Stondin Cymru yn y Meetings Show yn Olympia yw'r fenter gyntaf yn yr ymgyrch genedlaethol rydym yn ei datblygu.
Stondin Cymru yn y Meetings Show yn Olympia (13-15 Mehefin) yw'r fenter gyntaf yn yr ymgyrch genedlaethol rydym yn ei datblygu. Yn rhannu stondin Cymru y bydd - ICC Wales, y Celtic Manor Resort, Croeso Caerdydd, Vale Resort, Venue Cymru, Cambria DMC, Call of the Wild, Surf Snowdonia a Fforest.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae gan Gymru hanes clodwiw o gynnal rhai o ddigwyddiadau mawr y byd ac yn dilyn Ffeinal Cygnhrair Pencampwyr UEFA penwythnos diwetha - y digwyddiad mwyaf ym myd y campau yn 2017 - rydyn ni nawr am adeiladu ar y profiad hwnnw i ddenu digwyddiadau busnes i Gymru.
"Ar hyn o bryd, mae Cymru'n denu llai na 2% o werth busnes cynadleddau a chyfarfodydd y DU gyfan ond mae gennym botensial aruthrol i ddenu digwyddiadau cymdeithasau Prydeinig a rhyngwladol, cyfarfodydd cyhoeddus a thrydydd sector, cyfarfodydd corfforaethol a digwyddiadau datblygu tîm i ganolfannau a chyrchfannau braf y wlad.
"Byddwn yn sefydlu tîm bychan yn unswydd i ddenu digwyddiadau sy'n gysylltiedig â rhagoriaeth academaidd, gwyddonol a meddygol ynghyd ag â'r prif sectorau a rhanbarthau twf rydym yn eu targedu ar gyfer mewnfuddsoddiad, buddsoddiad uniongyrchol o dramor a datblygu economaidd. Bydd Cymru'n cael ei llwyfanu fel gwlad hyblyg ac arloesol sydd â'i golygon ar y byd ehangach. Mae synergeddau â sectorau targed fel Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol ac Ynni yn creu cyfleoedd go iawn i ddenu digwyddiadau busnes i Gymru.
Fel gwlad fach gysylltiedig, gall Cymru agor drysau i arloeswyr, arbenigwyr diwydiannol, proffesoriaid a gwyddonwyr sydd â gwir ddealltwriaeth o'u meysydd."
Mae hon yn fenter ar gyfer Cymru gyfan fydd yn lledaenu effeithiau digwyddiadau busnes ledled economi Cymru. Bydd yn elwa hefyd ar fomentwm ICC Cymru a chyda phenderfyniad VisitBritain i ddychwelyd i'r farchnad digwyddiadau busnes rhyngwladol, daw â rhagor o gyfleoedd eto i Gymru.