’n fesur lliniaru pwysig er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Fodd bynnag, mae mesurau eraill fel awyru a hylendid yn bwysig hefyd, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw cadw pellter o 2 fetr o dan do yn ymarferol mewn rhai amgylchiadau. Yn ogystal, ni fydd hyd yn oed gadw pellter cymdeithasol yn ddigon ynddo’i hun o dan nifer o amgylchiadau – er enghraifft, pan fo pobl o dan do gyda phobl eraill am gyfnodau hir heb awyru effeithiol. Felly, mae angen ystod o fesurau i leihau mewn ffordd effeithiol y risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Bwriedir i'r canllawiau helpu pobl i ddeall yr hyn a olygir wrth "gymryd  mesurau rhesymol" a pha fesurau y dylid eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws.

Mae canllawiau am y mater hwn ar gael ar gyfer sectorau penodol. Maent yn rhoi gwybodaeth fanylach, wedi'i theilwra ar sut i atal y risg o ledaenu’r coronafeirws yn y gweithle ac maent ar gael ar y wefan hon neu drwy’r

e-bost oddi wrth: Covid19.Legislation@llyw.cymru 

Egwyddorion cyffredinol

I bwy mae'r canllawiau hyn yn berthnasol?

Mae'r ddyletswydd o dan y gyfraith i gymryd mesurau rhesymol yn berthnasol i'r person neu’r personau sy'n gyfrifol am safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd ac i’r person sy'n gyfrifol am y gwaith a wneir mewn unrhyw weithle; hynny yw, y person sy'n gyfrifol am reoli’r safle (nid, o reidrwydd, perchennog ffatri neu swyddfa sy’n cael eu lesio).

Yn achos cynulliadau a digwyddiadau rheoleiddiedig, a chynulliadau rheoleiddiedig er datblygiad a lles  plant, mae’r ddyletswydd yn berthnasol i’r sawl sy’n gyfrifol am y safle lle bydd y gweithgaredd yn cael ei gynnal ac i’r sawl sy’n gyfrifol am y gweithgaredd.

Yn achos safleoedd rheoleiddiedig sydd hefyd yn croesawu busnesau eraill i’r safle, er enghraifft, lleoliadau lletygarwch sy'n cynnig cerddoriaeth fyw neu karaoke. Yn yr achosion hynny, mae'r ddyletswydd yn berthnasol ar yr un pryd i'r person sy'n gyfrifol am y safle lle mae'r gweithgaredd yn digwydd ac i’r person sy'n gyfrifol am y busnes unigol sy'n perfformio (y band yn yr enghraifft hon).

Mae hyn yn berthnasol hefyd yn achos priodasau, partneriaethau sifil a the angladd sy’n cael eu trefnu gan unigolyn ond sy’n cael eu cynnal ar safleoedd rheoleiddiedig lle mae busnesau allanol yn bresennol yn ystod y digwyddiad, er enghraifft, arlwywyr allanol, cerddoriaeth fyw, neu berfformwyr eraill o'r fath. Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i'r person sy'n gyfrifol am y safle lle mae'r gweithgaredd yn digwydd ac i'r person sy'n gyfrifol am y busnes unigol sy'n bresennol yn ystod y digwyddiad.

Mae’r ddyletswydd i gymryd mesurau rhesymol hefyd yn berthnasol i dacsis a thrafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys mannau dan do mewn hybiau trafnidiaeth fel gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, meysydd awyr a phorthladdoedd fferis), ond rhaid i weithredwyr y gwasanaethau hyn hefyd ystyried y canllawiau penodol ynghylch y rhwymedigaeth gyfreithiol ar deithwyr i wisgo gorchuddion wyneb ac ynghylch darparu gwybodaeth i deithwyr am y rhwymedigaeth honno, ynghyd â’r canllawiau atodol manwl ar drafnidiaeth sy’n cael eu paratoi yng nghyd-destun trafnidiaeth gyhoeddus.

Er bod y rhwymedigaethau cyfreithiol yn berthnasol i bobl benodol, mae cyfrifoldeb personol ar bawb mewn gweithle neu safle sy’n agored i'r cyhoedd i reoli ei ymddygiad ei hun ac i beidio â llesteirio’r camau a gymerir i sicrhau bod y risg o drosglwyddo'r coronafeirws ledled Cymru yn cael ei lleihau.

Ble a phryd maeʼr canllawiau’n berthnasol?

Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer pedair Lefel Rhybudd y gellir eu rhoi ar waith gan ddibynnu ar lefel y risg sy’n gysylltiedig â’r pandemig yng Nghymru. Mae lefelau gwahanol o gyfyngiadau ar bob lefel, ac mae’r cyfyngiadau hynny’n seiliedig ar yr ymyriadau y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn rheoli’r coronafeirws.  

Oherwydd bod rheoliad 16 yn berthnasol ar bob Lefel Rhybudd, bwriedir i’r canllawiau hyn fod yn berthnasol mewn egwyddor i bob un o’r Lefelau Rhybudd hynny. Fodd bynnag, wrth ystyried pa fesurau rhesymol y dylid eu cymryd, mae’n rhaid i’r rheini sydd â chyfrifoldeb o dan y Rheoliadau ystyried y Lefel Rhybudd sydd ar waith ar y pryd. Gall mesur cyfyngedig a gymerir ar lefel rhybudd isel fod yn rhesymol, ond mae’n debygol y byddai’n afresymol pan fo’r lefel rhybydd yn uchel. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw faterion cysylltiedig, efallai yr hoffech siarad â’ch awdurdod lleol er mwyn cael cyngor. Mae’n bosibl hefyd na fydd rhai mesurau’n berthnasol pan fydd safleoedd ar gau i’r cyhoedd. Mae manylion am y lefelau rhybudd a’u harwyddocâd i’w gweld yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws yng Nghymru.

Mae'r gofyniad i gymryd mesurau rhesymol yn berthnasol o dan amrywiaeth eang iawn o amgylchiadau, gan gynnwys pob math o weithle sy’n agored. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft; gwasanaethau cyhoeddus, safleoedd iechyd a gofal cymdeithasol, ysgolion a lleoliadau gofal plant, addysg uwch, lleoliadau addysg bellach (gan gynnwys canolfannau hyfforddi a dysgu oedolion), canolfannau galwadau, busnesau lletygarwch, safleoedd masnachol a diwydiannol, safleoedd adeiladu a safleoedd agored eraill fel gwaith ffordd a mannau awyr agored, gan gynnwys marchnadoedd da byw.

Mae’r gofyniad hefyd yn berthnasol ym mhob busnes ac ar bob safle y mae’n ofynnol iddynt gau, ond pan fo amgylchiadau o hyd lle y mae’n gyfreithlon i unigolion fod ar y safle.

Bydd dileu’r uchafswm ar y nifer o bobl a gaiff ymgynnull yn yr awyr agored ym mhob lleoliad yn caniatáu ailddechrau cynnal digwyddiadau awyr agored ar raddfa fawr gan gynnwys mewn stadia chwaraeon yn yr awyr agored neu wyliau. Fodd bynnag, er bod y cyfyngiadau cyfreithiol ar ymgynnull yn yr awyr agored wedi’u dileu, mae’r gofyniad i gymryd mesurau rhesymol yn golygu y bydd rhai cyfyngiadau ar bobl. Er nad oes angen Cam 3, yn ymwneud â chadw pellter corfforol o 2m, i fodloni’r goblygiadau cyfreithiol a nodwyd yn Rheoliad 16 ar gyfer y digwyddiadau hyn, mae cadw pellter corfforol yn parhau i fod yn rhan o’r pecyn o fesurau rhesymol y bydd disgwyl i drefnwyr y digwyddiad eu cymryd o dan Gam 4. Os oes lefelau cadw pellter cymdeithasol is ar waith neu os nad yw’n rhesymol (yn wrthrychol) o dan yr amgylchiadau penodol, dylid rhoi mesurau ychwanegol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws.

Mae gofynion penodol ar gyfer safleoedd manwerthu a safleoedd trwyddedig (gweler isod). 

Asesiadau risg penodol mewn perthynas â’r coronafeirws

Mae’r Rheoliadau bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n gyfrifol am safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd neu sy'n gyfrifol am weithleoedd, gynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn perthynas â’r safle. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid iddynt ymgynghori â’r bobl sy’n gweithio ar y safle, neu gyda’u cynrychiolwyr (fel undeb llafur). Yr asesiad hwn yw’r sail ar gyfer penderfynu pa fesurau rhesymol y bydd angen eu cymryd i leihau’r risg, ac o’r herwydd, dylid ei adolygu’n barhaus. Dylid ystyried canlyniadau asesiadau risg, a'r holl risgiau a nodwyd, wrth gynllunio pa fesurau rhesymol y dylid eu cymryd i liniaru'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Nid yw cynnal Asesiad Risg yn ddigon ynddo’i hun – dylai fod yn sail i'r mesurau rhesymol a fydd yn cael eu cymryd yn y pen draw.

Rhaid i bob busnes (y person sy’n gyfrifol am y safle rheoleiddiedig neu am y gwaith a wneir ar y safle) gynnal asesiad risg penodol ar gyfer COVID-19, a dylai’r asesiad hwnnw fod ar gael ar y safle. Dylid ei ddiweddaru fel ei fod yn cyd-fynd â'r cyfyngiadau a'r gofynion diweddaraf wrth weithredu o dan do ac yn yr awyr agored. Bydd angen i berchnogion busnes hefyd roi ystyriaeth lawn i'r gofyniad sydd arnynt i gadw staff yn ddiogel yn y gwaith a chynnig asesiadau risg unigol i'w haelodau staff gan ddibynnu ar y gwaith y maent yn ei wneud ac a ydynt mewn mwy o risg neu'n agored iawn i niwed yn glinigol. Dylai cyflogwyr benodi cynrychiolydd ar ran y staff, a thrafod pob mater cysylltiedig â coronafeirws sy'n berthnasol i’w gweithwyr gyda’r cynrychiolydd hwnnw.

Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i’r person sy’n gyfrifol am y safle i roi gwybodaeth i’r rheini sy’n gweithio yno am y risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws fel y nodwyd yn yr asesiad risg, a’r mesurau i’w cymryd i leihau’r risg.

Mae’r rhwymedigaeth i asesu’r risg sy’n deillio’n benodol o’r coronafeirws yn berthnasol yn ogystal â’r gofyniad mwy cyffredinol i gynnal asesiad risg yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (O.S. 1999 Rhif 3242). Fodd bynnag, pan fydd asesiad risg sydd wedi’i gwblhau o dan y Rheoliadau hynny eisoes yn asesu’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, mae hynny’n ddigon i fodloni’r gofyniad (er bod hynny’n amodol ar yr angen i ymgynghori â’r bobl sy’n gweithio ar y safle, eu hysbysu, ac i gadw golwg ar y sefyllfa). Mae’r rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth i staff yn berthnasol yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes yn bodoli o dan reoliad 10 o Reoliadau 1999.

Wrth ystyried pa fesurau rhesymol y dylid eu cymryd ar unrhyw safle, dylai’r bobl gyfrifol gynnal asesiad risg sy’n benodol i’r holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn y gweithle, a dylid diweddaru’r asesiad hwnnw os caiff gweithgareddau newydd eu hychwanegu. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr holl unigolion sy’n defnyddio neu’n ymweld â’r lleoliad hwnnw, gan gynnwys staff parhaol a dros dro, contractwyr, ymwelwyr, a’r cyhoedd. Mae asesiadau risg wedi hen ennill eu plwyf wrth reoli iechyd a diogelwch yn y gwaith a dylid cwblhau asesiadau risg penodol mewn perthynas â’r coronafeirws fel rhan o system ehangach i reoli diogelwch. Mae canllawiau cynhwysfawr ar gael oddi wrth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin ag asesiadau risg yn fanwl, fodd bynnag, dylid cynnal yr asesiadau yn unol â’r gofynion gweithdrefnol a nodir yn rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau’r Coronafeirws). Dylid adolygu’r asesiad risg yn rheolaidd oherwydd, wrth edrych ar sut y dylid bodloni’r rhwymedigaeth i gymryd camau rhesymol i leihau’r risg, bod angen ystyried a yw’r bygythiad ehangach sy’n gysylltiedig â’r pandemig wedi newid. Mae asesu risg yn broses ddeinamig, a dylid bob amser gynnwys y bobl sy’n gweithio ar y safle wrth gynnal asesiadau o’r fath. Mae templed y gellir ei ddefnyddio ar gyfer asesiad risg penodol i’r coronafeirws.

Er nad oes angen cyhoeddi asesiadau risg, mae angen i bawb sy’n gweithio ar y safle wybod am eu cynnwys, ac am y mesurau lliniaru sydd wedi’u hamlinellu. Os yw’r unigolyn cyfrifol yn gyflogwr sy'n cyflogi 5 neu fwy o gyflogeion, rhaid i'r cyflogwr gofnodi canfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg ac unrhyw grŵp o gyflogeion y nodwyd eu bod yn arbennig o agored i risg. 

Beth yw mesur rhesymol?

Nid oes unrhyw reol bendant am yr hyn a olygir wrth fesur rhesymol. Gall amrywio o fewn  swyddogaethau gwahanol yr ymgymerir â nhw mewn sefydliad, a gall hefyd amrywio rhwng sectorau. Dylai pob cyflogwr wneud yr hyn y mae’n gallu ei wneud yn y gweithle i newid y ffordd y mae'n gweithio, a dylai’r rheini sy'n gyfrifol am safle wneud yr hyn y gallan nhw ei wneud i newid y ffordd y mae’r safle’n cael ei ddefnyddio.

Wrth ystyried beth yw mesur rhesymol, mae’n bwysig ystyried y lefel rhybudd sydd mewn grym, ynghyd â’r cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau iechyd cyhoeddus am lefel y risg. Wrth i’r lefel rhybudd newid, mae hynny’n effeithio ar yr hyn y mae angen ei wneud i gydymffurfio â’r dyletswyddau i gymryd “mesurau rhesymol”.   

Nid yw’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor cynhwysfawr am yr hyn y dylid ei wneud ym mhob achos, ond maent yn amlinellu’r hyn y dylai busnesau a sefydliadau ei ystyried wrth benderfynu ar fesurau. Mater i’r rheini y mae’r gofynion yn berthnasol iddynt fydd cyfiawnhau’r mesurau rhesymol y byddant wedi’u mabwysiadu. Bydd angen iddynt ddangos sut y byddant wedi ystyried yr hyn sy’n rhesymol er mwyn lleihau’r risgiau a wynebir gan weithwyr sy’n gorfod mynd i weithio yn eu gweithle a chan y rheini sy’n mynd i mewn i unrhyw safle.

Mae rhai o’r mesurau rhesymol a drafodir yn y canllawiau hyn yn cael eu nodi’n benodol yn y Rheoliadau, yn rheoliad 16 a hefyd yn rheoliad 17, sy’n ymdrin â safleoedd trwyddedig ac yn 17A, sy’n ymdrin â safleoedd manwerthu (gweler isod). Bwriad y canllawiau hyn a chyngor arall a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yw helpu pobl i wneud y penderfyniadau hynny.

Beth yw'r gofyniad cyfreithiol y mae'r canllawiau’n seiliedig arno?

Mae’r canllawiau hyn yn cael eu paratoi o dan reoliad 18, ac maent yn ymdrin â’r gofyniad cyfreithiol yn rheoliadau 16, 17 a 17A o’r Rheoliadau Coronafeirws. Mae’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am safle sy’n agored i’r cyhoedd, neu sy’n weithle, gymryd y Camau a ganlyn:

  1. Cam 1: cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle (ac ymgynghori â phobl sy'n gweithio ar y safle, neu eu cynrychiolwyr, wrth wneud hynny)
  2. Cam 2: rhoi gwybodaeth i’r bobl sy’n mynd i mewn i’r safle neu sy’n gweithio yno am sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys, yn benodol, rhoi gwybodaeth i bawb sy’n gweithio ar y safle am eu risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws fel y nodwyd yn yr asesiad risg, a’r mesurau i’w cymryd i leihau’r risg
  3. Cam 3: mewn safleoedd dan do, dylid cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw rhwng pob person tra byddant ar y safle neu tra byddant yn aros i fynd i mewn i’r safle (ac eithrio rhwng pobl o’r un aelwyd neu – ar Lefelau Rhybudd 1 a 2 – grwpiau o 6 o bobl o aelwydydd gwahanol)
  4. Cam 4: sicrhau bod mesurau rhesymol eraill yn cael eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws ar y safle, yn enwedig drwy geisio atal pobl a allai fod â’r coronafeirws rhag bod yno, drwy sicrhau bod pobl yn ymgynnull yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do pan fo hynny’n ymarferol, drwy wella’r awyru o dan do, drwy gyfyngu ar ymwneud a chyswllt agos wyneb yn wyneb rhwng pobl (gan gynnwys cadw pellter corfforol ar gyfer safleoedd awyr agored), a thrwy wella hylendid.

Fel man cychwyn, mae gofyn cymryd pob un o'r 4 Cam (er nad oes angen Cam 3 ar gyfer safleoedd awyr agored). Fodd bynnag, wrth ystyried yr hyn y mae’n rhesymol ei wneud o dan Gam 3, ceir ystyried y mesurau a gymerir o dan Gam 4, sy'n lliniaru'r risg pan fo pobl o aelwydydd gwahanol o fewn 2 fetr i'w gilydd o dan do. Fel y nodir isod, mae’n bosibl y bydd amgylchiadau prin pan nad yw cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn bosibl neu'n rhesymol bob amser o dan do. O dan amgylchiadau o’r fath, byddai disgwyl i berson sy'n gyfrifol am safle gymryd camau ychwanegol a chryfach o dan Gam 4, ochr yn ochr â chadw cymaint o bellter corfforol ag sy’n rhesymol. Yn yr un modd, os nad yw’n bosibl neu’n rhesymol cadw pellter cymdeithasol yn yr awyr agored o dan Gam 4, byddai disgwyl i safleoedd gymryd camau ychwanegol a chryfach.

Gallai’r person cyfrifol ystyried, er enghraifft, y ffaith bod pobl wedi cael prawf am y coronafeirws cyn digwyddiad neu fod y ffordd y mae’r safle’n cael ei reoli yn golygu y bydd pobl yn cael eu hatal rhag ymwneud yn agos â’i gilydd wyneb yn wyneb, e.e. seddau sy’n cael eu hawyru'n dda ac sydd i gyd yn wynebu'r un cyfeiriad. Dylid cadw pellter corfforol  (2 fetr o dan do) mewn mannau lle nad yw'r mesurau lliniaru ychwanegol hyn ar waith (e.e. mannau cyfyng neu lle mae pobl yn symud o gwmpas, megis mynedfeydd ac allanfeydd, toiledau, stondinau consesiynau etc). 

Mae mesurau rhesymol hefyd yn cynnwys galluogi gweithwyr i hunanynysu os oes gofyn iddynt wneud hynny oherwydd eu bod wedi cael canlyniad positif am Coronafeirws, neu wedi cael gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif. Os na fydd unigolyn yn  hunanynysu pan fydd yn ofynnol iddo ef/iddi hi wneud hynny, oherwydd rhywbeth y mae cyflogwr yn ei wneud, gall y cyflogwr fod yn euog o drosedd a gallai wynebu dirwy o hyd at £10,000.

Yn olaf, dylid darparu gwybodaeth i’r bobl sydd ar y safle am sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yno.

Safleoedd trwyddedig

Mae gofynion ychwanegol pan fo safleoedd yn gwerthu neu’n cyflenwi alcohol i’w yfed ar y safle neu’n caniatáu i gwsmeriaid ddod ag alcohol gyda nhw i’w yfed yno. Mae’r gofynion penodol hyn, sydd i’w gweld yn rheoliad 17, yn ychwanegol at y rhwymedigaeth gyffredinol i gymryd “camau rhesymol”. Nid ydynt yn berthnasol pan fydd y safle ynghau, ac mae’n bosibl y byddant yn wahanol, gan ddibynnu a yw’r safle’n cael agor yn llawn neu a yw’n agor at ddibenion casglu tecawê yn unig.

Yn achos sinemâu, theatrau a meysydd chwaraeon, pan fo cwsmeriaid ar eu heistedd fel arfer pan fyddant ar y safle, nid oes angen cynnig gwasanaeth wrth y bwrdd, ond dylid bwyta ac yfed lle y byddai’r cwsmeriaid hynny’n eistedd fel arfer (e.e. er mwyn dangos ffilm, ar gyfer digwyddiad chwaraeon byw neu berfformiad byw mewn theatr).

Rhaid i gwsmeriaid hefyd fod ar eu heistedd mewn safleoedd (mewn unrhyw le heblaw mewn bar) er mwyn archebu bwyd a diod, cael eu gweini, a bwyta ac yfed. Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y safle sicrhau bod system gwasanaeth wrth y bwrdd ar gyfer archebu bwyd a diod (oni bai bod bwyd yn cael ei ddarparu ar ffurf bwffe. O dan yr amgylchiadau hynny, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o'r bwffe a dychwelyd i'r man lle maent yn eistedd). Yn achos sinemâu, theatrau a meysydd chwaraeon, lle mae cwsmer yn arfer eistedd i wylio perfformiad neu sioe, neu mewn digwyddiad awyr agored, nid oes angen gwasanaeth wrth y bwrdd ond dylai pobl fod ar eu heistedd pan fyddant yn bwyta ac yn yfed.

Dylai pob safle trwyddedig hefyd gasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob unigolyn sydd ar y safle a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth gyswllt honno’n gywir. 

Mae canllawiau ychwanegol ar gyfer y sector lletygarwch ar sut y gellir rhoi’r mesurau rhesymol hyn ar waith.

Safleeoedd manwerthu

Pan fo safleoedd manwerthu yn cynnig nwyddau neu wasanaethau i'w gwerthu neu i'w llogi, gan gynnwys nwyddau neu wasanaethau y mae pobl yn mynd â nhw o’r safle, mae’n ofynnol o dan reoliad 17A i'r person sy'n gyfrifol am y safle wneud y pethau isod fel rhan o'r mesurau rhesymol y mae’n eu rhoi ar waith. Mae’r gofynion penodol hyn yn ychwanegol at y rhwymedigaeth gyffredinol i gymryd “camau rhesymol”. Nid ydynt yn berthnasol pan fydd y safle ynghau, ac mae’n bosibl y byddant yn wahanol, gan ddibynnu a yw’r safle’n cael agor yn llawn neu a yw’n agor at ddibenion casglu nwyddau drwy “clicio a chasglu” yn unig.

Rhaid iddynt:

  • reoli mynediad i'r safle a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd ar y safle ar unrhyw un adeg; 
  • darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i bobl pan fyddant yn mynd i mewn i’r safle ac yn ei adael;
  • sicrhau bod unrhyw fasgedi neu drolïau a ddefnyddir gan bobl yn y safle yn cael eu diheintio;
  • er mwyn atgoffa cwsmeriaid bod angen cadw pellter o 2 fetr a gwisgo gorchuddion wyneb, rhaid arddangos arwyddion neu gymhorthion gweledol eraill fel marciau ar y llawr, a gwneud cyhoeddiadau’n rheolaidd.

Mae ffyrdd gwahanol o fodloni’r gofyniad i reoli mynediad, gan ddibynnu ar natur y safle manwerthu ac unrhyw gyfarpar sydd ar gael. Mewn safleoedd mwy, mae’n debygol o olygu trefnu bod rhywun wrth y drws i reoli mynediad neu gyflwyno rhyw ffordd awtomatig o gyfyngu ar nifer y bobl sy’n cael dod i mewn. Fodd bynnag, yn y ddau achos, rhaid i’r nifer sy’n dod i mewn fod yn seiliedig ar asesiad o’r nifer mwyaf a all fod yn bresennol ar y safle gan gadw pellter o 2 fetr o leiaf rhwng cwsmeriaid. Man cychwyn yr asesiad hwnnw fydd arwynebedd y llawr, ond bydd angen ystyried y ffaith bod rhai rhannau o’r safle’n debygol o fod yn fwy prysur nag eraill. Hefyd bydd awyru’n ffactor. Anogir y rheini sy’n gyfrifol am safle i fod yn ofalus wrth benderfynu ar uchafswm y cwsmeriaid a ganiateir.

Gall safleoedd manwerthu bach reoli mynediad drwy gyfuniad o ddefnyddio arwyddion a gofyn i’r staff fonitro pwy sydd y tu mewn i’r adeilad. Ar y safleoedd lleiaf, mae’n debygol mai’r system fwyaf priodol o reoli mynediad fydd caniatáu i un person yn unig ddod i mewn i’r safle ar unrhyw un adeg. Pan fydd cwsmeriaid yn gallu gweld a oes rhywun yn yr adeilad, gellir rheoli hynny drwy ddefnyddio arwydd. O dan amgylchiadau eraill, dylid defnyddio arwyddion sy’n nodi mai dim ond pan fydd cwsmer arall yn gadael y dylai cwsmeriaid fynd i mewn. Ar adegau pan fydd y safle’n dawel, gallai aelod o staff fod ar gael i roi gwybod i’r cwsmer ei fod yn cael dod i mewn.

Gweithio gartref

Y ffordd fwyaf effeithiol o gyfyngu ar y risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y gweithle yw galluogi rhai aelodau o’r staff, neu bob un, i weithio o’u cartrefi mor aml â phosibl. Mae “mesurau rhesymol” yn cynnwys disgwyl i gyflogwyr fod yn hyblyg ac addasu lle bo modd er mwyn caniatáu hynny. Gall hyn gynnwys rhoi cyfarpar TG i staff (gliniaduron, monitorau, bysellfyrddau), dodrefn swyddfa, ffonau symudol a hwyluso cyfathrebu rhwng y lleoliadau gwahanol.

Ni ddylid mynnu bod staff yn dychwelyd i’r gweithle na rhoi pwysau arnynt i wneud hynny os nad oes achos busnes clir dros wneud hynny. Dylai cyflogwyr sy’n ystyried ei gwneud yn ofynnol i staff ddychwelyd i’r gweithle asesu i ddechrau a oes modd gwneud trefniadau amgen i ddiwallu’r rhan fwyaf o anghenion y busnes, oherwydd dim ond os yw’n rhesymol angenrheidiol ac os nad oes unrhyw ddewis arall rhesymol ymarferol y caniateir ymgynnull at ddibenion gwaith. Dylid trafod hyn gyda’r staff neu gynrychiolwyr y staff.

Wrth benderfynu a ddylid gofyn i staff ddychwelyd i’r gweithle, dylai cyflogwyr ystyried a fyddai unrhyw effaith negyddol benodol ar les unigolion yn sgil hynny. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n wynebu mwy o risg neu sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (sydd wedi cael eu cynghori i’w gwarchod eu hunain ac y mae  dal angen iddynt gymryd rhagofalon sylweddol), neu bobl y byddai dychwelyd i’r gweithle yn achosi pryder difrifol iddynt. Mae hyn yn arbennig o wir lle byddai gwaith yn golygu y byddai angen iddynt fod mewn cysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill neu rannu mannau sydd wedi’u hawyru’n wael am gyfnodau hir.

Mae’n bosibl hefyd y bydd yna staff sy’n dymuno dychwelyd i’r gweithle. O dan yr amgylchiadau hynny, mae llesiant staff yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu pa fesurau y mae’n rhesymol eu cymryd i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Er mai lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ddylai fod yn brif flaenoriaeth i’r cyflogwr, dylai gydbwyso hynny yn erbyn yr effaith niweidiol y gallai gweithio gartref fod yn ei chael ar les y cyflogai. O dan y amgylchiadau o’r fath, os gall cyflogeion sydd yn y sefyllfa hon ddychwelyd i’r gweithle heb gynnydd sylweddol yn y risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, dylid caniatáu hynny. Wrth ystyried hyn, dylai cyflogwyr ystyried i ba raddau y byddai’r cyflogai sy’n dychwelyd i’r gweithle yn dod i gysylltiad agos ag eraill yn y gweithle ond hefyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith. 

Cadw pellter corfforol

Mae’n anochel y bydd yna amgylchiadau pan na fydd modd gweithio gartref. Ymhlith rhai o’r amgylchiadau hynny y mae darparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd, ffatrïoedd, safleoedd adeiladu, darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu, lletygarwch a chynnal digwyddiadau. Er y gellir ei gwneud yn haws i staff gadw pellter cymdeithasol drwy ganiatáu i rai ohonynt weithio gartref, bydd angen rhoi mesurau rhesymol ar waith yn y gweithle er mwyn atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo rhwng gweithwyr ac unrhyw bobl eraill fel cleifion ac aelodau o’r cyhoedd sydd hefyd yn bresennol.

Mae'r gallu i gadw pellter corfforol ar unrhyw safle yn cael ei  gyfyngu, i ryw raddau, gan faint y safle; fodd bynnag, beth bynnag yw maint y safle, y man cychwyn yw ystyried sut i gadw pobl ar wahân yn gorfforol a sut i’w hatal rhag ymwneud â’i gilydd wyneb yn wyneb, neu leihau hynny. 

Dylai’r asesiad risg sy’n ofynnol o dan Reoliadau’r Coronafeirws gadarnhau’r nifer priodol o bobl a gaiff fod yn bresennol ar y safle, ac rydym yn argymell y dylai’r wybodaeth honno fod ar gael i’r cyhoedd. Rhaid wrth drefniadau rheoli penodol hefyd wrth gyrraedd a/neu adael yr adeilad er mwyn sicrhau nad yw’r niferoedd ar y safle yn uwch na’r nifer sy'n ddiogel. Bydd hynny’n golygu cyfyngu ar fynediad, trefnu llif pobl drwy’r adeilad, dylunio a chynllunio’r gwaith, ac mae bron yn sicr y bydd angen rhoi mesurau ar waith i helpu neu i orfodi pobl i gadw ar wahân. Mae’r rheoliadau ar gyfer safleoedd manwerthu hefyd yn golygu bellach fod angen atgoffa pobl yn rheolaidd am yr angen i gadw pellter o 2 fetr pan fo modd, a gwisgo gorchudd wyneb. Dylid gwneud hyn drwy ddefnyddio arwyddion a thrwy wneud cyhoeddiadau (lle bo hynny’n bosibl) dros uchelseinydd.

Enghreifftiau o fesurau cadw pellter corfforol

Bydd y math o fesurau a fydd yn rhesymol yn dibynnu ar y gweithleoedd neu’r safleoedd unigol, a byddant yn adlewyrchu'r amgylchedd ffisegol a’r math o fusnes neu weithgaredd sydd dan sylw. 

Er enghraifft, ni fydd y rhan fwyaf o ymarferwyr meddygol a gofalwyr yn gallu cadw pellter o 2 fetr rhyngddynt a chlaf wrth roi triniaeth. Fodd bynnag, byddant yn gallu cadw 2 fetr rhyngddynt a'r claf (yn ogystal ag ymarferwyr meddygol a gofalwyr eraill) y rhan fwyaf o'r amser, er enghraifft, pan fydd cleifion yn aros i gael eu gweld. Dyma’r hyn a olygwn wrth fesurau rhesymol, a dylid arfer cysondeb wrth roi mesurau o'r fath ar waith. Yn gyffredinol, ni fyddai rhoi'r gorau i driniaeth yn fesur rhesymol; dylai triniaethau barhau pryd bynnag y bo modd, ond o dan amgylchiadau lle byddai’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn fwy na manteision y driniaeth, mae’n bosibl y byddai’n rhaid ei gohirio.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gellir helpu i gadw pellter corfforol:

  • gofyniad ar safleoedd manwerthu, a mesur rhesymol yn achos safleoedd rheoleiddiedig eraill, i reoli mynediad i'r safle er mwyn cyfyngu ar nifer y bobl ar y safle ar unrhyw un adeg
  • cynyddu'r gofod rhwng pobl drwy leihau cyfanswm y bobl sydd ar y safle
  • newid cynllun y safle/symud dodrefn er mwyn helpu pobl i gadw pellter corfforol
  • rheoli’r defnydd o fynedfeydd, coridorau, grisiau a lifftiau
  • rheoli'r defnydd o gyfleusterau a rennir, fel toiledau a cheginau
  • cadw aelodau o staff yn bellach oddi wrth ei gilydd – er enghraifft, gadael bwlch o 2 fetr rhwng pobl ar linell gynhyrchu a defnyddio marciau i ddangos lle y mae’r bylchau hynny
  • ystyried darparu man gorffwys priodol – a yw gweithwyr yn ymgynnull ar adeg benodol? A ellid darparu mwy o le, neu drefnu bod pobl yn cael egwyl ar adegau gwahanol?
  • newid y tasgau yr ymgymerir â nhw – addasu'r ffordd y mae gwaith yn cael ei wneud, er mwyn lleihau cyswllt rhwng pobl
  • newid amseroedd sifftiau er mwyn lleihau nifer y bobl ar y safle a lleihau tagfeydd ar adegau newid sifft

Pryd y caniateir i bobl fod o fewn 2 fetr i’w gilydd?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl nad ydynt yn byw gyda'i gilydd i gadw pellter oddi wrth eraill pryd bynnag y bo modd, ac i beidio â chyfarch ei gilydd yn gorfforol pan fyddant yn gweld ei gilydd. Mae'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn parhau’n real iawn pan fyddant yn agos at eraill, yn enwedig pan fyddant dan do.

Fodd bynnag, o ran y rhwymedigaethau cyfreithiol o dan reoliad 16, mae’r gofyniad penodol i gymryd pob mesur rhesymol i gadw pellter o 2 fetr rhwng pobl o dan do yn cael ei gyfyngu yn y ffyrdd a ganlyn:

  • nid yw'n ofynnol i bobl sy'n byw gyda'i gilydd fod ar wahân gan nad oes unrhyw risg ychwanegol o drosglwyddo rhyngddynt;
  • cydnabod realiti economaidd a chymdeithasol, yn enwedig mewn lleoliadau lletygarwch a digwyddiadau o dan do. Ar Lefelau Rhybudd 1 a 2, caiff grwpiau o hyd at 6 o bobl o aelwydydd gwahanol fod o fewn pellter o 2 fetr i’w gilydd – er y dylai'r rheini sy'n gwneud hynny sylweddoli bod perygl o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws wrth wneud hynny, a dylent geisio cadw pellter os oes modd;
  • o ran cynnal pellter o 2 fetr rhwng grwpiau (aelwydydd neu grwpiau o hyd at 6 ar Lefelau Rhybudd 1 neu 2), dylid cymryd pob cam rhesymol i gadw pellter o 2 fetr o dan do, ond mae’n bosibl y bydd yna amgylchiadau pryd y bydd mesurau eraill a gymerir yn lliniaru'r risg a fydd yn codi os byddant lai na 2 fetr oddi wrth ei gilydd.     

Wrth ystyried a yw'n rhesymol cadw pellter o 2 fetr o dan do a chadw pellter corfforol yn yr awyr agored, mae yna sefyllfaoedd pan nad yw hynny’n ymarferol. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys:

  • darparu gwasanaethau personol, gan gynnwys yn y cartref
  • tasgau y mae angen dau neu fwy i'w cyflawni'n ddiogel, gan gynnwys codi trwm neu gario cemegau peryglus, er ei bod y bosibl y bydd mesurau y gellir eu mabwysiadu mewn rhannau eraill o'r gweithle
  • mewn safleoedd a reoleiddir a gweithleoedd lle mae yno blant ifanc neu bobl ag anghenion cymhleth nad ydynt yn gallu deall y cysyniad o gadw pellter corfforol, a lle y gall fod angen cyswllt agosach er mwyn i'r gweithwyr cymorth roi'r cymorth priodol, e.e. i helpu plentyn neu unigolyn sydd wedi cwympo
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau lle gallai pobl dreulio cyfnodau byr o amser o fewn 2 fetr i’w gilydd, fel chwaraeon tîm o dan do
  • eithriadau lle y mae angen cyswllt agos rhwng gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau
  • tacsis a rhai mathau o drafnidiaeth gyhoeddus
  • lle mae angen i bobl weithio mewn parau lai na 2 fetr oddi wrth ei gilydd o dan do er mwyn sicrhau diogelwch
  • gweithio mewn mannau cyfyng, er enghraifft, atgyweirio seilwaith ar gyfer cyfleustodau

Pan fo safleoedd yn agored i blant ifanc, mae’n bosibl na fydd yn ymarferol glynu’n gaeth wrth y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol rhwng y plant hynny (neu hyd yn oed rhwng y plant hynny ac unrhyw oedolion ar y safle). Rhan o’r rheswm dros hynny yw oherwydd ei bod yn fwy anodd i blant ifanc ddeall y cysyniad o gadw pellter cymdeithasol, ac yn rhannol oherwydd y bydd cael cymorth priodol gan ofalwyr yn golygu’n aml bod angen cysylltiad agosach. Mae’n werth nodi hefyd fod plant ifanc yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws (i blant eraill neu i oedolion), a bod effaith y feirws ar blant ifanc, yn ôl pob golwg, yn llai niweidiol nag ar oedolion.

Yn olaf, rydym yn cydnabod y gallai cadw pellter corfforol yn yr awyr agored a chadw pellter 2 fetr o dan do roi rhai busnesau o dan straen aruthrol yn fasnachol. Er mai diogelu iechyd y cyhoedd a chynnal hyder y cyhoedd ddylai gael blaenoriaeth, caiff busnesau sy'n cael bod yn agored o dan y Lefel Rhybudd sydd mewn grym gadw llai o bellter corfforol os yw goblygiadau cadw pellter corfforol yn golygu na fyddai’r busnes bellach yn hyfyw.

Ym mhob un o’r achosion hyn, mae’n hanfodol bod mesurau rhesymol eraill yn cael eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, fel y nodir yn yr adran isod. Nid yw peidio â chadw pellter corfforol o 2 fetr yn golygu na ddylid cadw unrhyw bellter corfforol o gwbl. Dylai cadw cymaint o bellter corfforol ag sy'n rhesymol fod yn amcan o hyd, gan ystyried y mesurau lliniaru eraill sy'n ymarferol.

Yn yr un modd, gall fod yn rhesymol gadw pellter corfforol o 2 fetr o dan do o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, gan gadw pellter o lai na 2 fetr mewn mannau neu amgylchiadau penodol yn unig. Er enghraifft, cadw pellter o lai na 2 fetr er mwyn rhoi triniaeth, ond ei gadw fel arall.

Yn yr awyr agored, bydd cadw pellter corfforol yn parhau i fod yn fanteisiol os yw’n rhesymol, ond gallai’r awyru naturiol ychwanegol a’r mesurau eraill sy’n cael eu cymryd fod yn ddigonol o’i gymharu â digwyddiadau o dan do. Bydd dileu’r uchafswm ar y nifer o bobl a gaiff ymgynnull yn yr awyr agored ym mhob lleoliad yn galluogi ailddechrau digwyddiadau awyr agored ar raddfa fawr gan gynnwys mewn stadia chwaraeon neu wyliau. Er bod y pwyslais penodol ar gadw pellter corfforol o 2m wedi’i ddileu ar gyfer y digwyddiadau hyn, dylai pellter corfforol fod yn rhan o’r pecyn o fesurau rhesymol y bydd disgwyl i drefnwyr eu hystyried, a’u cymryd mewn llawer o amgylchiadau. Os bydd llai o bellter cymdeithasol yn bosibl, neu ddim pellter o gwbl (yn wrthrychol), dylid rhoi mesurau ychwanegol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Wrth gynnal yr asesiad risg, dylid hefyd ystyried pa gamau lliniaru y gellir eu cymryd os na chedwir pellter corfforol o 2 fetr ar safle o dan do neu os yw’r gallu i gadw pellter corfforol yn gyfyngedig yn yr awyr agored. Os na fydd cymryd mesurau rhesymol eraill yn lleihau digon ar y risg o ddod i gysylltiad â’r feirws, mae hynny’n awgrymu bod dal angen cadw pellter corfforol.

Yn y pen draw, os nad yw’r mesurau y mae’n rhesymol ichi eu cymryd yn ddigon i leihau’r risgiau, mae Rheoliad 16 yn ei gwneud yn glir y caiff  mesurau rhesymol gynnwys rhoi’r gorau i weithgareddau penodol a chau rhan o’r safle.

Er bod Rheoliad 16 yn ymwneud yn bennaf â sut y mae pethau’n cael eu gwneud, yn hytrach nag a ydynt yn cael eu gwneud ai peidio, mae’n bosibl bod rhai gweithgareddau lle mae cymaint o risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws fel mai’r unig ffordd o leihau’r risg yw peidio ag ymgymryd â’r gweithgareddau hynny o gwbl. Bydd yr opsiwn hwn yn arbennig o berthnasol ar y lefelau rhybudd uwch.

Enghreifftiau o fesurau rhesymol eraill y gellir eu cymryd

Ym mhob achos, ond yn enwedig os na ellir glynu’n gaeth wrth y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol, mae'n bwysig bod mesurau eraill yn cael eu cymryd. Y mesurau mwyaf amlwg i'w cymryd yw unrhyw beth sy'n lleihau ymwneud agos wyneb yn wyneb rhwng pobl a gwella arferion golchi dwylo, osgoi cyffwrdd â’r wyneb heb olchi dwylo, hylendid anadlol a glanhau arwynebau.

Mesur arall sy’n orfodol (oni bai bod rhesymau cryf dros wneud i’r gwrthwyneb) yw ei gwneud yn ofynnol i staff ac ymwelwyr mewn safleoedd dan do sy’n fannau cyhoeddus, ac mewn achosion eraill, wisgo gorchudd wyneb pan na fydd modd iddynt gadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn berthnasol mewn mannau nad ydynt yn agored i’r cyhoedd, yn ogystal â’r gofynion sy’n berthnasol mewn mannau sy’n agored i’r cyhoedd. Lluniwyd canllawiau ar wahân ar orchuddion wyneb sy’n nodi cyfrifoldebau cyflogwyr a rheolwyr safleoedd mewn perthynas â gorchuddion wyneb, ac mae’n ofynnol ichi hefyd ystyried y canllawiau hynny.  

Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • ymgynnull yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do
  • sicrhau bod y safle’n cael ei awyru’n ddigonol fel nad yw gronynnau'r feirws yn yr aer yn cronni dros amser
  • cynnal prawf ar y bobl sy’n dod i’r safle neu mynnu tystiolaeth am brawf negyddol
  • gwell hylendid anadlol – er enghraifft, drwy ddarparu biniau ychwanegol ar gyfer hen hancesi papur
  • glanhau’n amlach, yn enwedig cyfleusterau a rennir fel toiledau a cheginau
  • annog pobl i olchi dwylo'n dda â sebon am 20 eiliad yn rheolaidd ac ar ôl dod i gysylltiad agos neu gyffwrdd â rhywbeth/rhywun
  • darparu cyfleusterau ychwanegol ar gyfer golchi dwylo a sicrhau bod digon o gyflenwadau
  • sicrhau bod unigolyn cyfrifol yn bresennol drwy gydol cynulliadau rheoleiddiedig a chynulliadau rheoleiddiedig i blant er mwyn sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd
  • rheoli'r defnydd o'r safle, er enghraifft, drwy:
    • leihau nifer y bobl ar y safle ar unrhyw un adeg, gan wneud hynny drwy fabwysiadu system apwyntiadau, drwy reoli mynedfeydd ac allanfeydd (mae hyn yn ofynnol ar gyfer safleoedd manwerthu), gan gynnwys, os oes modd, ei gwneud yn ofynnol i bobl ddod i mewn drwy un drws a gadael drwy ddrws arall
    • rheoli sut y mae pobl yn cerdded o amgylch y safle
    • rheoli sut y mae pobl yn cyrraedd ac yn gadael y safle i gadw pellter corfforol rhwng pobl y tu allan i’r safle.
  • ad-drefnu dodrefn neu weithleoedd mewn ffordd sy'n lleihau’r ymwneud wyneb yn wyneb rhwng pobl
  • lleihau synau uchel a fydd yn golygu bod yn rhaid i bobl weiddi
  • osgoi gweithgareddau sy’n cynnwys canu, llafarganu, gweiddi neu ddefnyddio offerynnau chwyth oni bai bod camau i leihau’r risg ar waith
  • osgoi ymwneud agos wyneb yn wyneb rhwng pobl, er enghraifft drwy:
    • ofyn i bobl eistedd gefn wrth gefn neu wynebu’r un ffordd
    • codi rhwystrau ffisegol neu sgriniau rhwng pobl.
  • gwisgo cyfarpar diogelu personol priodol, megis gorchuddion wyneb tair haen sy’n cydymffurfio â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd

Gellid hefyd gymryd mesurau yn y gweithle i greu grwpiau penodedig o weithwyr na fyddant yn cymysgu ag eraill, er y byddant yn ymwneud â'i gilydd o fewn y grŵp. Gellir gwneud hyn, er enghraifft, pan fydd trefniadau sifft ar waith.

Darparu gwybodaeth

Mae darparu gwybodaeth i weithwyr ac i bobl eraill ar safleoedd neu mewn gweithleoedd yn allweddol er mwyn rheoli lledaeniad y feirws yn llwyddiannus. Gellir rhoi gwybodaeth ar lafar neu'n ysgrifenedig (ar ffurf arwyddion, gan amlaf), ac yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb o ran y fformatau sydd ar gael. Yn gyffredinol, bydd angen i'r wybodaeth a ddarperir:

  • esbonio pa fesurau sy’n cael eu cymryd i gadw pellter corfforol o dan do neu leihau ymwneud agos wyneb yn wyneb rhwng pobl
  • helpu pobl i ddilyn yr hyn sy'n ofynnol, er enghraifft, drwy roi cyfarwyddiadau ar sut i ddod i mewn i'r safle a cherdded o'i amgylch os oes system unffordd ar waith, neu atgoffa pobl pryd y mae angen iddynt wisgo gorchuddion wyneb a sut i’w defnyddio’n effeithiol ac yn gyfrifol (gweler y canllawiau ar orchuddion wyneb)
  • rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr safleoedd am y nifer uchaf o bobl y mae’n ddiogel iddynt fod ar y safle ar unrhyw un adeg

Mae rhai arwyddion sylfaenol ar gael yma − arwyddion diogelwch a chadw pellter corfforol i gyflogwyr ac o wefan Busnes Cymru.

Casglu manylion cyswllt

Un o’r mesurau rhesymol y cyfeirir ato o dan reoliad 16 yw casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth  bobl (gan gynnwys y staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr) sydd wedi bod ar y safle a chadw’r wybodaeth honno am 21 diwrnod. Mae hyn yn helpu'r system Profi, Olrhain a Diogelu ac yn ffordd arall o helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws. Mae cymryd y mesurau hyn yn golygu bod modd cysylltu â phobl os yw’n bosibl eu bod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle. Mae hynny, yn ei dro, yn golygu bod modd cysylltu â nhw a dweud wrthynt i hunanynysu ac i ofyn am brawf.

Mesur rhesymol arall yw sicrhau bod yr wybodaeth gyswllt a gesglir yn gywir.

Nid yw defnyddio ap Covid-19 y GIG yn disodli’r gofyniad cyfreithiol ar  fusnesau yng Nghymru i gasglu gwybodaeth.

Bydd yr angen i safleoedd unigol gasglu manylion cyswllt yn dibynnu, er enghraifft, ar ba fath o safle ydyw ac ar faint o amser y bydd pobl yn ei dreulio yno. Mae’r canllawiau ar gasglu manylion cyswllt yn rhoi rhagor o wybodaeth. Bydd gofyn i bawb sy’n gyfrifol am safleoedd roi sylw i’r canllawiau hynny hefyd.

Hunanynysu

Mesur rhesymol arall y mae’n rhaid ei gymryd yw caniatáu i bobl sy’n arfer gweithio ar y safle hunanynysu mewn amgylchiadau lle’r anogir hynny neu pan fydd yn ofynnol o dan y gyfraith. Dyma rai enghreifftiau o amgylchiadau o’r fath:

  • pan fyddant wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws;
  • pan fyddant wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws; neu
  • pan fydd swyddogion y gwasanaeth olrhain cysylltiadau neu swyddogion cyhoeddus eraill, fel y’u rhestrir yn Rheoliad 21(3)(c), wedi gofyn iddynt hunanynysu.

Gallai galluogi pobl i hunanynysu gynnwys llawer o’r un camau â’r rheini a restrir yn yr adran “gweithio gartref” uchod. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau pan na all staff weithio gartref neu pan na fyddai’n gymesur iddynt gymryd rhai o’r camau hynny oherwydd hyd y cyfnod dan sylw, dylai cyflogwyr ganiatáu i staff beidio â gweithio tra byddant yn hunanynysu. 

Os bydd gofyn i unigolyn hunanynysu, ond nad yw’n gwneud hynny oherwydd ymddygiad ei gyflogwr, gallai hynny arwain at roi hysbysiad cosb benodedig i’r cyflogwr o hyd at £10,000, a gallai gael ei erlyn.

Ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu a yw mesurau'n rhesymol ai peidio

Wrth ystyried pa fesurau sy'n rhesymol, cewch ystyried y ffactorau isod, ymhlith pethau eraill;

  • Cost: a yw cost y mesur yn gymesur o ystyried ar gyfer faint o bobl y bydd y risg yn cael ei lleihau? Er enghraifft, yn gyffredinol, ni fyddai ehangu safle na mynnu rhagor o gerbydau fflyd yn gam cymesur, ond mae’n debyg na fyddai sifftiau ar wahân yn costio rhyw lawer.
  • Natur y gwaith: a yw'r mesurau yn ymarferol, neu a fyddent yn tanseilio'r broses o ddarparu'r gwasanaeth neu waith y busnes i'r fath raddau fel y byddent yn wrthgynhyrchiol?
  • A ellir rhoi mesurau ar waith heb roi iechyd a diogelwch pobl eraill yn y fantol? Pe byddai'r mesurau yn cynyddu'r risg i iechyd a diogelwch, er enghraifft, wrth weithredu peiriannau, mae’n debyg na fyddent yn fesurau rhesymol.
  • Natur a galluedd y bobl mewn gweithle – os yw gwasanaeth neu fusnes yn gyfrifol am ofalu am bobl agored i niwed neu’n gweithio gyda nhw, mae’n bosibl na fydd yn rhesymol iddo roi trefniadau cadw pellter corfforol caeth ar waith. Yn ogystal, dylid bob amser roi'r flaenoriaeth i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed.
  • O ran y mesurau a gymerir, dylai'r staff a’r gweithlu deimlo'n hyderus bod ystyriaeth briodol wedi'i rhoi i lefel y risg y maent yn ei hwynebu. Fel arfer, dylai cyflogwyr gyflwyno trefniadau  i ofyn am adborth am y mesurau y byddant wedi’u cyflwyno.

Gorfodi

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fusnesau ac eraill ddeall difrifoldeb y sefyllfa sy’n ein hwynebu fel cymdeithas, ac i gymryd y camau rhesymol sy’n angenrheidiol.

Drwy gydweithio, y gobaith yw y gall cyflogwyr a chyflogeion lunio barn resymol am y ffordd orau o gyfyngu ar gyswllt corfforol agos. Mae hynny o fudd i bawb, er mwyn i waith pwysig allu parhau.

Wedi dweud hynny, un rheswm pam mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mynd yn bellach na chanllawiau yn unig a chyflwyno dyletswydd gyfreithiol yw fel y bo modd cymryd camau gorfodi pan fydd angen gwneud hynny.

Mae gan yr heddlu a’r awdurdodau lleol bwerau i orfodi'r gofynion a osodir gan y rheoliadau ar fusnesau, gwasanaethau a gweithleoedd.

Mae canllawiau ar wahân ar gael am yr hyn a ddisgwylir mewn perthynas â gorfodi’r rheoliadau. Y nod yw:

  • hyrwyddo a chynnal sefyllfa lle mae pobl yn parhau i gydymffurfio â’r rheoliadau er mwyn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu;
  • sicrhau bod camau’n cael eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â sefyllfaoedd lle mae risg i’r coronafeirws ledaenu; a
  • sicrhau bod y rheini nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau yn cael eu dal i gyfrif.

I grynhoi, mae’r Rheoliadau’n nodi system benodol, ar wahân, ar gyfer gorfodi rheoliadau 16, 17 a 17A. Mae’r system honno’n darparu y caiff swyddogion gorfodi’r awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i fesurau penodol (penodedig) gael eu cymryd mewn perthynas â safleoedd, ac os oes angen, mae’r swyddogion hynny’n cael cau safleoedd. Gellir ei gwneud yn ofynnol i safleoedd gau naill ai oherwydd nad yw mesurau penodedig yn cael eu cymryd wedyn, neu oherwydd bod y safle wedi gweithredu’n groes i’r rheoliadau mewn ffordd sy’n ddigon difrifol i gyfiawnhau ei gau ar unwaith, neu ar ôl iddo gael ychydig iawn o rybudd yn unig.

Mae’r system orfodi i’w gweld yn Atodlenni 8 a 9 i’r Rheoliadau ac mae’n seiliedig ar gyflwyno “Hysbysiad Gwella Mangre” neu “Hysbysiad Cau Mangre” neu’r ddau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae rhagor o fanylion i’w gweld mewn canllawiau ar wahân − mesurau rhesymol i leihau risg coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd agored: canllawiau  swyddogion gorfodi.

Crynodeb

I grynhoi, dylai personau sy'n gyfrifol am safleoedd, ac y mae'n ofynnol iddynt gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle, ystyried y pwyntiau a ganlyn:

  • A oes angen i bobl fod yn bresennol yn gorfforol ar y safle, neu a ellid defnyddio dewisiadau eraill fel gweithio gartref neu gyfathrebu o bell?
  • Pan fo angen i bobl fod yn bresennol ar y safle, pa risgiau o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (a’i ledaenu wedyn) sydd wedi cael eu nodi? Mewn geiriau eraill, ble a phryd y gallai pobl ddod i gysylltiad ag ef?
  • Beth y gellir ei wneud i geisio atal pobl sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws, sydd â symptomau sy'n gysylltiedig â COVID-19, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag unrhyw un sydd wedi cael prawf positif, rhag bod ar y safle? Gallai hynny gynnwys cynnal profion, gofyn cwestiynau sy'n atgoffa pobl am y gofynion i hunanynysu, a sicrhau nad yw polisïau staffio yn gorfodi pobl sâl i fynd i’r gwaith.
  • Beth y gellir ei wneud i gadw pellter corfforol rhwng pobl ar y safle? Yn gyffredinol, dylid lleihau cymaint â phosibl ar ymwneud wyneb yn wyneb rhwng pobl. Mae gofyniad penodol i gadw pobl o aelwydydd gwahanol, neu − ar Lefelau Rhybudd 1 a 2 − grwpiau o hyd at 6 o bobl o aelwydydd gwahanol, 2 fetr oddi wrth ei gilydd o dan do (oni bai bod mesurau lliniaru eraill a gymerir yn ateb y diben o leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws neu’r risg o’i ledaenu). Gellir hefyd gyfyngu ar nifer y bobl ar y safle, rheoli pwy sy’n cael mynd i mewn, a defnyddio systemau unffordd.
  • Beth y gellir ei wneud i ddefnyddio mannau awyr agored yn hytrach na mannau dan do ar y safle? Gan fod llawer llai o risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn yr awyr agored, beth y gellir ei wneud i newid y ffordd y mae safleoedd yn cael eu defnyddio?
  • Beth y gellir ei wneud i wella’r awyru dan do, naill ai drwy ddefnyddio ffenestri a drafft naturiol neu drwy ddefnyddio systemau awyru mecanyddol?
  • Beth y gellir ei wneud i leihau'r amser y mae pobl yn ei dreulio gyda'i gilydd ar y safle, o gofio bod gronynnau firysau yn cronni dros amser mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n wael?
  • Beth y gellir ei wneud i leihau ymwneud agos wyneb yn wyneb rhwng pobl? Gellid cynnwys systemau ciwio, cyfyngu ar y defnydd o doiledau, rheoli mynediad, a defnyddio cyfarpar diogelu personol fel gorchuddion wyneb.
  • Beth y gellir ei wneud i wella hylendid? Dylid ystyried y staff, cwsmeriaid ac arwynebau ar y safle.
  • Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu er mwyn sicrhau bod modd cysylltu â phobl os byddant wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle? A oes modd gwneud hynny mewn ffyrdd sy’n sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir?