Yn ystod 2021, cafodd Cymru un o’r cyfnodau prysuraf erioed o ran gweithgarwch ffilm a theledu, gyda mwy na 24 o gynyrchiadau yn cael eu ffilmio ledled y wlad rhwng mis Mai a mis Hydref – sy’n golygu y bydd llawer o gyfleoedd i weld ein gwlad hyfryd ar y sgrin yn 2022.
Yn ystod cyfnod y Nadolig, bydd dilynwyr Doctor Who yn cael gweld y cyntaf o dair rhaglen a fydd yn nodi perfformiad olaf Jodie Whittaker fel y Doctor. Bydd Russell T Davies, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn dychwelyd fel rheolwr y rhaglen i ddathlu Pen-blwydd y gyfres yn 60 oed yn 2023, gyda BBC Studios yn cynhyrchu’r rhaglen mewn partneriaeth â Bad Wolf. Bydd trydedd gyfres ‘A Discovery of Witches’, a gynhyrchir gan Bad Wolf ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ar gael ar Sky Max a NOW ar 7 Ionawr, a hon fydd y gyfres olaf.
Mae Cymru wedi cyflwyno cynyrchiadau mawr yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys ‘Havoc’ (Netflix) gyda Tom Hardy a Forest Whitaker, trydedd gyfres ‘His Dark Materials’ ar gyfer BBC One/HBO, a honno fydd yr un olaf, a chynhyrchiant Lucasfilm newydd sbon - cyfres deledu sy’n seiliedig ar y ffilm wreiddiol glasurol ‘Willow’, a gaiff ei dangos ar Disney+. Disgwylir i’r holl gynyrchiadau hyn - a gefnogir gan Cymru Greadigol - ymddangos ar ein sgrin yn 2022.
Drwy weithio law yn llaw â chynyrchiadau rhyngwladol mawr, mae Cymru Greadigol hefyd wedi cefnogi cynyrchiadau o Gymru gan gynnwys y ffilm hir ‘The Almond and Seahorse’ (Mad as Birds) gyda Rebel Wilson a chyfres ddrama chwe rhan ‘The Light / Y Golau’ gyda Joanna Scanlan, ac Alexandra Raoch ac Iwan Rheon sy’n wreiddiol o Gymru, a gynhyrchir ar y cyd gan Duchess Street Productions a Triongl mewn cydweithrediad ag APC Studios.
Mae Sgrin Cymru (sy’n rhan o Cymru Greadigol) hefyd wedi helpu i gynhyrchu dwy gyfres ddrama newydd ar Channel 4 y disgwylir eu darlledu yn hwyrach yn 2022: ‘The Birth Of Daniel F Harris’ (Clerkenwell Films) a ‘The Undeclared War’ (Playground Entertainment) gyda Mark Rylance a Simon Pegg, gan gynnwys fersiwn hir newydd o ‘Lady Chatterley’s Lover’ a ffilmiwyd yn rhannol yng ngogledd Cymru.
Mae Cymru Greadigol hefyd yn parhau i gefnogi'r sector cynhyrchu annibynnol sy’n ffynnu yng Nghymru ac sy’n cynhyrchu cynnwys ffeithiol arloesol a phoblogaidd. Cafodd cyfres Avanti Media ar Channel 4 ‘The Perfect Pitch’ a chyd-gynhyrchiad rhyngwladol Cwmni Da, ‘Rain Stories’, y bwriedir eu cyflwyno y flwyddyn nesaf, gefnogaeth drwy gyllid Cymru Greadigol.
Mae’r cynnydd hwn o ran gweithgarwch cynyrchiadau wedi arwain at alw na welwyd ei debyg o’r blaen am weithlu medrus. Mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio gyda’r sector er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau ar unwaith. Mae hyn yn sicrhau bod gan ein gweithlu’r sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol i barhau i ddarparu criw o ansawdd uchel ar gyfer cynyrchiadau Cymru a’r rheiny sydd am ffilmio yma.
Mae cyllid Cymru Greadigol yn gwarantu ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl; ac mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi cael budd o weithio ar gynyrchiadau a gefnogwyd gan Cymru Greadigol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Caiff y lleoliadau hyn eu monitro er mwyn helpu i lywio llwybrau gyrfaoedd i bob hyfforddai yn y dyfodol.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
“Roedd cael blwyddyn gynhyrchiol yng nghanol pandemig – pan oedd galw enfawr am gynnwys newydd – wedi cyflwyno heriau a chyfleoedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld Cymru’n cael ei harddangos yn amlwg ar ein sgriniau y flwyddyn nesaf mewn rhai cynyrchiadau mawr. Bydd hyn yn rhoi enw gwell fyth i ni’n fyd-eang fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, gyda'r criw, y sgiliau, y gofod stiwdio a’r lleoliadau a all wasanaethu pob math o gynyrchiadau.”