Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfraith newydd yn dod i rym heddiw sy'n gosod isafbris am alcohol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn yn golygu na fydd modd i alcohol gael ei werthu na'i gyflenwi am lai na 50c yr uned. 

Ni fyddwch yn sylwi ar newid ym mhris y rhan fwyaf o ddiodydd alcoholig, ond bydd cynhyrchion cryf a rhad, fel seidr gwyn, yn ddrutach o lawer.

Nod y polisi, a gyflwynwyd drwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, yw lleihau lefelau yfed peryglus a niweidiol. 

Mae tua 10 o bobl yn marw bob wythnos yng Nghymru o achosion yn ymwneud ag alcohol. Mae alcohol yn achosi niwed i gymdeithasau yn ogystal ag unigolion, gyda threthdalwyr yn talu'r gost. Bob blwyddyn, mae alcohol yn arwain at bron i 60,000 o dderbyniadau i ysbytai yng Nghymru ac amcangyfrifir ei fod yn costio £159 miliwn i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. 

Aeth Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, i ymweld â thîm gofal alcohol yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Nod y tîm yw cefnogi pobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gydag anhwylderau camddefnyddio alcohol. 

Dywedodd:

Rydyn ni'n gwybod bod achosion o yfed niweidiol yn cynyddu pan fo alcohol yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno. Ni fydd yr isafbris yn effeithio ar yfwyr cymedrol, sydd o bosib yn pryderu y bydd pris peint yn codi. Nod y ddeddfwriaeth hon yw lleihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan yr unigolion hynny sydd fwyaf mewn perygl o gamddefnyddio alcohol.

Dywedodd Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 

Rydyn ni'n gweld yr effaith y mae goryfed alcohol yn ei chael ar fywyd bob dydd pobl. Ar wahân i wneud niwed i'r iau, mae alcohol yn effeithio ar y galon, yr arennau a'r ymennydd. Mae'n effeithio ar wasanaethau ysbyty ac ar fywydau pobl yn fwy cyffredinol. Bydd cyflwyno isafbris yn lleihau'r niwed sy’n cael ei achosi gan alcohol. Mae hwn yn gam pwysig a gobeithio y bydd yn gwneud i bobl feddwl am eu perthynas ag alcohol.

Yn yr Alban, lle cyflwynwyd isafbris am alcohol ym mis Mai 2018, mae’r dangosyddion cynnar yn galonogol. Gwelwyd lleihad yn y cyfaint o alcohol pur mewn diodydd a werthwyd yn ystod y flwyddyn, a gostyngiad yn y cyfaint o alcohol a werthwyd am brisiau isel iawn.