Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi croesawu ffigurau swyddogol gan Lywodraeth y DU sy’n dangos bod Cymru’n parhau i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol.
Gwariwyd £2,696 y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru – 6% yn uwch nag yn Lloegr.
Mae’r gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi cynyddu mewn termau gwirioneddol ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf (2013-14; 2014-15 a 2015-16).
Yn 2015-16 roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru yn gyfystyr â £1,320 - 4% yn uwch nag yn Lloegr.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Er gwaethaf toriadau Llywodraeth y DU, mewn termau gwirioneddol, i’n cyllideb gyffredinol, mae’r ffigurau hyn yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mwy yn y gwasanaethau cyhoeddus allweddol sydd bwysicaf gan bobl Cymru.
“Mae gwario ar ein GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol yn ganolog i’n cynlluniau gwariant ar gyfer 2017-18. Mae’r ffigurau hyn eto’n arwydd o’n hymrwymiad i ddarparu’r gofal gorau i bobl ledled Cymru.
“Rydym yn gwario mwy y pen ar addysg nag a wneir yn Lloegr – mae hynny’n dangos mor benderfynol yr ydym yng Nghymru o ddarparu’r system addysg orau er mwyn i bob plentyn gael y cychwyn gorau posib.
“Mae’r ffigurau hyn heddiw yn dangos gymaint yr ydym yn gwerthfawrogi ein gwasanaethau cyhoeddus a sut yr ydym wedi gwneud ein gorau i’w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf y cyni parhaus.”