Neidio i'r prif gynnwy

Mae prifysgolion a busnesau yng Nghymru wedi sicrhau cyllid o fwy na €50m gan raglen ymchwil ac arloesi fwyaf yr UE, sef Horizon 2020, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r rhaglen, a reolir yn uniongyrchol gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn buddsoddi mewn prosiectau trawsffiniol sy'n anelu at dorri tir newydd ym maes arloesi a gwyddoniaeth, a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau o’r radd flaenaf.

 

Ers i Horizon 2020 gael ei lansio yn 2014, mae mwy na 100 o sefydliadau yng Nghymru wedi llwyddo i ennill €54.1m o gyllid gan yr UE yn ariannu i weithio ar brosiectau ledled Ewrop.

 

Ac yntau’n croesawu'r newyddion, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford: 

"Mae Horizon 2020 yn cynnig cyfleoedd gwych i brifysgolion a busnesau yng Nghymru fod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi, ac i gydweithio gyda sefydliadau blaenllaw ledled Ewrop.

 "Rhaglen gystadleuol iawn yw hon felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi rhagori ar y garreg filltir o €50m. Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn ymchwil ac arloesi sy'n galluogi sefydliadau yng Nghymru i chwarae eu rhan wrth gyflwyno rhai prosiectau gwirioneddol arloesol."

 

Yn ddiweddar mae SmartKem Ltd, cwmni o Lanelwy sy’n gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion, wedi  llwyddo i sicrhau €1.8m o gronfeydd yr UE i arwain prosiect Horizon 2020 i gyflymu mabwysiadu lled-ddargludyddion hyblyg yn Asia. O dan y  prosiect bydd SmartKem yn cydweithio ag arbenigwyr ledled Ewrop dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Meddai Steve Kelly, Prif Weithredwr SmartKem:

"Rydym yn falch iawn o gael yr hwb ariannol hwn, a fydd yn cyflymu’r gwaith o ddiwydiannu ein technoleg platfform transistor ffilm denau ar gyfer gweithgynhyrchu arddangosiadau hyblyg a chrwm yn Asia. 

"Bydd arddangosfeydd OLED hyblyg yn rhan annatod o genhedlaeth newydd o ddyfeisiau sy’n seiliedig ar arddangosiadau ar gyfer cymwysiadau symudol, modurol, diwydiannol ac arwynebedd mawr. Mae'r galw rydym yn ei weld am ein technoleg yn pwysleisio cryfder diwydiant cemegau'r UE a phwysigrwydd arloesi o ran deunyddiau wrth greu twf mewn marchnadoedd newydd megis y diwydiant arddangosiadau hyblyg."

Ychwanegodd Mark Drakeford: 

"Fel rhan o'n hymrwymiad i fanteisio i’r eithaf ar gronfeydd yr UE yng Nghymru cyn i’r DU ymadael â’r UE, rydym hefyd yn gwahodd rhagor o gynigion i ddod i elwa ar y cronfeydd strwythurol gwerth £40m y gellir eu defnyddio i gefnogi masnacheiddio ymchwil ac arloesi gan gydweithio â busnesau."