Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU y gwneir buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI).
Nod Cynllun Gweithredu Cyfleoedd y DU, a lansiwyd gan Brif Weinidog y DU Keir Starmer heddiw, yw ysgogi twf economaidd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a defnyddio technoleg ddeallusol i wella bywydau pobl bob dydd.
Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i elwa o'r cynlluniau seilwaith AI, gyda gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu canolfannau technoleg, adnoddau a rennir a chanolfannau data.
Fel rhan o'r buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw, mae cawr technoleg yr Unol Daleithiau, Vantage Data Centers, yn bwriadu buddsoddi dros £12 biliwn ar draws y DU, gan greu dros 11,500 o swyddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Vantage ers 2020 i gefnogi datblygiad ei ganolfannau data yng Nghymru.
Disgwylir y bydd y rhan helaethaf o'r buddsoddiad newydd gan Vantage yn dod i Gymru. Bydd y buddsoddiad mwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r cwmni'n bwriadu datblygu hen safle ffatri Ford i fod yn un o gampysau canolfan ddata fwyaf Ewrop.
Mae Prif Weinidog Cymru’n awyddus i sicrhau bod Cymru'n elwa o'r buddsoddiad mewn AI. Dywedodd:
"Mae'r cyhoeddiad heddiw, sy'n cynnwys buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd mewn AI gan rai o gwmnïau technoleg mwyaf y byd, yn hwb enfawr i hyder diwydiant yng Nghymru.
"Ry'n ni'n gweld bod AI yn cael ei ddefnyddio fwyfwy fel grym er daioni, boed hynny drwy wella cynhyrchiant neu drwy gynnig datrysadau doethach i broblemau bob dydd.
"Gall sefydlu'r dechnoleg a'r seilwaith ehangach yma yng Nghymru arwain at fanteision enfawr i’r economi. Mae arweinwyr y diwydiant yn cydnabod bod yr amodau'n iawn yma yng Nghymru, gyda llywodraeth a fydd yn gwneud popeth posibl i wireddu'r cynlluniau hyn.
"Ni fydd hyn yn digwydd dros nos ac mae'n bwysig bod y seilwaith, y data, y sgiliau a'r dalent ar gael i sicrhau bod pob un ohonom yn elwa o'r datrysiadau hyn. Does dim amheuaeth bod Cymru mewn sefyllfa ardderchog i elwa o ystyried y gwaith sydd eisoes ar y gweill yma."
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Rebecca Evans, yn arwain adolygiad i ddarganfod sut y gall Cymru fanteisio ar gyfleoedd a datblygu cryfderau Cymru o ran datblygu technolegau sy'n seiliedig ar AI.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda sefydliadau eraill i ddatblygu canllawiau i gefnogi cyrff cyhoeddus Cymru i fabwysiadu AI mewn modd cyfrifol, diogel a moesegol.
Mae Cymru eisoes wedi gweld tystiolaeth o ba mor werthfawr yw’r defnydd o AI mewn gofal diagnostig yn y GIG, gyda llwyfan patholeg ddigidol ar gyfer canfod canser y prostad a chanser y fron dan arweiniad Betsi Cadwaladr wedi gweld cynnydd o 13% yng nghyfraddau canfod canser y prostad.
Mae Estyn, yr arolygiaeth ysgolion, hefyd yn cynnal adolygiad o'r defnydd o AI Cynhyrchiol mewn ysgolion, a fydd yn archwilio'r manteision posibl i ysgolion, yn ogystal ag ystyried yr heriau y maent yn eu hwynebu.