Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi llongyfarch dau brosiect o Gymru, sydd wedi elwa ar gyllid gan yr UE, ac sydd wedi llwyddo yng ngwobrau RegioStars ym Mrwsel eleni.
Enillodd Nant Gwrtheyrn, canolfan i'r Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol yng Ngwynedd, y brif wobr yn y categori buddsoddi mewn treftadaeth ddiwylliannol. Cyrhaeddodd prosiect ASTUTE Prifysgol Abertawe (sef prosiect ar gyfer uwch dechnolegau gweithgynhyrchu cynaliadwy) y rhestr fer yn y categori cefnogi pontio diwydiannol clyfar.
Curodd Nant Gwrtheyrn gystadleuwyr o rannau eraill o Ewrop i ennill un o wobrau RegioStars 2018. Mae'r prosiect hwn wedi trawsnewid pentref, a oedd gynt yn bentref i weithwyr chwarel ar Benrhyn Llŷn, drwy ei droi'n ganolfan addysg ffyniannus ac yn atyniad i ymwelwyr. Mae oddeutu 45,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn ymweld â'r ardal leol, ac mae 600 o bobl yn mynychu cyrsiau Cymraeg yn y ganolfan, gan roi hwb sylweddol i'r economi leol.
Mae prosiect ASTUTE, a'i raglen ddilynol ASTUTE2020, yn hyrwyddo cydweithio rhwng prifysgolion a'r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae mwy na 250 o gwmnïau ac 8 prifysgol wedi bod yn rhan o ASTUTE, gan greu effaith economaidd gwerth £200m; 383 o gynhyrchion newydd; 174 o swyddi a 10 o fentrau newydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Mae'r prosiectau hyn o Gymru yn cael cyllid gan yr UE, a dw i wrth fy modd o weld eu rhagoriaeth yn cael ei gydnabod yn Ewrop.
“Mae Nant Gwrtheyrn yn enghraifft ysbrydoledig o sut mae cyllid yr UE yn gallu rhoi hwb i ardal leol, gan ddenu ymwelwyr a chreu swyddi i gryfhau'r economi.
“Mae ASTUTE wedi cyrraedd lefelau uchel o arloesi drwy hyrwyddo cydweithio rhwng diwydiant a'r byd academaidd.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:
“Mae Nant Gwrtheyrn yn un o eiconau diwylliant Cymru, ac mae'r ganolfan hon wedi helpu miloedd o bobl i ddysgu Cymraeg.
“Dw i mor falch fod ei chyfraniad i'r gymuned leol ac i Gymru gyfan yn cael ei gydnabod ar lefel Ewropeaidd. Llongyfarchiadau!”