Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi croesawu heddiw (23 Gorffennaf) ganlyniad ymgynghoriad ar draws y DU ynghylch cyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng mis Chwefror a mis Mai eleni a gofynnwyd i drigolion Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon fynegi eu barn ynghylch Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr. Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach ynghylch cynigion ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes mewn perthynas â chynwysyddion diodydd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar yr un pryd.
Byddai cyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn golygu bod cyfrifoldeb ar gynhyrchwyr am ysgwyddo cost net llawn casglu a rheoli deunydd pacio plastig. Y nod fyddai lleihau'r deunydd pacio a gaiff ei ddefnyddio a sicrhau bod y deunydd yn haws ei ailgylchu. Byddai cyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn hwb pellach i'r arfer o ailgylchu cynhwysyddion diodydd.
Byddai'r mesurau hyn, yn eu tro, yn creu'r cyfle i wella ymhellach berfformiad ailgylchu cyffredinol Cymru ac yn gwella ansawdd yr amgylchedd lleol, gan helpu i atal sbwriel.
Dywedodd Hannah Blythyn:
"Rwy'n falch o weld bod gan y cyhoedd gymaint o ddiddordeb yn y mater hwn a'u bod mor frwdfrydig. Nod yr ymgynghoriad yw ceisio mynd i'r afael â phroblem llygredd plastig untro yn gyffredinol. Bydd cyflwyno'r mesurau pwysig hyn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais a'n camau gweithredu ar gyfer lleihau gwastraff yn sylweddol a chyflawni economi gylchol a bydd hefyd yn ein galluogi i gyflawni ein hymrwymiad at ddatgarboneiddio.
"Mae Cymru eisoes yn wlad sy'n ailgylchu llawer iawn o'i gwastraff ond nid da lle gellir gwell a'r nod yw datblygu'n economi gylchol lle y gallwn osgoi pob math o wastraff a lle y caiff adnoddau eu defnyddio am gymaint â phosibl o amser.
"Bydd Cymru'n cydweithio â Llywodraethau eraill y DU yn awr er mwyn datblygu'r cynigion hyn, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi sicrhau bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff cartrefi."