Mae cynrychiolwyr dros 80 o gwmnïau o Gymru ar fin dod ynghyd yng Nghaerdydd heddiw ar gyfer yr ail uwchgynhadledd i'w chynnal yng Nghymru ar gyfer busnesau Heathrow.
Y nod fydd sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i elwa ar y gwaith o adeiladu drydedd redfa'r maes awyr a'i gefnogi.
Mae hyn yn dilyn cefnogaeth mwyafrif llethol yr ASau fis diwethaf i gynllun adeiladu rhedfa newydd gwerth £14bn. Dywedir y daw ag 8,400 o swyddi a gwerth £8bn o dwf economaidd.
Bydd grwpiau ac arweinwyr busnes yn yr uwchgynhadledd yn cael gwrando ar Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, Pennaeth Siambrau Masnach y De a'r Canolbarth, Heather Myers, Cyfarwyddwr Pro Steel Engineering, Richard Selby a Phrif Swyddog Strategol Maes Awyr Heathrow, Andrew Macmillan yn esbonio sut i gael y gorau o'r cyfleoedd sydd i ddod.
Bydd yna gyfleoedd hefyd i gyflenwyr a phrynwyr rwydweithio â'i gilydd i feithrin cysylltiadau.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Amcangyfrifir y daw'r rhedfa newydd ag 8,400 o swyddi newydd a gwerth £8bn o dwf economaidd ac rwy'n benderfynol bod cyfran dda ohonyn nhw'n dod i Gymru.
"Fel Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n gweithio'n glos â Heathrow ac yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Cymru'n cael y gorau o'r cyfleoedd y mae'r rhedfa newydd yn eu cynnig.
"Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i greu cysylltiadau gwell rhwng Heathrow a Chymru er lles twristiaid a busnesau a gweithio'n galed i ddod ag un o'r Hybiau Logistig - lle caiff peth o'r gwaith adeiladu ar gyfer y rhedfa ei wneud - i un o'r chwe safle yng Nghymru sy'n dal i fod ar y rhestr fer. Byddai hynny'n creu cannoedd o swyddi newydd a rhoi miliynau o bunnau o hwb i'n heconomi.
"Mae'r cyfarfod heddiw, yr ail o'i fath yng Nghymru, yn gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig Cymru i hyrwyddo'u nwyddau a'u gwasanaethau i Heathrow ac i greu cysylltiadau gwerthfawr â Chadwyn Gyflenwi'r Maes Awyr gan helpu i ddod â buddiannau economaidd i Gymru.
"Bydd yn gyfle ardderchog hefyd i gysylltu â busnesau eraill ac ystyried cyfleoedd i weithio ar y cyd er mwyn chwyddo'r manteision economaidd i bawb, a sicrhau bod Cymru gyfan yn teimlo budd y prosiect seilwaith mawr hwn.