Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn arwain yr apêl ar i Lywodraeth y DU wneud mwy i gefnogi datblygiadau ynni'r haul ac ynni'r gwynt ar y tir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru law yn llaw â nifer fawr o gyrff a mudiadau amgylcheddol ac ynni yng Nghymru'n gwneud datganiad cyhoeddus heddiw o'u cefnogaeth i ynni adnewyddadwy. 

Mae'r datganiad yn dilyn cyhoeddi targedau Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar ar gyfer ynni adnewyddadwy ac yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ganiatáu i dechnolegau gwynt y tir a solar gystadlu yn rowndiau'r ocsiwn ynni adnewyddadwy. 

Ar hyn o bryd, mae rowndiau'r ocsiwn ynni adnewyddadwy, neu'r Contractau Gwahaniaeth fel y'u gelwir, yn sicrhau cymorthdaliadau ar gyfer technolegau gan gynnwys ynni gwynt y môr, ynni morol a biomas. Nid yw'r ocsiwn yn cynnwys ynni gwynt y tir nag ynni'r haul, sef y ffynonellau sydd â'r potensial i gynnig y cyfleoedd mwyaf i sector ynni adnewyddadwy Cymru. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae'r DU wedi buddsoddi mwy na £9 biliwn i ddatblygu'r sector ynni adnewyddadwy ac mae'r costau wedi gostwng. 

"Ond wedi dweud hynny, mae'r newidiadau disymwth ym mholisïau Llywodraeth y DU wedi difetha rhannau mawr o'r sector ynni adnewyddadwy, gyda Gweinidogion y DU yn dod â datblygiadau gwerthfawr yng Nghymru i stop cyn pryd. Yn 2015 yn unig, cafodd pedwar datblygiad ynni gwynt newydd yn y Canolbarth a chanddynt gapasiti o 300MW eu gwrthod gan Lywodraeth y DU. 

“Mae’r rhan fwyaf o’r buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy gan Lywodraeth y DU yn mynd yn awr i brosiectau  ar y môr y tu allan i Gymru.  Talwyr biliau yng Nghymru, ymhlith eraill, sy’n talu am y buddsoddiad hwn.

"Yn ein barn ni, y technolegau isaf eu costau, fel gwynt y tir ac ynni'r haul, sy'n rhoi'r cyfleoedd gorau i ffrwyno costau cynhyrchu ar filiau ynni. Maen nhw'n rhoi cyfle hefyd i fusnesau Cymru a'n heconomi wledig gryfhau a dod yn fwy hunangynhaliol mewn dyfodol y tu allan i'r UE.  

"Mae'r datganiad rydym ni a rhai o sefydliadau mwyaf allweddol Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw yn galw am newid. Rydyn ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi datblygiadau ynni'r haul ac ynni'r gwynt ar y tir. 

"Mae'n hanfodol bwysig er mwyn gwireddu'n hamcanion ffyniant a datgarboneiddio fod gennym fframwaith o bolisïau i sicrhau mai'r prosiectau mwyaf fforddiadwy sy'n darparu'r rhan fwyaf o'n cyflenwad ynni."