Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru yn chwarae rhan arweiniol yn rhaglen y DU ar gyfer trin cleifion coronafeirws gan ddefnyddio rhoddion gwaed gan bobl sydd wedi gwella o COVID19 - ‘plasma ymadfer’.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae plasma heb COVID-19 wedi cael ei ddefnyddio’n ddyddiol yn GIG Cymru ar gyfer amrywiaeth o anghenion am flynyddoedd lawer. Bydd plasma ymadfer COVID-19 yn helpu cleifion i ddatblygu imiwnedd wrth iddo ‘drallwyso’ gwrthgyrff yn erbyn y feirws, gan helpu’r unigolyn sy’n derbyn i frwydro yn erbyn yr haint.

Mae cleifion sydd wedi gwella’n cael gwahoddiad drwy lythyr, os ydynt yn gymwys, i roi gwaed i’r cynllun. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysbyty’r Brifysgol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ledled y DU yn awr i rannu gwybodaeth, gweithdrefnau, arfer gorau a dysgu.     

Bydd y rhaglen yn defnyddio budd trallwysiadau plasma i wella cyflymder gwellhad cleifion COVID-19 a’u goroesiad. Yng Nghymru, bydd y plasma sy’n cael ei gasglu ar gael i glinigwyr er lles cleifion COVID-19, er enghraifft, drwy gymryd rhan mewn treialon clinigol a fydd yn sail i’r defnydd gorau posib yn y dyfodol.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canfod ac yn ysgrifennu at gyfranwyr posib sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif ac sy’n gymwys.              

Bydd y plasma’n cael ei gasglu a’i brosesu gan Wasanaeth Gwaed Cymru. Mae diogelwch a lles y rhoddwyr yn hollbwysig a rhaid i’r rhoddwyr fod wedi gwella’n llwyr cyn rhoi, ac yn rhydd o’r feirws. Am y rhesymau hyn, fel rheol, ni fydd y plasma’n cael ei gasglu tan 28 diwrnod ar ôl gwella a chedwir at y meini prawf diogel sydd wedi’u sefydlu ar gyfer dewis rhoddwyr gwaed. 

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Mae’n wych gweld Cymru’n chwarae rhan arweiniol yn y prosiect yma sydd â photensial i wella adferiad cleifion yn sylweddol, ac achub bywydau. Byddwn yn cofnodi’r holl ganlyniadau ac yn eu cyfrannu at y dysg yn y DU ac yn fyd-eang am y defnydd o’r dechnoleg hon.”

Dywedodd Uwch Gynghorydd Proffesiynol y Prif Swyddog Meddygol, Dr Gill Richardson:

“Mae plasma ymadfer yn blasma sy’n cael ei gasglu gan gleifion sydd wedi gwella o’r afiechyd, yn yr achos yma COVID-19. Bydd plasma gan gleifion sydd wedi gwella o’r feirws yn cynnwys gwrthgyrff y mae eu system imiwnedd wedi’u cynhyrchu i frwydro yn erbyn y feirws. Gellir trallwyso hwn i gleifion sydd â systemau imiwnedd sy’n cael anhawster gyda’u gwrthgyrff eu hunain.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n gyflym gyda’n gwyddonwyr arbenigol yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, Adran Imiwnoleg Ysbyty’r Brifysgol Cymru, Ymgynghorwyr Gofal Critigol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i lansio’r cynllun arloesol yma. Yn absenoldeb unrhyw frechiad neu therapi gwrthfeirol ar hyn o bryd, mae ganddo botensial arwyddocaol i gynorthwyo gyda gwellhad cleifion.”

Dywedodd Stuart Walker, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ar gyfer BIP Caerdydd a’r Fro:

“Mae ein staff arbenigol, sy’n gweithio yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghymru, yn hynod falch ein bod ni wedi gallu cyfrannu at ddatblygu’r driniaeth arloesol yma. Mae rhaglen plasma ymadfer COVID-19, sy’n cynrychioli triniaeth gwbl arloesol i gleifion gydag afiechyd COVID-19 difrifol, yn bosib oherwydd y cydweithredu gwych yma rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at y defnydd cyntaf o’r driniaeth yma gyda chleifion yn yr Ysbyty, gan fod hwn yn cynnig opsiwn therapiwtig gwirioneddol ar gyfer y cyflwr yma sy’n gallu bod yn angheuol.’’