Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyflwr niwrolegol tymor hir yn effeithio ar dros 100,000 o bobl yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynllun, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mai 2014, yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, gan sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis cyflym, gofal effeithiol amserol, a chymorth i'w helpu i fyw gyda'u cyflwr. Nod y cynllun hefyd yw gwella'r wybodaeth sydd ar gael ynghylch cyflyrau a thriniaethau niwrolegol; yn ogystal â helpu i dargedu ymchwil at yr hyn sy'n achosi'r cyflyrau, a'r triniaethau a'r gwellhad sydd ar gael ar eu cyfer. 

Mae cyflwr niwrolegol tymor hir yn effeithio ar dros 100,000 o bobl yng Nghymru. Ymhlith y cyflyrau hyn mae parlys yr ymennydd, nychdod cyhyrol, clefyd Parkinson, sglerosis ymledol, ac epilepsi.
  
Cafodd y cynnydd a gafwyd yn erbyn y blaenoriaethau ar gyfer 2013 - 2017 ei nodi yn y Datganiad Cynnydd Blynyddol – Cyflyrau Niwrolegol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017. Mae'n cynnwys lleihad yn yr amser y mae unigolion yn ei dreulio yn yr ysbyty ar gyfartaledd; sef gostyngiad o 6.4 diwrnod yn 2010-11 i 4.2 diwrnod yn 2015-16. 

Mae hyd arhosiad yn dilyn derbyniad dewisol hefyd wedi lleihau o 3.9 diwrnod i 2.2 diwrnod; a gwelwyd lleihad tebyg ar gyfer derbyniadau brys, sef o 9.2 diwrnod i 7 diwrnod.

Mae'r cynllun wedi ei ddiweddaru ac mae ei brif gamau yn adeiladu ar y seiliau blaenorol. Rydyn ni'n parhau â'n hymgyrch i wireddu'n gweledigaeth o wella gwasanaethau niwrolegol ledled Cymru, drwy sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n fwy effeithiol ac yn cael eu darparu'n gyflymach, a hynny ochr yn ochr â gweledigaeth leol y Byrddau Iechyd ar gyfer trigolion eu hardal. 

Ymhlith y camau a gymerir, mae'r canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol drwy roi cyfle i gleifion a gofalwyr ddylanwadu ar wasanaethau
  • Sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis amserol o gyflyrau niwrolegol drwy ofyn i Fyrddau Iechyd ddarparu cyngor arbenigol o fewn 24 awr (7 diwrnod yr wythnos) i'r rheini sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty o dan amodau acíwt oherwydd y gallent fod yn dioddef o broblem niwrolegol
  • Gwneud yn siŵr bod gofal a chymorth ar gael mor agos at eu cartrefi â phosibl i'r rheini sy'n byw gyda chyflwr niwrolegol, drwy fod y gweithlu'n hyblyg ac yn meddu ar wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: 

“Rydyn ni'n awyddus i barhau i sicrhau bod pobl y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnyn nhw yn cael mynediad amserol i ofal o ansawdd uchel. Dylai'r gofal hwnnw fod wedi ei integreiddio â'r gwasanaethau cymdeithasol lle bo hynny'n briodol, waeth lle maen nhw'n byw a sut mae'r gwasanaethau'n cael eu darparu. 

“Dw i'n falch o'r ffaith ein bod wedi gallu adeiladu ar y cynnydd blaenorol wrth gyflawni'r cynllun hwn a datblygu gweledigaeth newydd a gwell ar gyfer diogelu dyfodol ein gwasanaethau. 

“Rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £1.2m i wella mynediad i wasanaethau niwro-adsefydlu yng Nghymru. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn blaenoriaethu'r angen i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau, ac maen nhw'n datblygu mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMS) a mesurau profiadau a adroddir gan gleifion (PREMS) er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau'n gwella'n barhaus. 

“Rydyn ni am i'r byrddau iechyd ddefnyddio'r cyllid hwn i wneud gwahaniaeth amlwg yn iechyd, lles ac annibyniaeth pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol tymor hir.”