Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ar ganol taith i ddysgu mwy am gyfiawnder yn yr Alban, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.
Mae'r Comisiwn yn cyfarfod arbenigwyr ar gyfiawnder yr Alban, yn amrywio o Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder, Michael Matheson, i'r Uwch Farnwriaeth, arweinwyr Heddlu'r Alban a Gwasanaeth Carchardai yr Alban, yn ogystal â grwpiau sy'n hyrwyddo cyfiawnder i fenywod a chyfreithwyr ac academyddion blaengar.
Mae'r Comisiwn yn awyddus i ddysgu o ymagwedd benodol yr Alban at Gyfiawnder, ei phwyslais ar gymuned ac iechyd i fynd i’r afael â throseddu, a'i gweledigaeth at y dyfodol.
Wrth siarad heddiw, dywedodd yr Arglwydd Thomas: "Gallwn ddysgu cryn dipyn o weledigaeth integredig yr Alban am gyfiawnder a thegwch. Mae Cymru a'r Alban fel ei gilydd yn canolbwyntio ar gymunedau mwy diogel a llesiant pobl a chenedlaethau'r dyfodol."
Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2017 gan Lywodraeth Cymru i adolygu sut y mae ein system gyfreithiol a chyfiawnder yn gweithio a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol.
Ers mis Chwefror, mae'r Comisiwn wedi dechrau cynnal digwyddiadau ar draws Cymru er mwyn clywed barn y bobl sy'n gweithio yn y system gyfiawnder a chyfreithiol, ac sy’n cael eu heffeithio ganddi, gan gynnwys carcharorion a staff carchar y Berwyn, sef y carchar mwyaf ond un yn Ewrop.
Mae'r Comisiwn yn ceisio tystiolaeth ysgrifenedig tan ddechrau mis Mehefin cyn symud ymlaen at dystiolaeth lafar.