Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, fframwaith cenedlaethol, y cyntaf o’i fath, ar gyfer atal, diagnosis, triniaeth a chymorth ar gyfer niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol (ARBD).
Term ambarél yw ARBD a ddefnyddir i ddisgrifio sbectrwm o gyflyrau a briodweddir gan nam gwybyddol cronig oherwydd newidiadau i strwythur a gweithrediad yr ymennydd a briodolir i ddefnydd gormodol o alcohol dros amser.
Mae’r wythnos hon yn nodi wythnos ymwybyddiaeth o alcohol a nod y fframwaith newydd yw codi ymwybyddiaeth o sut y gall ARBD effeithio ar bobl a’r cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae’r fframwaith wedi’i ddylunio i roi canllawiau i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar sut y dylent ymateb i bobl yr effeithir arnynt gan niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae hefyd yn canolbwyntio ar sut y gall rhannau ehangach o’r gymuned gefnogi pobl sydd ag ARBD. Bydd ymwybyddiaeth a hyfforddiant sy’n cefnogi’r fframwaith newydd yn rhan allweddol o hyn.
Nod hirdymor y fframwaith fydd sefydlu gwasanaethau ARBD pwrpasol ym mhob bwrdd iechyd y bydd ganddynt fynediad at ystod o wasanaethau, gan gynnwys seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol. Mae cymorth sefydliadau gofal cymdeithasol a’r trydydd sector hefyd yn hanfodol o ran gofalu am unigolion sydd ag ARBD, er mwyn darparu llety da a chymorth ehangach yn y gymuned i bobl y mae eu hangen arnynt.
Datblygwyd y fframwaith gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
Mae cefnogi pobl sydd â niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol yn rhywbeth sy’n gofyn am ymlyniad gan ystod eang o sefydliadau. Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth ar draws cymunedau a sefydliadau i sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau a’u bod yn cael eu trin mewn modd amserol. Mae’r fframwaith yn darparu canllawiau a dull cydgysylltiedig ar gyfer yr holl bobl sy’n ymwneud â helpu pobl sydd ag ARBD. Hoffwn ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r arbenigwyr lu yn y maes am eu mewnbwn i’r darn hwn o waith.
Mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r niwed y gall alcohol ei achosi i unigolion a’u teuluoedd ac iddyn nhw gydnabod bod cymorth ar gael, os bydd angen.
Dywedodd Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Fframwaith Trin Niwed i’r Ymennydd sy’n Gysylltiedig ag Alcohol yng Nghymru yn fawr iawn. Rydyn ni’n gwybod bod diagnosis annigonol o’r cyflwr hwn yn y DU hyd yma, nad yw’n gyflwr dirywiol os bydd y claf yn rhoi’r gorau i yfed, a chyda’r cymorth priodol, y gall y rhan fwyaf o unigolion gyrraedd rhyw lefel o wellhad. Yn ogystal â hyn, gyda’r mentrau ymgysylltu cynnar ac ataliol priodol, mae’n bosibl y bydd llai o unigolion a’u teuluoedd yn cael eu heffeithio. Mae’r canllawiau hyn yn cynrychioli llwybrau cynhwysfawr ac arloesol at gyflawni’r canlyniadau hyn.