Neidio i'r prif gynnwy

Mae brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn cael eu cyflwyno yng Nghymru o'r wythnos hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn y cyfnod diweddaraf hwn o’r rhaglen frechu bydd pobl dros 75 oed, pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn cael gwahoddiad i fynd am eu brechiad atgyfnerthu.

Yn ogystal, bydd pant 5 i 11 oed yn dechrau cael cynnig eu brechlyn cyntaf o heddiw ymlaen hefyd. Bydd angen i rieni a gwarcheidwaid roi caniatâd iddyn nhw gael y brechlyn.

Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyfnod diweddaraf y rhaglen frechu ers sawl mis.

Mae pawb sy’n gymwys am frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn yn cael eu hannog i aros am eu gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd neu eu meddyg teulu.

Daw hyn ar ôl i Eluned Morgan dderbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i roi brechiad atgyfnerthu arall i bobl sy’n wynebu risg uwch o gael COVID-19 difrifol.

Cynghorir brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn oddeutu 6 mis ar ôl y dos diwethaf o’r brechlyn i gynnal lefelau uchel o imiwnedd ar gyfer y rheini y bernir eu bod yn fwyaf agored i niwed.

Mae byrddau iechyd hefyd yn cynnig apwyntiadau i blant 5 i 11 oed ar gyfer eu brechlyn cyntaf. Dyma gynnig rhagofalus i gynyddu eu himiwnedd yn erbyn COVID-19 difrifol cyn ton bosibl yn y dyfodol ac i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar eu haddysg.

Bydd y rhan fwyaf o blant 5 i 11 oed yn cael cynnig dau ddos o’r brechlyn,12 wythnos ar wahân.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal lefelau uchel o amddiffyniad rhag COVID-19 a bod pawb sy’n cael cynnig brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn yn derbyn y gwahoddiad.

Rydym yn dilyn y cyngor diweddaraf gan JCVI a byddem yn annog pawb sy’n gymwys i aros i gael cynnig eu brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn.