Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad cenedlaethol ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gyfraith newydd, sy’n dod i rym heddiw yn ei gwneud yn drosedd i ymarferwyr tyllu drefnu a/neu roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed. 

Nod y gyfraith newydd yw amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed posibl i’w hiechyd oherwydd twll mewn rhan bersonol o’u corff.  

Daw’r newid o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy’n gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff personau o dan 18 oed yng Nghymru. Bydd hefyd yn drosedd “gwneud trefniadau” i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed yng Nghymru.

Hefyd, gellid ystyried bod rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plant a phobl ifanc o dan 18 oed yn fater amddiffyn plant. Drwy gael twll mewn rhan bersonol o’u corff, gall pobl ifanc o dan 18 oed fod yn agored i niwed.

Yn ystod ymweliad â Frontier Tattoo Parlour yng Nghaerdydd i drafod y gyfraith newydd, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

“Yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’r gyfraith newydd hon yn sicrhau ein bod ni’n gallu diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc. 

“Mae’n bryder bod traean o bobl ifanc sydd wedi cael twll mewn rhan bersonol o’u corff wedi sôn am gymhlethdodau yn dilyn triniaeth. Mae’r materion amddiffyn plant a allai hefyd godi o’r sefyllfa hon yn amlinellu ymhellach byth bwysigrwydd gweithredu cyfraith o’r fath.

“Rwy’n gobeithio y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn helpu i leihau’r materion hyn, a bod ymarferwyr yn deall pwysigrwydd cael prawf o oedran ymlaen llaw.” 

Dywedodd Prif Swyddog Deintyddol Cymru, Dr Colette Bridgman:

“Fe all twll yn y tafod arwain at ddifrod parhaol i’r dannedd a’r deintgig, ac fe all achosi chwyddo difrifol yn y geg sy’n gallu effeithio ar anadlu. Mae llawer o ddeintyddion yng Nghymru wedi gweld cleifion sydd wedi cael niwed parhaol yn dilyn tyllu ac mae timau deintyddol yng Nghymru wir yn croesawu’r gyfraith newydd hon.”  

Daeth astudiaeth yn Lloegr i’r casgliad bod cymhlethdodau wedi’u cofnodi yn dilyn traean o’r holl achosion o dyllu’r corff ymhlith unigolion 16-24 oed. Daeth yr un astudiaeth i’r casgliad bod mwy o gymhlethdodau wedi digwydd mewn cysylltiad â mathau penodol o dyllu’r corff, gan gynnwys tyllau mewn rhannau personol o’r corff. Y problemau mwyaf tebygol o gael eu cofnodi oedd problemau yn dilyn twll yn y tafod (50%), twll yn yr organau cenhedlu (45%) a thwll yn y tethi (38%). Gan fod pobl ifanc yn parhau i dyfu yn eu harddegau, gallai twll mewn rhan bersonol o’u corff arwain at ragor o gymhlethdodau wrth i’w cyrff ddatblygu. Hefyd, gall fod yn llai tebygol bod gan bobl ifanc y profiad neu’r wybodaeth o ran sut i lanhau neu ofalu am dwll mewn rhan bersonol o’u corff, sy’n golygu mwy o berygl o haint.Mae ymarferwyr sy’n rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yng Nghymru yn cael eu hannog i sicrhau bod ganddynt system gadarn i’w helpu i gael prawf o oedran, ac i gael cydsyniad wedi’i lofnodi ar gyfer pob triniaeth er mwyn osgoi cael eu herlyn a’u dirwyo.