Heddiw, bydd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans a Martin Lewis o MoneySavingExpert.com yn dod at ei gilydd i lansio gweithdrefn safonol ar gyfer gwneud cais am gymorth treth gyngor yng Nghymru i bobl sydd â nam difrifol ar eu meddwl.
Wedi'i ddatblygu â MoneySavingExpert.com - gwefan fwyaf y DU i ddefnyddwyr - ac awdurdodau lleol, mae'r dull newydd hwn yn rhoi Cymru ar y blaen yn yr ymdrech i wneud y dreth gyngor yn decach.
Am y tro cyntaf, caiff pobl sydd wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol ac sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd eu trin yn gyson ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr un cymorth a gostyngiadau lle bynnag y maent yn byw. Byddant hefyd yn gallu hawlio'n ôl unrhyw ostyngiadau treth gyngor hyd at yr adeg pan gawsant y diagnosis.
I gael y cymorth hwn, mae Llywodraeth Cymru, MoneySavingExpert.com ac awdurdodau lleol Cymru wedi datblygu un ffurflen syml y gall pobl sydd â nam difrifol ar eu meddwl ei defnyddio i hawlio'r hyn y mae hawl ganddynt iddo. Mae'r ffurflen ar gael erbyn hyn ym mhob awdurdod lleol a chanolfan gynghori ledled Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd gyda'r dull newydd hwn, gan helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed i gael y cymorth a’r gostyngiadau y mae ganddynt hawl eu derbyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn i MoneySavingExpert a Martin Lewis am ddwyn y mater hwn i’n sylw a gweithio gyda ni i’w ddatrys.
“Mae hyn yn enghraifft wych o gydweithio ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i wneud y dreth gyngor yn decach.
“Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau cysondeb yn y dull o weinyddu gostyngiadau ac esemptiadau i bawb sy'n gymwys.”
Dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com:
"Mae nifer o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, y rhai sy'n byw â 'nam meddyliol sylweddol' wedi bod yn gymwys i gael gostyngiad treth gyngor ers blynyddoedd, ond yn anffodus dydy pobl ar draws Prydain ddim yn cael gwybod hynny'n aml iawn – sy'n golygu eu bod yn colli arian a allai fod wedi trawsnewid ansawdd eu bywydau.
"Dydy'r rhan fwyaf o gynghorau ddim yn helpu i dynnu sylw at hyn, ac mae'n warthus bod achosion yn aml o rwystro pobl rhag ei hawlio drwy drosglwyddo gwybodaeth anghywir. Dywedodd rhai aelodau o staff, pan wnaethom eu ffonio'n ddirybudd, nad oedd y gostyngiad yn bodoli, sy'n golygu bod gwahaniaethau mawr yn nifer y bobl sy'n cael y cyfle i fanteisio ar y cymorth ar draws y wlad. Yn syml iawn, nid yw hyn yn dderbyniol.
"Rwy'n hynod o falch bod ein hymchwil a'n hymgyrch wedi cael croeso mor gynnes yng Nghymru, ac rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru am gymryd camau sydyn a chynhwysfawr pan gafodd wybod am y broblem. Bydd cynghorau Cymru yn disgleirio ar y mater hwn, gan ddod â chyfiawnder a newid sylweddol, gwirioneddol a fydd yn helpu rhai o aelodau mwyaf anghenus y gymdeithas. Fy ngobaith yw y bydd gweddill Prydain yn camu o'r tywyllwch cyn hir hefyd, ac fe fyddwn yn parhau i bwyso am hynny."
Y dull hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y dreth gyngor yn decach. Ar 1 Ebrill, cyflwynwyd deddfwriaeth newydd er mwyn dileu'r gosb o garchar i bobl am beidio â thalu'r dreth gyngor, ac er mwyn esemptio pobl ifanc hyd at 25 oed sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor yng Nghymru.