Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rheoliadau newydd i atal pobl sy’n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig lle mae lefelau’r coronafeirws yn uchel rhag teithio i Gymru yn dod i rym yn nes ymlaen heddiw. Cadarnhawyd hynny gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym am 6pm heddiw (dydd Gwener, 16 Hydref 2020).

Mae'r camau'n cael eu cymryd oherwydd bod Prif Weinidog y DU wedi gwrthod ceisiadau Prif Weinidog Cymru i wneud y canllawiau teithio mewn mannau yn Lloegr lle mae lefelau’r coronafeirws yn uchel yn rhai gorfodol.  

O dan y rheoliadau, ni fydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion o’r coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru am y tro.

Maent yn cael eu cyflwyno i helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd lle mae’r lefelau’n uchel i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Mae nifer yr achosion ledled Cymru yn cynyddu ac mae ein gwasanaeth iechyd o dan bwysau wrth i fwy o bobl fynd yn sâl.

Mae rhan helaeth o Gymru bellach o dan gyfyngiadau lleol, sy’n golygu nad yw trigolion yr ardaloedd diogelu iechyd lleol hyn yn cael teithio y tu hwnt i ffiniau eu siroedd heb esgus rhesymol. Bwriad y rheolau yw atal yr haint rhag lledaenu o fewn Cymru ac i ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig.

Er mwyn diogelu Cymru, rydyn ni’n cyflwyno’r rheoliadau teithio newydd ehangach hyn i’w gwneud yn glir na chaiff pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae lefelau’r coronafeirws yn uchel deithio i rannau o Gymru lle mae nifer yr achosion yn isel.

Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i gadw’r cymunedau lle mae lefelau’r haint yn isel mor ddiogel â phosibl, a bydd y cyfyngiad synhwyrol ac angenrheidiol hwn yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd trefol, poblog iawn i ardaloedd llai poblog.

Bydd y rheoliadau teithio newydd yn caniatáu i bobl i deithio am rai rhesymau cyfyngedig, er enghraifft i fynd i’r gwaith.

Mae’r cyfyngiadau lleol sydd ar waith eisoes yng Nghymru yn golygu nad yw llawer o bobl sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd lleol – sef ardal awdurdod lleol fel arfer – yn cael mynd a dod o’u hardal heb esgus rhesymol. Bwriad hynny yw atal y coronafeirws rhag lledaenu i rannau eraill o Gymru a’r DU.