Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fod Cymru wedi sicrhau dros €100m o un o gronfeydd blaenllaw yr Undeb Ewropeaidd, i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu o bwys.
Horizon 2020 yw'r rhaglen ymchwil ac arloesi fwyaf erioed i gael ei chynnal gan yr UE. Ei nod yw cefnogi technoleg a gwyddoniaeth gwbl arloesol a hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol er mwyn darparu atebion i'r prif heriau sy'n wynebu ein cymdeithas.
Mae'r rhaglen hon yn un hynod o gystadleuol, ond ers iddi gael ei lansio mae busnesau a phrifysgolion yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn dros 2,800 o brosiectau cydweithredol rhyngwladol. Mae'r prosiectau hyn wedi dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru, gan helpu i sicrhau bod prifysgolion Cymru ar flaen y gad ym maes ymchwil.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Heddiw rydyn ni'n dathlu bod Cymru wedi llwyddo i gael cyllid o raglen Horizon 2020. Mae’r rhaglen hon yn gyfle gwerthfawr i fusnesau a phrifysgolion Cymru gymryd rhan flaengar drwy weithio ar brosiectau ymchwil ac arloesi o fri rhyngwladol, sy'n rhoi hwb i’n heconomi ar yr un pryd.
“Mae’r llwyddiant hwn yn dangos pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n parhau i gael mynediad llawn at Horizon 2020 a’r rhaglen fydd yn ei holynu, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Byddwn ni’n parhau i bwyso ar y Llywodraeth yn San Steffan i sicrhau bod hyn yn rhan o unrhyw berthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.”
Prifysgol Abertawe yw un o'r sefydliadau yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ennill cyllid Horizon 2020. Gyda chymorth o bron i €1.5m, mae ei phrosiect QNets yn ymchwilio i sut y gellir harneisio pŵer cyfrifiadurol ffiseg cwantwm ar gyfer prosesu gwybodaeth mewn meysydd megis ffonau clyfar, dysgu peiriannau, a systemau dadansoddi data mawr.
Dywedodd Dr Markus Muller o Brifysgol Abertawe:
“Bydd y cyllid gan Horizon 2020 yn ein helpu i fod ar y blaen yn y gwaith o sefydlu paradeim newydd ar gyfer prosesu gwybodaeth cwantwm.
“Gallai gryfhau'n sylweddol gyfraniad y brifysgol i'r ymchwil Ewropeaidd sy'n datblygu'n gyflym ym maes technolegau cwantwm, gan sefydlu conglfaen newydd yn ein cymdeithas fodern sy'n seiliedig ar wybodaeth."
Yn ogystal â hyn, mae'r cwmni angori Qioptiq Ltd, sydd wedi ei leoli yn Sir Ddinbych, a Phrifysgol Caerdydd wedi sicrhau €635,000 o gyllid Horizon 2020 ar gyfer gweithio ochr yn ochr â chonsortiwm o 20 o bartneriaid rhyngwladol ar y prosiect MANUELA.
Bydd y prosiect yn datblygu prosesau gweithgynhyrchu haenog mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys yn y diwydiant modurol ac ym meysydd peirianneg awyrofod, ynni a meddygaeth.
Dywedodd Lee Eccles, prif beiriannydd o Qioptiq Ltd:
“Mae Qioptiq wrth ei fodd o fod yn rhan o brosiect MANUELA a ariennir gan Horizon 2020. Bydd gwneud cyfraniad ymarferol i'r gwaith o ddatblygu technoleg arloesol fel hon yn helpu i sicrhau bod Qioptiq yn gallu cadw ei safle fel un o'r arloeswyr sy'n arwain y farchnad, gan hybu twf yn y cwmni, yr economi leol ac yng Nghymru.”
Dywedodd Dr Samuel Bigot o Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd:
“Bydd cymryd rhan ym mhrosiect MANUELA yn gyfle cyffrous i Brifysgol Caerdydd weithio gyda phartneriaid blaenllaw ledled Ewrop yn y byd diwydiannol a’r byd academaidd, gan weithio ar ddatblygiadau cwbl arloesol mewn dau faes technoleg newydd pwysig, sef deallusrwydd artiffisial ac argraffu 3D.”