Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn datgan pecyn o fesurau i gyflawni'r ymrwymiadau a nodwyd ganddi yn ei strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn gynharach y mis hwn.
Mae'r camau gweithredu yn rhan allweddol o ymgyrch Cymru tuag at fod yn genedl ddiwastraff, carbon sero net erbyn 2050, neu'n gynharach.
Mae'r rhain yn cynnwys mwy o gyllid i gyflwyno cerbydau casglu trydan a phrosiectau’r economi gylchol ledled Cymru, moratoriwm ar unwaith ar ynni ar raddfa fawr newydd o wastraff, a diwygiadau gerlllaw sy'n newid y gêm ar gyfer plastig.
Y mis hwn, bydd cerbydau trydan yn cael eu cyflwyno ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff yng Nghasnewydd, Caerdydd a Phowys.
Yn ogystal â bod yn dda i'r amgylchedd, mae'r cerbydau'n arwain at gostau rhedeg is a llai o sŵn, gyda Llywodraeth Cymru yn dyrannu £3m yn ychwanegol i ehangu'r rhaglen.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn adeiladu ar lwyddiant ei chefnogaeth i brosiectau arloesol ledled Cymru drwy ei Chronfa Economi Gylchol – sydd eisoes yn cefnogi 180 o brosiectau arloesol ym mhob rhan o Gymru.
Bydd y gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael yn dod â'r cyllid i fwy nag £80m.
Y llynedd, cyflawnodd Cymru ei chyfradd ailgylchu uchaf erioed, yn fwy na 65% - ac mae wedi datgan uchelgeisiau i fod yn arweinydd byd yn y cyswllt hwn. O ganlyniad, bydd yr angen am losgi gwastraff, neu ei anfon i safleoedd tirlenwi, yn lleihau ac mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu moratoriwm ar unwaith ar ynni ar raddfa fawr newydd o weithfeydd gwastraff. Bydd y moratoriwm newydd yn cwmpasu ynni newydd o weithfeydd gwastraff sydd â chapasiti o 10MW neu fwy, a bydd yn dod i rym ar unwaith.
Bydd y moratoriwm hefyd yn golygu mai dim ond os gall ymgeiswyr ddangos bod angen cyfleusterau o'r fath yn y rhanbarthau lle maent wedi'u cynllunio y caniateir gweithfeydd ar raddfa fechan, o lai na 10MW. Hefyd byddai angen i weithfeydd bach gyflenwi gwres, ac – os yw'n bosibl – bod wedi’u galluogi i ddal a storio carbon, neu'n barod ar gyfer hynny.
Mae camau'n cael eu cymryd hefyd i fynd i'r afael â llygredd plastig, gyda dau ymgynghoriad gerllaw yn rhoi sylw i ddiwygiadau sy'n newid y gêm ar gyfer pecynnau plastig a Chynllun Dychwelyd Ernes newydd ar gyfer cynwysyddion diodydd.
Mae'r mesurau hyn yn cael eu datblygu ar y cyd â'r Llywodraethau eraill yn y DU a byddant yn arwain at gynhyrchu llai o wastraff, mwy o eitemau'n cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu, a llai o sbwriel. Byddant hefyd yn cymell gwell dylunio a chynnydd yn y defnydd o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu mewn pecynnu.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Rydym yn falch ein bod ar ein ffordd i wneud Cymru yn genedl ddiwastraff a charbon sero net.
Rydym eisoes yn arweinydd byd-eang o ran ailgylchu, ond mae cyhoeddiadau heddiw’n dangos sut rydym yn cymryd camau i fynd ymhellach a chyflymu symudiad Cymru at Economi Gylchol.
Mae hyn yn golygu nid yn unig ailgylchu'n dda, ond cymryd camau beiddgar i gael y gwerth mwyaf allan o'r deunyddiau ac osgoi gwastraff rhag codi yn y lle cyntaf.
O gerbydau casglu trydan ar ein strydoedd i'r Gronfa Economi Gylchol sy'n cefnogi siopau ailddefnyddio a chaffis atgyweirio yn ein cymunedau ni, bydd pobl ledled Cymru yn gweld newidiadau pwysig yn eu cymunedau yn sgil y camau hyn.
Mae'r moratoriwm ar ynni ar raddfa fawr o wastraff a'r ymgynghoriadau gerllaw ar becynnu plastig a dychwelyd ernes yn ddatganiad clir o'n bwriad. Gyda'i gilydd maent yn dangos sut rydym yn cymryd camau i wneud yr economi gylchol yn realiti yng Nghymru drwy gadw adnoddau mewn defnydd ac osgoi pob gwastraff
Nid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn unig mae'r camau hyn, ond maent hefyd yn hanfodol i feithrin gwydnwch yn ein heconomi a'n cymunedau wrth i ni geisio adfer o'r pandemig.