Mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn llofnodwr cynghrair llywodraethau rhanbarthol Ewropeaidd, gan hyrwyddo twf, meithrin cydweithredu a datblygu cadwyni gwerth cryf yn y diwydiant lled-ddargludyddion.
Mae Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, ar ran Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi llofnodi datganiad i ymuno â Chynghrair Rhanbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop (ESRA), gan ddod yn un o’r 19 rhanbarth a sefydlodd y Gynghrair.
Bydd yr ESRA yn gweithredu fel llwyfan rhanbarthol yn ogystal â phartner i'r Undeb Ewropeaidd a bydd yn hyrwyddo cystadleurwydd y diwydiant yn fyd-eang. Mae gweithgareddau'r ESRA yn canolbwyntio ar:
- ymchwil ac arloesi, datblygu technolegau a chymwysiadau newydd
- sgiliau a thalent, hyrwyddo rhaglenni addysg a hyfforddiant
- datblygu clwstwr, hyrwyddo clystyrau rhanbarthol a phartneriaethau trawsranbarthol
Wedi llofnodi'r Datganiad, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn llofnodwr Cynghrair Rhanbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop.
"Mae Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol ar gyfer y sector lled-ddargludyddion yn ne-ddwyrain Cymru ac mae amcanion ESRA yn cyd-fynd â'n Rhaglen Lywodraethu a'n Strategaeth Arloesi, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
"Bydd ymuno â'r ESRA yn darparu cyfleoedd newydd i gwmnïau o Gymru ymwreiddio mewn cadwyni cyflenwi Ewropeaidd, cefnogi arloesedd, cydweithredu ac yn y pen draw greu sector lled-ddargludyddion mwy gwydn."
Wrth arwyddo ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Cynrychiolydd Cymru ar Ewrop, Derek Vaughan:
"Ewrop yw partner masnachu agosaf a phwysicaf Cymru o hyd, a bydd ein haelodaeth newydd o Gynghrair Ranbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop yn cefnogi ein Strategaeth Ryngwladol wrth inni gynnal perthynas agos a chadarnhaol gyda'r Undeb Ewropeaidd."
Cynhaliwyd y seremoni arwyddo, a gynhaliwyd gan Brif Weinidog Talaith Rydd Sacsoni, ym Mhwyllgor Rhanbarthau Ewrop ym Mrwsel ar 7 Medi.