Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 99% o ddyfroedd ymdrochi Cymru wedi cydymffurfio â safonau uchel Ewrop.
Mae’r canlyniadau ar gyfer dyfroedd ymdrochi Cymru yn 2017 yn dangos bod 80 o 104 o ardaloedd ymdrochi Cymru yn ardderchog. Mae hyn yn cynnwys dyfroedd ymdrochi poblogaidd ym Mhorthcawl, Dinbych-y-pysgod, Prestatyn a’r Barri.
Roedd 103 o 104 o ddyfroedd ymdrochi Cymru wedi cydymffurfio â’r safonau Ewropeaidd, sy’n golygu eu bod ymhlith y rhai gorau yn Ewrop.
Gan groesawu’r canlyniadau, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
“Mae gan Gymru rai o arfordiroedd mwyaf prydferth y byd, sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae cynnal ein dyfroedd ymdrochi at y safonau uchel hyn yn hanfodol os rydym am barhau i werthu Cymru fel cyrchfan wyliau.
“Ond nid yw hyn yn ymwneud ag ymwelwyr â Chymru’n unig. Mae amgylchedd iach yn helpu i gynnal ein heconomi a gwella ein hansawdd bywyd. Gyda dyfroedd ymdrochi glân, bydd ein harfordir a’n hamgylchedd naturiol yn parhau i ddarparu llawer o fanteision i bobl Cymru - o’r Gorllewin gwledig i’r De mwy trefol.
“Er gwaethaf llawer o waith caled a pheth gwelliant, mae’n siomedig bod un ardal heb gydymffurfio â safonau Ewropeaidd o hyd. Serch hynny, bydd gwaith i fynd i’r afael â’r problemau yn yr ardal hon yn parhau.”
Dywedodd Kevin Ingram, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae dyfroedd ymdrochi Cymru yn cael eu cydnabod eu bod ymhlith y rhai gorau yn Ewrop. Unwaith eto, mae’n traethau wedi cadw eu safle, gydag 80 o’r 104 o draethau yn cyrraedd y statws ardderchog, a 99 y cant ohonyn nhw’n cyrraedd y statws digonol neu’n uwch.
“Rydyn ni’n arbennig o falch o hyn gan fod yr haf gwlyb wedi cael effaith uniongyrchol ar ansawdd dŵr ar draws y DU.“Rydyn ni’n deall mor werthfawr yw ein traethau i’r bobl sy’n byw ger arfordir Cymru ac i ymwelwyr. Byddwn yn parhau i gydweithio â chymunedau, Dŵr Cymru a’r awdurdodau lleol i gynnal a gwella glendid ein dyfroedd ymdrochi.”