Bydd dros £8.5m yn cael ei fuddsoddi i greu Cofnodion Electronig am Gleifion a System Atgyfeirio Electronig ddigidol ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru. Dyma’r system genedlaethol gyntaf o’i math.
Bydd y systemau digidol newydd i gleifion yn helpu i gefnogi’r cynlluniau a gyhoeddwyd gennym heddiw i dynnu sylw at ddull gweithredu gwasanaethau optometreg yn y dyfodol yng Nghymru. Mae pwysigrwydd mesurau ataliol, ynghyd â dulliau rheoli a thriniaeth gan optometryddion gofal sylfaenol yn ganolog i’n cynlluniau. Mae’r dull gweithredu ar gyfer y dyfodol yn cefnogi strategaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru, sef darparu gofal yn y gymuned yn agosach at gartrefi pobl.
Bydd £4.8m yn cael ei fuddsoddi mewn system gwmwl i foderneiddio’r modd y mae cleifion â chyflyrau llygaid yn cael eu hatgyfeirio a’u monitro, a gwella canlyniadau i gleifion. Bydd y system yn rhoi mynediad i Offthalmolegwyr yn yr ysbytai ac Optometryddion cymunedol i wybodaeth glinigol a rennir er mwyn monitro iechyd llygaid cleifion a darparu gofal ar y cyd. Bydd yn cefnogi gofal cleifion yn yr ysbyty ac mewn lleoliadau cymunedol (optegwyr ar y stryd fawr) fel rhan o ddull sengl cysylltiedig. Bydd £3.506m o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddisodli caledwedd TG presennol a ddefnyddir mewn ysbytai a lleoliadau gofal sylfaenol.
Mae Gwasanaethau Llygaid mewn Ysbytai yn ymdrin â 10% o’r holl apwyntiadau cleifion allanol yng Nghymru a bellach dyma’r arbenigedd prysuraf ar gyfer cleifion allanol. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, disgwylir y bydd cyffredinrwydd clefyd llygaid fel glawcoma a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint yn cynyddu 30-40% dros yr ugain mlynedd nesaf. Mae’r newidiadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael gwasanaeth gofal llygaid integredig a digidol i sicrhau y gellir rhoi gofal i gleifion ar yr adeg gywir ac yn y lleoliad cywir.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, eisoes wedi dechrau ar draws Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Mae gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru’n arwain y ffordd ac mae ein cynlluniau ar gyfer dyfodol optometreg yn amlinellu sut y gallwn barhau i ddatblygu ac arloesi. Yn ganolog i’w datblygiad mae’r cofnod electronig am gleifion a’r platfform atgyfeirio electronig newydd, a fydd yn moderneiddio darpariaeth triniaeth gofal llygaid ac yn gwella profiad a chanlyniadau i gleifion.”