Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno’n ffurfiol â phrosiect Comisiwn y Gyfraith sy’n archwilio ffyrdd o’i gwneud yn haws i bobl ymestyn neu brynu’r les ar eu cartref.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, becyn o gamau i reoli defnydd amhriodol o lesddaliadau ar gyfer tai newydd yng Nghymru a gwella tryloywder a dealltwriaeth ymhlith pobl sydd ynghlwm wrth drafodion lesddaliadau.
Gan weithio ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd y prosiect Comisiwn y Gyfraith hefyd yn ystyried sut i oresgyn rhwystrau i sicrhau mwy o ddefnydd o Gyfunddaliadau, sy’n ffordd amgen o berchen ar gartref.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Mae llawer o gwyno a beirniadu wedi bod am arferion gwael o ran y defnydd o lesddaliad yng Nghymru, ac rwyf wedi bod yn glir na wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi arferion gwael sy’n cael effaith andwyol ar berchnogion cartrefi.
“Dyma pam y cyflwynon ni feini prawf newydd ar gyfer Cymorth i Brynu - Cymru. Bellach, rhaid i ddatblygwyr roi rheswm dilys dros farchnata tŷ fel lesddaliad, a chydymffurfio â safonau gofynnol newydd ar gyfer gwerthu tai a fflatiau fel lesddaliadau drwy Cymorth i Brynu - Cymru.
“Rwyf wedi dweud yn glir nad yw’n amhosib y byddwn yn deddfu yn y dyfodol i wneud lesddaliad a chyfunddaliadau’n addas ar gyfer y farchnad dai fodern. Ar ôl derbyn adroddiad Comisiwn y Gyfraith, ynghyd â’n hymchwil ni ein hunain, af ati i nodi ein camau nesaf.
“Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i edrych ar bob datrysiad posib i fynd i’r afael â’r pryderon dilys sydd wedi cael eu nodi.”