Nod y prosiect sy’n fenter sy’n cael ei chynnal ar draws y Deyrnas Unedig (DU) erbyn hyn yw gweddnewid gofal i gleifion, ysgogi darganfyddiadau ym maes genomau a datblygu sector genomeg sy'n ffynnu.
Nod y prosiect sy’n fenter sy’n cael ei chynnal ar draws y Deyrnas Unedig (DU) erbyn hyn yw gweddnewid gofal i gleifion, ysgogi darganfyddiadau ym maes genomau a datblygu sector genomeg sy'n ffynnu.
Mewn cytundeb rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd a Genomics England (y cwmni sy'n arwain ar y Prosiect ar draws y DU), mae 420 o ddilyniannau genom cyfan wedi cael eu comisiynu ar gyfer cleifion sydd â chlefydau prin, a'u teuluoedd, yng Nghymru.
Mae'r Prosiect 100,000 o Genomau yn ceisio creu dilyniannau genom o 70,000 o bobl sydd ag afiechydon prin a'u teuluoedd, yn ogystal â'r rheini sydd â chanser. Hyd yn hyn, mae dilyniannau mwy na 50,000 o genomau cyfan wedi cael eu creu, a bydd y garreg filltir dyngedfennol o 100,000 yn cael ei chyrraedd erbyn diwedd 2018.
Yn y DU yn gyfan, mae llawer o bobl yn cael eu heffeithio gan afiechyd prin: mwy na 300 miliwn o bobl ar draws 6,000 o wahanol afiechydon prin, a thua hanner o'r rheini yn blant. Mae bywydau cleifion sy'n byw gydag afiechyd prin eisoes yn cael eu gweddnewid gan y Prosiect 100,000 o Genomau, gan fod creu dilyniannau genom yn arwain at ddiagnosis newydd, neu sy'n fwy cywir, neu fath arall o driniaeth.
Gallai cleifion afiechydon prin yng Nghymru a'u teuluoedd sy'n dewis cymryd rhan yn y Prosiect 100,000 o Genomau gael diagnosis, a byddant yn osgoi blynyddoedd o ansicrwydd a gofid (sy'n cael ei ddisgrifio fel y daith hir i ddiagnosis). Gyda diagnosis mwy sydyn a chywir, mae'n bosibl hefyd y bydd llai o bwysau ar gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dod â Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd, Parc Geneteg Cymru, y Cyngor Ymchwil Feddygol a Genomic England ynghyd i sefydlu'r Ganolfan Feddygaeth Genomeg gyntaf yng Nghymru. Bydd y ganolfan hon yn un arall i’w hychwanegu at y rhestr o 13 o ganolfannau eraill o'r fath sydd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, Canolfan Feddygaeth Genomeg Gogledd Iwerddon a Phrosiect Genomau yr Alban. Mae Canolfan Meddygaeth Genomeg Cymru, a fydd wedi'i lleoli ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, wedi cael cymorth o £2.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £1 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Mae cymryd rhan yn y Prosiect 100,000 o Genomau yn cefnogi 'Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl' Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth hon yn pennu nodau uchelgeisiol iawn ar gyfer meddygaeth genomeg, gan gynnwys datblygu:
- gwasanaethau genomeg meddygol ac iechyd y cyhoedd a gydnabyddir yn fyd-eang
- llwyfannau rhagorol ar gyfer meddygaeth fanwl a gwaith ymchwil mewn genomeg a gydnabyddir yn fyd-eang
- partneriaethau strategol newydd mewn genomeg a meddygaeth fanwl
- gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ymchwil i ddarparu'r sylfaen ar gyfer cyflenwi meddygaeth genomeg.
“Rydyn ni wrth ein boddau bod Cymru wedi ymuno â'r Prosiect 100,000 o Genomau. Drwy gydweithio â Genomics England, bydd cleifion ag afiechydon prin yng Nghymru yn gallu elwa ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn, sydd â'r potensial i ddod â diagnosis cyflymach, sy'n fwy cywir."
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Is-adran Canser a Geneteg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ac Ymgynghorydd Er Anrhydedd mewn Geneteg Clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yr Athro Julian Sampson, sy'n arwain ar y prosiect yng Nghymru:
“Mae gan gleifion yng Nghymru sydd ag afiechydon prin ac sydd wedi methu â chael diagnosis drwy gael y profion arferol gyfle nawr i gael mynediad at y prawf geneteg mwyaf cynhwysfawr eto, sef cael dilyniant o'i genom cyfan. Bydd hyn yn cynyddu'r cyfle o gael diagnosis penodol i lywio eu gofal iechyd. Mae Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect hwn ar gyfer y DU gyfan i sefydlu meddygaeth genomeg yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Bydd manteision pellgyrhaeddol i’r ddealltwriaeth o lawer o gyflyrau, yn ogystal â diagnosis a thriniaeth.”
Dywedodd Dr Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd:
“Mae creu Canolfan Meddygaeth Genomeg gydweithredol yn rhan allweddol o Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru. Bydd y ganolfan yn sbarduno gwaith ar gyfer troi ymchwil genomeg arloesol yn wasanaethau a thriniaethau gwell i bobl Cymru."
Dywedodd Dr Nathan Richardson, pennaeth gwyddoniaeth molecwlaidd a cellog yn y Cyngor Ymchwil Feddygol:
“Rydyn ni'n croesawu'r datblygiadau hynod gyffrous hyn a fydd yn helpu i sefydlu partneriaeth gadarn rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y gwaith yn dod â genomau cleifion ynghyd er mwyn inni allu delio'n well â'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu wrth inni geisio deall rôl geneteg ddynol mewn clefydau. Rydyn ni'n llawn cyffro o ystyried y posibilrwydd y bydd pobl yng Nghymru – a ledled y DU – sydd wedi'u heffeithio gan gyflwr prin yn elwa'n fawr o gyfnod newydd o feddygaeth genome."Dywedodd yr Athro Mark Caulfield, Prif Wyddonydd Genomics England:
“Mae genomeg yn gweddnewid gofal iechyd a'n gallu i roi diagnosis ar gyfer afiechydon prin a chanser, a'u trin. Wrth ymuno â'r rhaglen clefydau prin sy'n rhan o'r Prosiect 100,000 o Genomau, mae Cymru wedi rhoi ei hunan wrth galon chwyldro meddygaeth genomeg a fydd yn gwella canlyniadau i gleifion yn sylweddol. Bydd hefyd yn ysgogi mwy o ddarganfyddiadau cyffrous ac yn sbardun ar gyfer diwydiant genomeg a fydd yn ar flaen y gad ar lefel fyd-eang."