Neidio i'r prif gynnwy

Heno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio Bil a fydd yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru rhag Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y llynedd, pasiodd Llywodraeth y DU y Trade Union Act 2016. Mae'r Ddeddf honno’n pennu trothwyon newydd llym o ran canran y pleidleisiau o blaid streicio yn y gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hefyd yn monitro ac yn cyfyngu ar y gweithgareddau y mae undebau llafur yn ymgymryd â nhw er mwyn cefnogi’r gweithlu.


Mae'r GIG, addysg, llywodraeth leol a'r gwasanaeth tân yn enghreifftiau o wasanaethau cyhoeddus datganoledig y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdanynt.


Mae Bil Undebau Llafur Llywodraeth Cymru yn datgymhwyso'r rhannau o Ddeddf y DU sy'n ymwneud â'r gwasanaethau hynny. 


Mae hynny'n golygu y bydd y trothwy o 40% o'r pleidleisiau o blaid streicio, y darpariaethau sy'n ymwneud ag amser cyfleuster yr undebau llafur, a'r amodau ar ddidynnu'r tâl a godir am ymaelodi ag undeb o'r gyflogres, yn cael eu gwrthdroi ac na fyddant bellach yn gymwys i Gymru. 


Mae'r Bil hefyd yn diogelu'r sefyllfa o ran atal gweithwyr asiantaethau rhag gweithio yn lle gweithwyr y sector cyhoeddus pan fônt yn gweithredu'n ddiwydiannol, rhag ofn y bydd Llywodraeth y DU yn mynd ati i ddileu’r  ddarpariaeth honno.  


Wrth groesawu’r ffaith bod y Bil wedi cael sêl bendith, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol:


"Mae heddiw'n ddiwrnod arwyddocaol iawn i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a hefyd i ddatganoli ei hun. 


"Ddylen ni byth fod wedi cael ein rhoi mewn sefyllfa lle'r oedd yn rhaid inni gyflwyno Bil er mwyn gwrthdroi rhannau o un o Ddeddfau'r DU. Dro ar ôl tro, gwnaethon ni rybuddio Llywodraeth y DU fod y ddeddfwriaeth hon, a fydd yn achosi niwed a rhwygiadau, yn ymyrryd â pholisïau datganoledig a phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe wnaeth hyd yn oed ei chyfreithwyr ei hun ei chynghori y byddai ar dir sigledig ond penderfynodd fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth beth bynnag.  


"Rydyn ni wedi dweud erioed nad oedd angen y Trade Union Act ac y byddai'n arwain at fwy o wrthdaro rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan danseilio gwasanaethau cyhoeddus a'r economi yn lle'u cefnogi.


"Byddai adrannau allweddol ar drothwyon o ran canran y bleidlais, amser cyfleuster a didynnu taliadau undeb drwy'r gyflogres yn ei gwneud yn anos darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn newid y cydbwysedd yn y berthynas rhwng cyflogwyr ac undebau.


"Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a mudiad yr undebau llafur yn cydweithio mewn ffordd adeiladol. Rydyn ni wedi creu traddodiad o weithio ar sail partneriaethau cymdeithasol, sy'n seiliedig ar barch at waith yr undebau llafur a hawliau'u haelodau, ac mae'r traddodiad hwnnw wedi bod yn un buddiol − yn enwedig pa fo rhywun yn ystyried sut mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin ag anghydfodau yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn.


"Heddiw, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dewis gweithredu yn y ffordd briodol, gan ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru rhag Deddf y DU, sy'n troi'r cloc yn ôl. Byddwn ni'n mynd ati mewn ffordd gadarn iawn i amddiffyn rhag unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ymyrryd yn y broses gyfreithlon a democrataidd hon."  


Wrth gyfeirio at y bleidlais yn y Senedd heddiw ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru), dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield:


“Addawodd Llywodraeth Cymru y byddai’n diogelu’n gwasanaethau datganoledig rhag ymosodiad Llywodraeth San Steffan ar yr undebau a heddiw, gwireddwyd yr addewid hwnnw.  


“Mae TUC Cymru yn croesawu’r Bil newydd a’r gefnogaeth gref mae’r Cynulliad wedi’i rhoi i’n ffordd o weithio yng Nghymru, sy’n seiliedig ar bartneriaethau cymdeithasol.    


“Mae’n llywodraeth wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’r undebau a chyflogwyr er mwyn cael y fargen orau bosibl i wasanaethau cyhoeddus Cymru a’i weithlu medrus.

 

“Mae’r ‘Ffordd Gymreig’ yn gweithio ac mae’n fodd i osgoi gweithredu diwydiannol. Hanfod gweithio ar sail partneriaethau yw cysylltu â chyflogwyr a’r llywodraeth yn gynnar yn y broses, ac mae hynny’n caniatáu inni fynd i’r afael ag unrhyw anghytundeb cyn iddo droi’n anghydfod drwy drafod mewn ffordd aeddfed a gonest. 

“Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a phleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd, gallwn, drwy weithio fel hyn, barhau i weithredu dros bobl Cymru ac i ddarparu’r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.”

Wrth gyfeirio at fygythiadau a wnaed yn y gorffennol gan Weinidogion Llywodraeth y DU I’r perwyl y byddent yn ceisio deddfu yn erbyn Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn y dyfodol, ychwanegodd Martin Mansfield:

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU barchu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a’r penderfyniad a wnaed gan ein Cynulliad Cenedlaethol i basio’r Bil hwn. Bydd unrhyw ymgais ystrywgar i ymyrryd â’r ffordd y mae’n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu rhedeg yng Nghymru yn annemocrataidd ac yn anghyfansoddiadol.”